Rydyn ni wrth ein bodd i fod yn bartner allweddol yn y prosiect Celfyddydau Ymdrochol, a fydd yn caniatáu i ni gefnogi artistiaid yng Nghymru i archwilio potensial creadigol technolegau ymdrochol.
Bydd hyn yn adeiladu ar ein gwaith yn y maes yma gyda Bocs, ein lleoliad XR pwrpasol, a’n profiadau realiti rhithwir ein hunain, fel Ripples of Kindness.
Bydd y rhaglen yn rhoi cyfle i artistiaid gael mynediad at hyfforddiant, mentora, cyfleusterau arbenigol ac arian hanfodol, gyda chyfran o £3.6 miliwn o gyllid grant ar gael i helpu artistiaid yng Nghymru i roi eu syniadau ar waith.
"Rydym yn falch iawn o fod yn bartner ar gyfer cyfle gwych a fydd yn creu gofod ac amser i gwestiynu, ymgysylltu ac ehangu dulliau o adrodd straeon. Mae'r groesffordd rhwng technoleg ymdrochol a gwaith artistig byw yn hynod ddiddorol, a bydd y rhaglen hon yn galluogi artistiaid, pobl ifanc a chymunedau i archwilio'r posibiliadau hyn ac adrodd eu straeon yn y ffyrdd y maent am wneud hynny."
Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru
Bydd y prosiect tair blynedd yn cael ei ariannu drwy grant o £6 miliwn gan XRtists, partneriaeth uchelgeisiol rhwng Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau a Chyngor Celfyddydau Lloegr, Creative Scotland, Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Mae'r term 'technoleg ymdrochol' yn cwmpasu sbectrwm eang, ac mae’n cynnwys yr injans gemau a ddefnyddir i greu apiau realiti rhithwir ac estynedig fel Beat Saber a Pokémon Go, yn ogystal â’r dechnoleg cipio delweddau symudol, sgriniau LED a sain ofodol a brofir yn Abba Voyage.