Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Galwad am Gyfarwyddwr Cabaret Nadolig

Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn ceisio artist i gyfarwyddo a chyd-gynhyrchu cabaret Nadolig ar gyfer 2024.

Yn dilyn tair blynedd gyffrous o sioeau a werthodd allan, rydyn ni’n chwilio am gydweithredwr i barhau’r patrwm yma ac arwain tîm newydd a phroses greadigol i greu cynhyrchiad ysblennydd, llwyddiannus a rhywiol.

Mae sioeau cabaret Nadolig Canolfan Mileniwm Cymru yn gynnig Nadoligaidd i oedolion, sy’n archwilio stori sy’n bodoli eisoes mewn ffordd newydd, chwilfrydig a chynhwysol. Mae ein sioeau blaenorol yn cynnwys XXXmas Carol, The Lion, the B!tch and the Wardrobe a The First XXXmas: A Very Naughty-tivity.

Rydyn ni’n chwilio am rywun sydd â diddordeb mewn a/neu brofiad o berfformiad cabaret sydd eisiau ehangu eu gwaith ar raddfa ganolig. Bydd gennych brofiad o weithio ar raddfa fach, gyda rhywfaint o waith mwy, a byddwch chi’n frwdfrydig dros greu gwaith newydd gyda chwmni eclectig.

Rydyn ni’n agored i syniadau o ran sut y gallai’r bartneriaeth yma weithio, ac yn croesawu artistiaid gydag amrywiaeth o arferion gweithio a sgiliau.

Cyfrifoldebau:

  • Gweithio ochr yn ochr â thîm cynhyrchu mewnol Canolfan Mileniwm Cymru i wneud cais am gyllid ychwanegol i fuddsoddi yn y cynhyrchiad
  • Castio grŵp o berfformwyr cabaret amrywiol a chyffrous drwy alwad agored, mewn cydweithrediad â’r tîm cynhyrchu mewnol
  • Hwyluso cyfnod Ymchwil a Datblygu ar y prosiect yn ystod hydref 2024
  • Arwain y cwmni i ysgrifennu a/neu hwyluso’r broses o greu’r cynhyrchiad
  • Cyfarwyddo’r cynhyrchiad i safon uchel
  • Cytuno ar amserlen realistig ar gyfer creu’r gwaith mewn cydweithrediad â’r prif gynhyrchydd a rheolwyr y cynhyrchiad
  • Bod yn bresennol mewn cyfarfodydd cynhyrchu

Gofynion Hanfodol: 

  • O leiaf 3 blynedd o brofiad o gyfarwyddo’n broffesiynol
  • Dealltwriaeth o neu brofiad mewn arddulliau perfformio cabaret
  • Brwdfrydedd dros gydweithio mewn proses creu
  • Yn byw yng Nghaerdydd, neu o fewn pellter teithio

Gofynion Dymunol: 

  • Profiad o ysgrifennu ceisiadau am gyllid
  • Profiad o broses gastio
  • Siaradwr Cymraeg

Dyddiadau allweddol 

Ebrill – Mai: Cyfarfodydd datblygu creadigol ac ysgrifennu ceisiadau, i’w cytuno o amgylch eich amserlen ar gyfer dyddiad cau cais am gyllid ar ddechrau mis Mai.

Medi – Hydref: Wythnos o Ymchwil a Datblygu, union ddyddiadau i’w cytuno.

28 Hyd – 4 Rhag: Ymarferion y cynhyrchiad, ymarferion technegol a rhagddangosiadau. Angen bod ar gael drwy’r cyfnod.

5 Rhag: Noson y wasg.

Ffioedd 

Ffi datblygu o £1000 i’w thalu wrth benodi ar gyfer eich amser yn ystod y cyfnod paratoi a datblygu cychwynnol. Unwaith y caiff cyllid allanol ei sicrhau, bydd y cyfraddau isod yn gymwys.

Cyfradd ddyddiol o £150 yn ystod y cyfnod Ymchwil a Datblygu.

Ffi gyfarwyddo o £4000.

Sut i wneud cais 

Anfonwch CV a llythyr eglurhaol yn nodi eich profiad blaenorol a sut mae’n berthnasol i’r meini prawf hanfodol a dymunol, pam mae gennych ddiddordeb yn y rôl yma ac unrhyw anghenion hygyrchedd sydd gennych ar gyfer cyfweliad i artists@wmc.org.uk

Rydyn ni’n croesawu ceisiadau yn Gymraeg neu’n Saesneg. Os oes angen i chi wneud cais ar ffurf arall (e.e cyflwyniad fideo, nodyn sain) e-bostiwch artists@wmc.org.uk

Dyddiad cau: Dydd Llun 1 Ebrill 6pm

Caiff cyfweliadau eu cynnal: 4–5 Ebrill

Fel cyflogwyr cyfleoedd cyfartal, rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir er mwyn adlewyrchu’r boblogaeth leol ac ehangach yn gywir.