Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Gŵyl yw Llais, sy'n dod ag artistiaid a chynulleidfaoedd at ei gilydd dros bedwar diwrnod o gerddoriaeth fyw anhygoel, perfformiadau ysgogol a sgyrsiau ysbrydoledig.

Gyda chymysgedd o ddigwyddiadau am ddim ac â thocyn, mae Llais yn cyflwyno rhaglen o gerddoriaeth fyw anturus, perfformiad i ysgogi’r meddwl a phrofiadau chwareus i bawb.

"Mae Gŵyl y Llais yn llawer mwy na gŵyl gerddoriaeth; mae’n archwiliad o’r hyn y gall y llais wneud a pha mor bwysig yw hi i gael un. Mynnwch docyn nawr ac ymunwch a ni  – mae’n addo bod yn benwythnos hir bythgofiadwy."

Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig

Ers sefydlu Gŵyl y Llais yn 2016, mae wedi arddangos rhai o leisiau mwyaf adnabyddus y byd o bob rhan o'r sbectrwm cerddoriaeth, gan gynnwys:

Patti Smith, Van Morrison, Femi Kuti, Laura Marling, Candi Staton, Elvis Costello, Hugh Masekela, Rufus Wainwright, Fatoumata Diawara, John Grant, Angélique Kidjo, Max Richter, Ibibio Sound Machine, John Cale, Nadine Shah, Billy Bragg, Hot Chip, Arlo Parks, Gruff Rhys, Cate Le Bon, Brett Anderson, Tricky, Arab Strap + mwy.