Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Sgyrsiau yn Llais

 

Yn y blog hwn gwadd hwn mae Rhiannon White, cyd-sylfaenydd Cwmni Theatr Common Wealth a churadur ein rhaglen Sgyrsiau, yn ysgrifennu am beth i’w ddisgwyl o’r rhaglen am ddim yn Llais.

Mae gan Gaerdydd hanes cyfoethog o gerddoriaeth ac isddiwylliant. Fel rhywun sydd wedi cael ei geni a’i magu yn y ddinas, dwi’n cofio’r teimlad o ddarganfod fel person ifanc pan es i i fy ngig pync cyntaf yng Nghlwb Ifor Bach neu noson Higher Learning pan wyliais i frecddawnswyr tan yr oriau mân. Dyma’r nosweithiau pan mae’r goreuon ohonom yn colli ein hunain i’r gerddoriaeth a dawnsio a dod o hyd i’n llwythau a beth allai ystyr bywyd fod. Dwi’n gwybod fod cyfoeth o dalent wedi datblygu o glybiau tanddaearol fy ieuenctid sydd wedi llunio a chreu’r ddinas rydyn ni’n ei hadnabod heddiw. Isddiwylliant yn arwain y newid yr oedd bob amser fod i wneud. Dyna’r teimlad roeddwn i am ei nodi yn y sgyrsiau yn Llais.

Byddwn ni’n dechrau’r sgyrsiau gyda theimlad o obaith a phosibilrwydd. Yn y sgwrs Troeon Machlud byddwn ni’n clywed gan bobl ifanc sydd wedi bod yn mapio cerddoriaeth y ddinas, gan ddod â holl ardaloedd Caerdydd ynghyd mewn profiad byw uwchsonig.

Li Harding fydd yn dilyn – dynwaredwr Shirley Bassey anhygoel. Cwrddais i â Li ym Mhafiliwn Grange a dwi wedi ei gwylio yn diddanu a dod â llawenydd i’r gymuned wrth i ni ddod allan o’r pandemig. Mae’r gerddoriaeth yn rhoddgar. Peidiwch â cholli brenhines Tiger Bay.

Bydd dydd Sadwrn yn gorffen gyda phanel am y frwydr i achub lleoliadau cerddoriaeth annibynnol, wedi’i gadeirio gan Leanne Wood. Bydd yn canolbwyntio ar y lleoliadau a’r hyrwyddwyr sydd wedi bod ar y rheng flaen o ran achub y byd cerddoriaeth fyw yn Ne Cymru.

Ddydd Sul bydd y ffocws ar gerddoriaeth a chlybiau tanddaearol – yr actifiaeth sy’n cadw’r tân i fynd ac yn sicrhau bod y systemau sain ymlaen. Byddwn ni’n dechrau’r sgyrsiau gyda phanel am Gerddoriaeth ac Actifiaeth a fydd yn cynnwys Roddy Moreno o The Oppressed, Efa Supertramp, Truth a’r bardd o’r Unol Daleithiau Kara Jackson. Bydd y sgwrs hon yn trafod yr actifiaeth y tu ôl i’r gerddoriaeth; byddwn ni’n clywed am wrth-ffasgaeth, gwrth-hiliaeth, cael eich gwahardd o Glastonbury a bod yn artist grime ifanc o Bilgwenlli. Yna byddwn ni’n clywed cerddoriaeth gan Kara Jackson (cyn-National Youth Poet Laureate yr Unol Daleithiau), artist rhyngwladol arbennig a fydd yn perfformio yng Nghymru am y tro cyntaf.

Bydd y sgwrs olaf am systemau sain – calon clybiau tanddaearol a sbardun cerddoriaeth ac actifiaeth. Byddwn ni’n clywed gan greawdwr In Pursuit of Repetitive Beats Darren Emerson, yr ymchwilydd a’r archifydd Ashish Joshi a Kervin Julien, aelod sefydlol gwreiddiol o Conqueror Sound System o Gaerdydd. Byddwn ni’n clywed straeon am systemau sain o’r gorffennol, sut y cawsant eu creu, pam roedden nhw’n bwysig a beth wnaeth y symudiadau hyn i ddyfodol cerddoriaeth a diwylliant.

Dwi’n gobeithio bod y sgyrsiau hyn yn gyfle i ni fyfyrio ar hanes cerddorol De Cymru a phosibilrwydd ei dyfodol newydd. Cyfle i glywed straeon o’r gorffennol a chwrdd â’r rhai sy’n ein harwain i’r dyfodol.

Bydd y sgyrsiau yn digwydd yn ystod arddangosfa Hanes Miwsig Caerdydd: City of Sound, y cyntaf o’i math yng Nghaerdydd. Yr arddangosfa hon yw dechrau archif o gerddoriaeth ac isddiwylliant a gasglwyd ac a goladwyd gan bobl sydd wedi’u profi a’u mwynhau. Os na chaiff y gerddoriaeth rydyn ni’n ei charu ei dogfennu, yna ni sy’n gyfrifol am adrodd ei stori. Fel mae blaen yr adeilad yn ei ddweud yn Saesneg, ‘In These Stones Horizons Sing’.

 

Dysgwch fwy am ein rhaglen am ddim sy’n llawn sgyrsiau, cerddoriaeth ac arddangosfeydd.

Bydd gŵyl Llais yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng 26 a 30 Hydref. Dod o hyd i docynnau.