Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Teithiau Canolfan Mileniwm Cymru (yn Gymraeg)

Canolfan Mileniwm Cymru

12 Ebrill – 9 Awst 2024

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Teithiau Canolfan Mileniwm Cymru (yn Gymraeg) {{::on_sale_date.label}} Canolfan Mileniwm Cymru MM/DD/YYYY 15 event-2182

Teithiau Canolfan Mileniwm Cymru (yn Gymraeg)

12 Ebrill – 9 Awst 2024

Canolfan Mileniwm Cymru

Dewch am daith gefn llwyfan i gael cipolwg arbennig ar fyd y theatr tu ôl i’r llen.

Gan ddechrau yn ein Theatr Donald Gordon eiconig, cewch eich tywys drwy’r ardaloedd cefn llwyfan cudd, gan orffen gyda chyfle i dynnu lluniau o’r wal arysgrif enwog.

Ar ôl y daith, treuliwch amser yn mwynhau ein gofodau blaen y tŷ, ein pensaernïaeth a’n gwaith celf, a gwyliwch y byd yn mynd heibio o Ffwrnais, ein bar-caffi ar y llawr gwaelod. Bydd eich cinio blasus, coffi neu gacen ffres yn blasu cymaint yn well o wybod eich bod yn cael gostyngiad o 10% drwy ddangos eich tocyn taith.

Gallwch chi hefyd gael gostyngiad o 10% ar nwyddau Canolfan Mileniwm Cymru yn Siop drwy ddangos eich tocyn taith ar ddiwrnod eich ymweliad.

Rydyn ni’n falch iawn o fod yn hygyrch ac yn groesawgar i bawb. Os oes gennych chi unrhyw anghenion hygyrchedd penodol, cysylltwch â ni cyn y daith fel y gallwn ni wneud unrhyw drefniadau angenrheidiol.

Canllaw oed: Dim plant dan 2 oed. Rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn 18 oed a throsodd.

Amser dechrau: Dydd Gwener 10am, 1pm neu 3pm
Dylech chi gyrraedd o leiaf 10 munud cyn amser dechrau eich taith. Y man cyfarfod yw Siop, ar ochr chwith yr adeilad ar y llawr gwaelod.

Hyd y daith: tua 1 awr

Iaith: Cymraeg. Gallwch archebu teithiau Saesneg yma.

Nodwch gan fod Ganolfan Mileniwm Cymru yn theatr weithiol brysur, efallai y bydd rhaid i ni dynnu allan ambell ran o’r daith o bryd I'w gilydd er iechyd a diogelwch cwsmeriaid.

GRWPIAU

Gostyngiad o £2 i grwpiau o 10+

Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.

YSGOLION

Hanner pris – un tocyn athro am ddim gyda phob 9 disgybl (ffoniwch 029 2063 6464 neu e-bostiwch gwerthiant.grwpiau@wmc.org.uk i archebu)

Gall ysgolion a grwpiau o 10+ hefyd gysylltu â ni i ofyn am daith ar ddyddiad neu amser arall i'r rhai sy’n cael eu hysbysebu, yn amodol ar argaeledd. Rhaid rhoi o leiaf 14 diwrnod o rybudd.

Cyflwynir yn

Canolfan Mileniwm Cymru