Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Pretty Woman: The Musical

Pretty Woman: The Musical

Theatr Donald Gordon

29 Ebrill – 4 Mai 2024

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Pretty Woman: The Musical {{::on_sale_date.label}} Theatr Donald Gordon MM/DD/YYYY 15 event-1676

Pretty Woman: The Musical

29 Ebrill – 4 Mai 2024

Theatr Donald Gordon

Mae Pretty Woman: The Musical yn mynd ar daith ledled y DU ac Iwerddon o’r diwedd, felly gwnewch nodyn o’r dyddiad i weld rom-com gorau Hollywood, yn fyw ar y llwyfan, pan fydd y sioe gerdd arobryn yma yn ymweld â Chanolfan Mileniwm Cymru yng ngwanwyn 2024.

Ar ddiwedd yr 80au, cwrddodd Vivian ag Edward a newidiodd ei bywyd am byth. Byddwch yn rhan o’u rhamant yn y fersiwn theatraidd syfrdanol yma o’r stori gariad ddiamser, a dewch i adnabod y cymeriadau eiconig mewn ffordd newydd sbon mewn sioe anhygoel a fu’n llwyddiant ysgubol yn y West End yn Llundain, ac sy’n sicr o godi eich calon.

"Missing it would be a big mistake. Huge"

Grazia

Gyda sgôr roc gan yr enillwyr Grammy® Bryan Adams a Jim Vallance (‘Summer of ’69’, ‘Heaven’), cyfarwyddyd a choreograffi gan enillydd gwobr Tony®, sef Jerry Mitchell (Kinky Boots, Hairspray), a llyfr gan gyfarwyddwr y ffilm wreiddiol Garry Marshall a’r sgrin-awdur J.F. Lawton, bydd y tîm creadigol pwerus sy’n cynrychioli goreuon y byd cerddoriaeth, Hollywood a Broadway yn sicrhau y byddwch chi’n cael amser hudol yn Pretty Woman: The Musical. 

 

Canllaw oed: 12+
Bydd y cynhyrchiad hwn yn cynnwys rhegi. Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.

Amser cychwyn:
Llun – Sad 7.30pm
Iau + Sad 2.30pm

Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 20 munud (yn cynnwys 1 egwyl)

Weithiau bydd salwch neu wyliau’n codi, felly nid oes modd i gynhyrchwyr warantu bod unrhyw un o’r artistiaid yn ymddangos ym mhob perfformiad.

CYNIG AELODAU

Gostyngiad o £10 ar noson agoriadol (2 bris uchaf). Aelodaeth.

CYNIGION GRŴP

Grwpiau 10+ gostyngiad o £5, Grwpiau 20+ gostyngiad o £6, Grwpiau 40+ gostyngiad o £7, Llun – Iau ar y 2 bris drutaf. Trefnu ymweliad grŵp.

CYNIG DAN 16 + MYFYRWYR

Gostyngiad o £5. Yn gymwys ar y 2 bris drutaf, Llun – Iau.

CYNIGION I BOBL ANABL, DIGYFLOGEDIG

Gostyngiad o £5. Yn gymwys ar y 2 bris drutaf, Llun – Iau.

Mae Cynllun Hynt ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.

Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.

Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon