Ydy Aishwarya wedi marw? Neu ydy hi wedi gadael ar ochr chwith y llwyfan?
Dawns gomedi meta, yn llawn tyrfedd bywyd a marwolaeth, hiwmor tywyll a gwreiddioldeb.
Mae Rambert a Ben Duke yn feistri theatr ddawns lle mae’r dawnsio yn eithriadol ac mae’r theatr yn cyflwyno straeon cymhellol.
Yn Cerebrus, dewch i mewn i fyd lle mae dawns yn fater o fywyd neu farwolaeth. Dyma fyfyriad ar fytholeg a marwoldeb, gyda ffasiwn angladd. Mae Goat wedi’i ysbrydoli gan gerddoriaeth ac ysbryd Nina Simone, gyda band byw ar y llwyfan yn perfformio ei chaneuon eiconig gan gynnwys Feelings, Feeling Good a Ain’t Got No/I Got, Life.
Yn dilyn eu taith Peaky Blinders lwyddiannus, dyma eich cyfle nesaf i weld dawnswyr campus a beiddgar Rambert yn y ddau ddarn byr yma a grëwyd iddyn nhw gan Ben Duke (o Lost Dog), sy’n adnabyddus am adrodd straeon sy’n datgelu’r absẃrd, y gwyllt a’r doniol.
Cefnogwyd gan Cockayne – Grants for the Arts a The London Community Foundation
Canllaw oed: 12+ (dim plant dan 2 oed). Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.
Warnings: contains strobe lights, haze effects, themes of bereavement/loss/death, partial nudity and strong language.
Perfformiad BSL + Sain Ddisgrifiad: 9 Ebrill
Gyda dehongliad BSL gan Clare Edwards a Sain Ddisgrifiad gan Caroline Burn.
Amser cychwyn: Llun + Maw 7.30pm
Hyd y perfformiad: tua 1 awr a 10 munud yn cynnwys un egwyl
AELODAU
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf), nifer cyfyngedig o lefydd. Aelodaeth
GRWPIAU
Grwpiau o 10+ gostyngiad o £3 o leiaf (2 bris uchaf). Dyddiad talu grwpiau: 15 Ionawr 2024. Trefnu ymweliad grŵp
O DAN 16
Gostyngiad o £3 (2 bris uchaf)
16-30
Gostyngiad o £8 (3 bris uchaf)
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd
Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.