Mae cynhyrchiad arobryn y National Theatre gan Stephen Daldry o ddrama gyffrous JB Priestley yn dychwelyd ar ôl taith lwyddiannus a werthodd allan yn 2022.
Mae An Inspector Calls, sydd wedi ennill 19 o wobrau mawr a chael ei galw’n ddigwyddiad theatraidd yr oes, wedi gwefreiddio mwy na 5 miliwn o bobl ledled y byd.
A work of great directorial daring, breathtaking visual invention and passionate moral urgency
Pan mae Inspector Goole yn cyrraedd yn annisgwyl yng nghartref llewyrchus y teulu Birling, caiff eu cinio tawel ei ddifetha gan ei ymchwiliadau i farwolaeth menyw ifanc. Mae ei ddatguddiadau brawychus yn ysgwyd sylfeini eu bywydau ac yn ein herio ni i gyd i archwilio ein cydwybodau.
Yn fwy perthnasol nag erioed, mae hon yn sioe arbennig i genhedlaeth newydd sbon.
Spectacular. If you haven’t seen it, you must. If you have, see it again
Tîm Creadigol:
Cyfarwyddwr Stephen Daldry
Dylunydd Ian MacNeil
Dylunydd Goleuo Rick Fisher
Cyfansoddwr Stephen Warbeck
Cyfarwyddwr Cyswllt Charlotte Peters
Cynhyrchydd PW Productions
A riveting examination of conscience and class
Canllaw oed: 8+ (dim plant dan 2 oed)
Yn cynnwys goleuadau tawch
Amser cychwyn:
Maw– Sad 7.30pm
Mer, Iau + Sad 2.30pm
Hyd y perfformiad: tua 1 awr 50 munud (heb egwyl)
AELODAU
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf). Argaeledd cyfyngedig
GRWPIAU
Grwpiau o 10+, gostyngiad o £4 ar y 2 bris uchaf, Maw i Iau
Dyddiad talu grwpiau: 18 Tachwedd 2024
YSGOLION
Tocynnau £12 (y 2 barth pris isaf), tocynnau £17.50 (canol) neu docynnau £20 (y 2 barth pris uchaf)
Hefyd 1 sedd athro am ddim i bob 10 disgybl. Ddim ar gael ar-lein, ebostiwch gwerthiant.grwpiau@wmc.org.uk i archebu.
O DAN 16
Gostyngiad o £4 ar y 2 bris uchaf, Maw – Iau
POBL 16 - 30 OED
Cynnig arbennig i bobl 16–30 oed, gostyngiad o £8 Maw – Iau (seddi dethol, ag eithrio'r pris uchaf). Argaeledd cyfyngedig.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.
Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.