Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Dechreuom ni Llais yn 2016 fel ffordd amgen i ni gomisiynu gwaith newydd tra’n creu awyrgylch ar gyfer cyd-weithrediadau unigryw.

Dyma ŵyl sy'n dathlu'r llais yn ei holl ffurfiau - gan ddod ag artistiaid a chynulleidfaoedd at ei gilydd, i glywed a chael eu clywed ar ffurf cerddoriaeth, opera, theatr, celf weledol a sgyrsiau.

Cymerwch olwg ar rhai o'r artistiaid anhygoel sydd wedi perfformio yma dros y blynyddoedd.

2016

Fe'i cynhaliwyd rhwng 3 a 12 Mehefin 2016 mewn gwahanol safleoedd yng Nghaerdydd, a chafwyd momentau gwych fel cynhyrchiad theatraidd Charlotte Church, The Last Mermaid, perfformiad Van Morrison gyda Bryn Terfel, a drama newydd sbon, Before I Leave, a oedd yn cynnwys cerddoriaeth newydd gan y Manic Street Preachers.

Llwyddodd Rufus WainwrightRonnie SpectorBen FoldsScritti Politti ac Alexis Taylor (Hot Chip), Candi Staton a mwy i'w gwneud hi'n ŵyl gyntaf wirioneddol gofiadwy.

2018

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, dychwelodd yr ŵyl gyda gweithiau comisiwn newydd, cerddoriaeth anhygoel gan artistiaid, a gwledd o leoliadau syfrdanol.

Llenwodd y chwedlonol Patti Smith eglwys fach ar gyfer darlleniad personol o'i barddoniaeth, ac wedi hynny fe berfformiodd i gynulleidfa lawn yn ein prif theatr, lle bu'r eicon cerddorol, Elvis Costello, hefyd yn cloi un noson.

Daeth Billy Bragg a Nadine Shah at ei gilydd i gynnal gig LLAIS, a bu Laura Marling yn rocio gyda Mike Lindsay yn eu band ar y cyd, LUMP.

Roedd pawb ar eu traed yn dawnsio wrth wrando ar Angélique Kidjo, ac fe lwyddodd Passenger i wneud i'n theatr 1,896 sedd deimlo fel gig personol i'w griw o gefnogwyr brwd.

Ymddangosodd Gruff Rhys ar y llwyfan gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a'i 72 aelod i berfformio ei albwm ddiweddaraf, Babelsberg, am y tro cyntaf, gan gynnig profiad unigryw i'r rhai a oedd yn bresennol.

Buon ni hefyd arbrofi gyda'n gofodau, gan greu safle gig unigryw ar ein prif lwyfan, gyda Theatr Donald Gordon yn gefndir a'r gynulleidfa wrth galon y digwyddiad, ar gyfer Ibibio Sound Machine ac Utopia, sef digwyddiad wedi'i guradu gan Charlotte Church a oedd yn cynnwys perfformiadau o bob rhan o'r byd.

Ond mae LLAIS yn fwy na dim ond cerddoriaeth wych. Cyflwynon ni gynyrchiadau theatr heriol hefyd, fel Highway OneDouble Vision, a Cave gan Camille O'Sullivan, ynghyd â'r sioe-gerdd-gomedi-wyddonol un-fenyw gan Carys Eleri, Lovecraft (Not the Sex Shop in Cardiff), a fu'n teithio ac yn perfformio yng Ngŵyl Cyrion Caeredin, Gŵyl Cyrion Adelaide – lle cafodd wobr am y Cabaret Gorau – ac yn Soho yn Llundain yn 2020.

Gŵyl 2021

Yn ystod pandemig y Coronafeirws ymunon ni â thair gŵyl Gymreig arall i greu Gŵyl 2021, gŵyl ddigidol a gymerodd lle ar 6 – 7 Mawrth gyda cherddoriaeth, comedi a thrafod – a’r oll wedi’i ffilmio mewn lleoliadau ledled Cymru a’i ddarlledu arlein gan BBC Cymru. Bu’r ŵyl yn cynnwys perfformiadau gan Brett Anderson, Sprints, Arlo Parks, Cate Le Bon a mwy. Gwelwch y rhestr artistiaid llawn.

2021

Rydym ni nôl ar 4 - 7 Tachwedd 2021 am bedwar diwrnod o gerddoriaeth byw anhygoel, perfformiadau i ysgogi meddwl, a sgyrsiau ysbrydoledig.

Pedwar diwrnod o gerddoriaeth fyw anhygoel a pherfformiadau cyhoeddus am ddim, yn cynnwys 20 act o ar draws Cymru a’r byd gyda Hot Chip a Tricky, perfformiad cyntaf yng Nghymru gan Max Richter, talentau newydd Rachel Chinouriri a Biig Piig, Gruff Rhys, Arab Strap ac araith gyweirnod i agor yr ŵyl gan Brian Eno.

2022

Rhwng 26–30 Hydref 2022 dychwelodd ein gŵyl o dan enw newydd, sef Llais, ac roedd yn cynnwys perfformiadau gan bobl fel John Cale, black midi, Cate Le Bon, Midlake, Pussy Riot + mwy yn ogystal â llu o brofiadau ymdrochol, sgyrsiau ac arddangosfeydd. Edrychwch ar y lein-yp llawn.