Camwch i ddyfodol darlledu yn stiwdios diweddaraf a mwyaf blaenllaw’r BBC, sydd wedi ennill gwobr aur Croeso Cymru am ansawdd y teithiau y tu ôl i’r llen.
Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae effeithiau sain yn cael eu hychwanegu at eich hoff bodlediadau? Neu sut deimlad yw darllen y newyddion? Ymunwch â’n tywyswyr cyfeillgar ar daith y tu ôl i’r llenni yn BBC Cymru. Cewch ymweld â’n stiwdios newyddion, chwaraeon a radio newydd sbon, cael gwybod y cyfrinachau y tu ôl i greu rhaglenni'r BBC, a dilyn ôl troed rhai o wynebau adnabyddus Cymru.
Ar eich taith, byddwch yn:
- ymweld ag un o’r ystafelloedd newyddion mwyaf yn y DU, sy’n llawn technoleg flaengar, gan gynnwys realiti estynedig, rhith-realiti a chamerâu robotig
- cael cyfle i fynd y tu ôl i’r llen i weld orielau teledu, cypyrddau dillad ac ystafelloedd gwyrdd
- cerdded ymysg timau a chriw diwydiant y BBC
Mae hon yn ganolfan ddarlledu fyw, sy’n golygu nad oes yr un daith yr un fath ag un arall ac y bydd pob ymweliad yn unigryw.
Pethau i’w cofio cyn cychwyn
- Rydyn ni wedi ymrwymo i fod mor hygyrch â phosib i’n holl ymwelwyr. Rhowch wybod i ni am unrhyw anghenion penodol, er mwyn i ni allu sicrhau eich bod yn gyfforddus ac yn mwynhau’ch ymweliad. Gallwch gysylltu â ni drwy’r gwasanaeth sgwrsio ar y we ar wefan Canolfan Mileniwm Cymru, neu drwy ffonio 029 2063 6464 rhwng 12pm a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
- Cyrhaeddwch 15 munud cyn amser penodol eich taith ar gyfer archwiliadau diogelwch.
- Mae’n rhaid i bob ymwelydd dros 18 oed ddod ag ID â llun arno ar y diwrnod er mwyn cael mynediad i'r adeilad.
- NI chaniateir bagiau cefn, bagiau teithio na bagiau siopa y tu mewn i’r lleoliad.
- Gellir gadael cotiau yn ein hystafell gotiau, yn rhad ac am ddim, drwy gydol eich ymweliad.
- Ar ôl cyrraedd, byddwch chi a’ch bagiau’n cael eu harchwilio cyn mynd i mewn i’r stiwdios. Ystyriwch hyn wrth feddwl beth i ddod gyda chi.
- Rhaid i blant dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn â thocyn bob amser. Ni chaiff babanod na phlant dan 7 oed ddod ar y daith hon.
- Ar gyfer ymweliadau addysgol, mae’n orfodol i gael un oedolyn ar gyfer pob 10 plentyn (8-11 oed) ac un oedolyn ar gyfer pob 15 plentyn (12-16 oed). Nid yw’n cynnwys cymorth ADY ychwanegol.
Cynhelir teithiau fel arfer pob dydd Mercher i dydd Sul am 10.30am, 12.30pm a 3pm.
Teithiau Cymraeg? Ewch i Teithiau BBC Cymru - Cymraeg.
OEDOLION
£15
DAN 26 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
£12
DROS 65 OED + POBL ANABL
£13
GRWPIAU (10+)
Oedolion £14Dan 26 oed, myfyrwyr + digyflogedig £9
Dros 65 oed + pobl anabl £12
TOCYNNAU TEULU
Dewiswch ddau docyn safonol a dau docyn dan 16 NEU un tocyn safonol a thri thocyn dan 16 i gael gostyngiad pellach o £2 ar bob tocyn.
BATHODYNNAU BLUE PETER
Gall plant o dan 16 sydd â bathodyn Blue Peter a cherdyn adnabod dilys gael mynediad rhad ac am ddim pan fyddant yng nghwmni oedolion sy'n talu. Os bydd deiliad bathodyn Blue Peter anabl yng nghwmni gofalwr cofrestredig, gall y ddau gael mynediad am ddim. Rhaid i ofalwyr ddod â thystiolaeth.
CREDYDAU TIME
Gellir cyfnewid dau Gredyd Amser Tempo am un tocyn. Gweler Credydau Amser Tempo i gael rhagor o fanylion.
HYNT
Tocyn am ddim i gynorthwyydd personol neu ofalwr Deiliaid cardiau Hynt. Mwy o wybodaeth yma
Mae pob cynnig yn amodol ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.