Rydyn ni'n chwilio am bartneriaid newydd i weithio gyda ni ar bob agwedd ar yr ŵyl.
Felly, os ydych chi'n gorfforaeth neu'n unigolyn sydd am wybod mwy am y gwahaniaeth y gallai eich cefnogaeth ei wneud, ynghyd â'r gwerth y gallai ei gynnig i'ch busnes, cysylltwch â ni drwy cefnogwyr@wmc.org.uk
Pam gweithio gyda ni?
Ni yw gŵyl gelfyddydau ryngwladol flynyddol Caerdydd, sy'n dathlu statws y brifddinas fel lleoliad diwylliannol gan gefnogi proffil Cymru ar y llwyfan byd-eang.
Bydd eich ymwneud yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i Gymru; gan helpu i wneud y celfyddydau yn hygyrch i bawb, a gwella proffil Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.
Y ffordd rydyn ni'n gweithio
Rydyn ni am greu partneriaethau gwirioneddol a pharhaus sy'n cynnig y gwerth mwyaf i bawb, felly mae'n bwysig ein bod ni'n deall eich amcanion ac yn gweithio'n greadigol i'w cyflawni.
Yr hyn rydyn ni'n adnabyddus amdano...
- Cael gwared â'r rhwystrau at y celfyddydau gyda'n tocynnau a'n rhaglenni cymunedol a pherfformiadau wedi'u teilwra'n benodol ar gyfer pobl sydd ag anghenion ychwanegol
- Buddsoddi mewn pobl ifanc lle mae'r angen mwyaf – cynnig clybiau a phrosiectau celfyddydau ledled y de, a chynnal gorsafoedd radio a gynhelir gan bobl ifanc yma ac yn y Porth, ac arddangos eu gwaith yng Llais.
- Bod yn ddychmygus ac yn greadigol – deffro dychymyg drwy Gymru a'r tu hwnt gyda'r sioeau rydyn ni'n eu cyflwyno a'n cynyrchiadau ein hunain, sy'n meithrin doniau Cymru.
- Arddangos diwylliant Cymru – ni yw cartref y celfyddydau yng Nghymru, mewn adeilad modern, eiconig a chyffrous sy'n dathlu'r Gymraeg a'n treftadaeth unigryw ein hunain.
- Cyflwyno rhagoriaeth a digwyddiadau o safon byd-eang.
Mae Gŵyl y Llais yn adnabyddus am
- Gynhwysiant – rhoi llais i bawb, gan gynnwys lleisiau amrywiol ein cymunedau lleol a'n pobl ifanc.
- Creu digwyddiadau unigryw a chyweithiau anarferol fel John Cale o The Velvet Underground yn rhannu llwyfan gyda Charlotte Church a'r actor Michael Sheen.
Cefnogi eich busnes
Cwsmeriaid newydd
Bydd cyrhaeddiad Gŵyl y Llais yn y cyfryngau ac yn ddigidol yn eang yn 2020, ac mae disgwyl iddo dyfu'n gyflym dros y pum mlynedd nesaf gyda chefnogaeth partneriaethau â'r llywodraeth a'r cyfryngau, yn ogystal â'r 20,000+ o bobl rydyn ni'n disgwyl fydd yn bresennol yn 2020.
Cwsmeriaid presennol
Byddwn ni'n creu cynnwys digidol unigryw y mae modd ei rannu'n fyd-eang drwy ein llwyfannau ni a rhai ein partneriaid. Gallai partneriaid gynnig rhywfaint o'r cynnwys hwn yn arbennig i'w cwsmeriaid presennol yn ogystal â'r potensial am gynigion arbennig, eitemau cofiadwy, lletygarwch arbennig, a phrofiadau unigryw yn yr ŵyl.
Gofalu am eich timau
Rydyn ni'n gwybod pa mor bwysig yw eich timau i chi, a gallwn ni eich helpu i ofalu amdanyn nhw hefyd. Gall partneriaeth gynnwys pob math o wahanol fanteision ar gyfer eich timau. Os hoffech wybod mwy, cysylltwch â ni.
Partneriaethau
Rydyn ni'n chwilio am bartneriaid i weithio gyda ni mewn llawer o wahanol feysydd, gan gynnwys ein prif berfformwyr, sêr newydd, sgyrsiau, cynnwys digidol a'n rhaglen gymunedol.
Ymgysylltu â'n cynulleidfaoedd
Mae llawer o opsiynau ar gael, yn dibynnu ar yr hyn rydyn ni'n ceisio ei gyflawni gyda'n gilydd.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda ni, cysylltwch â ni: cefnogwyr@wmc.org.uk