Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

The Lion, the B!tch and the Wardrobe

Cynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru a Duncan Hallis

8 – 31 Rhagfyr 2022

Stiwdio Weston

Camwch i mewn i fyd arall i weld ffawniaid fflyrtiog, bleiddiaid drwg, cwpl o afancod a Polly Amorous.

Mae Polly wedi bod yn chwilio drwy ei chwpwrdd dillad i ddod o hyd i anrhegion, a beth mae hi wedi’u tynnu allan? Drag disglair, syrcas syfrdanol, caneuon rhyfeddol, bwrlésg hudolus a gefynnau tinsel!

Mae hi bob amser yn aeaf yn Narnia, ond dyw hynny ddim yn golygu na fydd y tymheredd yn codi yng nghwmni Rahim El Habachi, Asha Jane, Foo Foo LaBelle, Eric McGill, Bunmi Odumosu a Felix Sürbe.

Mae hyn yn graddio allan o 5 sêr

“like a Berlin cabaret via Splott”

Buzz

Gwyliwch yr ail ddyfodiad gan y tîm a gyflwynodd XXXmas Carol, ein cabaret Nadolig amgen a werthodd allan yn 2021.

Y tro hwn maen nhw’n cyflwyno noson ddrygionus a fydd yn gwneud i chi ruo am fwy.

“jaw-dropping talent”

Alt.Cardiff
Y TÎM

PERFFORMIR GAN
Polly Amorous (Twm Bollen-Molloy)
Rahim El Habachi
Asha Jane
Foo Foo LaBelle (Stephanie Gawne)
Eric McGill
Bunmi Odumosu
Felix Sürbe

TÎM CREADIGOL
Duncan Hallis: Cyfarwyddwr
Nerida Bradley: Cyfarwyddwr Cynorthwyol
Cory Shipp: Dylunydd Set
Sherry Coenen: Dylunydd Goleuo
Petros Kourtellaris: Dylunydd Gwisgoedd
George Hampton Wale: Gwneuthurwr Gwisgoedd
James Valentine: Gwneuthurwr Gwisgoedd
Tafsila Khan: Artist Cyswllt

TÎM CYNHYRCHU
Philippa Mannion: Rheolwr Llwyfan
Daniel Taylor: Rheolwr Cynhyrchu
Shakeera Ahmun: Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol

CANOLFAN MILENIWM CYMRU
Peter Darney: Cynhyrchydd
Frankie-Rose Taylor: Cynhyrchydd Cynorthwyol
Catrin Nicholas: Cynorthwyydd Prosiect Celfyddydol a Chreadigol
Eugene Capper: Uwch-dechnegydd Stiwdio Weston

DIOLCH I
NoFit State Circus, Fool’s Delight Circus, Francis Maxey, Pirates of the Carabina, Circus Purposeless, Yan White + The Queer Emporium, Gemma Smith, Megan Pritchard, Pam Howard, Tailor Green, Anne-Marie Bollen

Amser cychwyn: 8.30pm, Drysau 8pm
Matinee 31 Rhagfyr 3.30pm, Drysau 3pm

Hyd y perfformiad: 2 awr a 30 munud (gan gynnwys egwyl)

Preview: 8 + 9 Rhagfyr 8.30pm, £10

Cyfyngiad oedran: 18+
Yn cynnwys themâu sy’n addas i oedolion, noethni, iaith gref, cleciau uchel a goleuadau strôb.

Hygyrchedd:
Bydd perfformiad dydd Mercher 28 Rhagfyr yn cael ei gyfieithu i BSL gan Cathryn McShane.
Bydd perfformiad dydd Gwener 30 Rhagfyr yn cael ei Sain Ddisgrifio gan Ioan Gwyn.

Cysylltwch â ni ar 029 2063 6464 neu drwy we-sgwrs neu tocynnau@wmc.org.uk i archebu tocyn hygyrchedd ar gyfer y perfformiadau hyn (yn amodol ar argaeledd).

POBL ANABL, DIGYFLOGEDIG A MYFYRWYR

£12

CYNNIG GRWPIAU

Grwpiau o 10+, £3 i ffwrdd (ac eithrio'r rhagolwg). Trefnu ymweliad grŵp.

CYNLLUN HYNT

Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL)

Sain Ddisgrifiad

Cyflwynir yn

Stiwdio Weston