Dewch am daith gefn llwyfan i gael cipolwg arbennig ar fyd y theatr tu ôl i’r llen.
Gan ddechrau yn ein Theatr Donald Gordon eiconig, cewch eich tywys drwy’r ardaloedd cefn llwyfan cudd, gan orffen gyda chyfle i dynnu lluniau o’r wal arysgrif enwog.
Ar ôl y daith, treuliwch amser yn mwynhau ein gofodau blaen y tŷ, ein pensaernïaeth a’n gwaith celf, a gwyliwch y byd yn mynd heibio o Ffwrnais, ein bar-caffi ar y llawr gwaelod. Bydd eich cinio blasus, coffi neu gacen ffres yn blasu cymaint yn well o wybod eich bod yn cael gostyngiad o 10% drwy ddangos eich tocyn taith.
Gallwch chi hefyd gael gostyngiad o 10% ar nwyddau Canolfan Mileniwm Cymru yn Siop drwy ddangos eich tocyn taith ar ddiwrnod eich ymweliad.
Rydyn ni’n falch iawn o fod yn hygyrch ac yn groesawgar i bawb. Os oes gennych chi unrhyw anghenion hygyrchedd penodol, cysylltwch â ni cyn y daith fel y gallwn ni wneud unrhyw drefniadau angenrheidiol.
Canllaw oed: Dim plant dan 2 oed. Rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn 18 oed a throsodd.
Amser dechrau: Dydd Gwener 10am, 1pm, 3pm
Dylech chi gyrraedd o leiaf 10 munud cyn amser dechrau eich taith. Y man cyfarfod yw Siop, ar ochr chwith yr adeilad ar y llawr gwaelod.
Hyd y daith: tua 1 awr
Iaith: Saesneg. Gallwch archebu teithiau Cymraeg yma.
Nodwch gan fod Ganolfan Mileniwm Cymru yn theatr weithiol brysur, efallai y bydd rhaid i ni dynnu allan ambell ran o’r daith o bryd I'w gilydd er iechyd a diogelwch cwsmeriaid.
GRWPIAU
Gostyngiad o £2 i grwpiau o 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
YSGOLION
Hanner pris – un tocyn athro am ddim gyda phob 9 disgybl (ffoniwch 029 2063 6464 neu e-bostiwch gwerthiant.grwpiau@wmc.org.uk i archebu)
Gall ysgolion a grwpiau o 10+ hefyd gysylltu â ni i ofyn am daith ar ddyddiad neu amser arall i'r rhai sy’n cael eu hysbysebu, yn amodol ar argaeledd. Rhaid rhoi o leiaf 14 diwrnod o rybudd.