Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Long exposure photo on a street at night by Dee Bryan

Ar fy mhen fy hun

Yn ddiweddar fe anfonodd Dee Bryan, y ffotograffydd lleol, ychydig o waith ffotograffiaeth atom a grëwyd yn ystod y cyfnod clo. Bydd y gwaith yn ymddangos yn ein harddangosfa Lleisiau Dros Newid. Dyma Dee'n esbonio yn ei geiriau ei hun yr hyn a ysbrydolodd y prosiect personol yma, y mae hi'n ei alw'n 'Solitary'.

Roeddwn i'n teimlo'n rhwystredig braidd - a finnau'n methu gweithio, cymryd lluniau, na chwaith yn gallu gweld fy mab gan ei fod yn y brifysgol, na fy ffrindiau. Wrth i'r cyfyngiadau lacio ychydig y llynedd, penderfynais fod angen i mi gamu allan o'r 'normal newydd'.

A woman sat on a rock overlooking a forest

Roeddwn i am weld prydferthwch yn y lle prydferth hwn, ac roeddwn am ddangos i bobl y daw eto haul ar fryn, ar ôl y cyfnod tywyll yma. Roeddwn am rannu'r prydferthwch yma gyda'r rheiny oedd yn gwarchod a'r rheiny oedd yn rhy ofnus i adael eu cartrefi.

Person yn sefyll yn yr awyr agored gyda'r Llwybr Llaethog yn gefndir

Penderfynais fynd ar antur bob wythnos - er mwyn gweld y môr, machlud yr haul, rhaeadrau a'r sêr. Dim ond y fi a fy nghamera. Dechreuais gymryd hunan portreadau, wel, hunan bortread o'r cefn beth bynnag.

A woman walking through a cornfield at sunset

Rhywsut, teimlais yn llai unig. Teimlais gynhesrwydd yr haul wrth i mi chwarae yn y caeau ŷd fel plentyn bach. Ystyriais tybed sawl planed arall allai gynnal bywyd fel y mae ein planed ni.

woman standing in a street at night

Weithiau, hyd yn oed os ydych chi'n teimlo'n unig, os ydych chi'n gwerthfawrogi'r hyn sydd o'ch amgylch, ac yn darganfod eich plentyn mewnol - yr un sy’n ysu am gael chwarae a heb ofn bod yn unig, nid yw'n bosib bod yn gwbl unig yn y byd anhygoel yma sy'n gartref i ni gyd.

Dee Bryan

Gallwch weld rhagor o luniau Dee ar ei thudalen Instagram a'i gwefan.

LLEISIAU DROS NEWID

Helpwch ni i greu arddangosfa ysbrydoledig ar gyfer y dyfodol