Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Platfform

Gwneuthurwyr Theatr: Ysgrifennu Ar Gyfer Theatr

14 – 25 oed

Canolfan Mileniwm Cymru

10 Mehefin – 15 Gorffennaf 2024

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Gwneuthurwyr Theatr: Ysgrifennu Ar Gyfer Theatr {{::on_sale_date.label}} Canolfan Mileniwm Cymru MM/DD/YYYY 15 event-2133

Platfform

Gwneuthurwyr Theatr: Ysgrifennu Ar Gyfer Theatr

14 – 25 oed

10 Mehefin – 15 Gorffennaf 2024

Canolfan Mileniwm Cymru

Am ddechrau ysgrifennu ar gyfer theatr?

Yn y cwrs rhagarweiniol chwe wythnos yma, byddwn ni’n edrych ar dirwedd bresennol theatr ac yn archwilio amrywiaeth o ddulliau o ysgrifennu ar gyfer y llwyfan. Drwy waith ysgrifennu ymarferol, byddwn ni’n archwilio strwythur stori, datblygu cymeriadau a naratif, monologau a mwy.

Mae Ysgrifennu ar gyfer Theatr, sydd wedi’i gynllunio fel ystafell ysgrifennu gymdeithasol lle caiff pawb eu hannog i ddod â’u syniadau, diddordebau a safbwyntiau gwahanol, yn gwrs lle mae croeso bob amser i ofyn cwestiynau a chewch eich cefnogi i ddatblygu eich llais fel awdur.

P’un a ydych chi eisoes ar eich taith fel awdur, yn berson creadigol sydd heb archwilio ysgrifennu eto, neu’n chwilfrydig am beth y gall theatr ei gynnig, ymunwch â’r ystafell ysgrifennu!

PWY SY’N ADDYSGU’R CWRS?

Bydd hwyluswyr-awduron profiadol yn arwain y sesiynau yma.

OES ANGEN UNRHYW SGILIAU NEU BROFIAD ARNA I ER MWYN CYMRYD RHAN?

Nac oes – mae’r cwrs yma yn agored i bob lefel a gallu.

PRYD MAE’R CWRS?

Mae’r cwrs yn rhedeg bob nos Lun rhwng 6pm a 8pm am chwe wythnos o 10 Mehefin i 15 Gorffennaf.

SUT YDW I’N ARCHEBU?

Archebwch eich lle drwy glicio ar y botwm archebu ar y dudalen yma. Gwnewch yn siŵr y gallwch chi ddod i bob sesiwn o’r cwrs dros y chwe wythnos.

Os yw’r cwrs yma wedi gwerthu allan, ychwanegwch eich manylion at ein rhestr aros a byddwn ni’n cysylltu â chi os bydd lle ar gael.

EIN CYRSIAU PLATFFORM

Rhaglen hyfforddi unigryw yw Platfform sy’n cynnig llwyfan i bobl ifanc archwilio eu diddordebau, mynegi eu hunain, meithrin hyder creadigol a rhannu eu naratif drwy ddysgu ymarferol.

Caiff y gweithgaredd yma ei ariannu gan Sefydliad Moondance, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson ac Ymddiriedolaeth Elusennol Mary Homfray.

Cyflwynir yn

Canolfan Mileniwm Cymru

Platfform

Gweld popeth

Platfform

Gwneuthurwyr Theatr: Ysgrifennu Ar Gyfer Theatr

14 – 25 oed

Platfform

Radio Platfform: Hyfforddiant Porth

Platfform

Academi Creu Ffilmiau: Creu Fideo Cerddoriaeth

14 – 25 oed