Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Tymor Chwilfrydig yr Hydref

Mae perfformiadau i'r Chwilfrydig yn dychwelyd dros yr Hydref rhwng 17 Hydref a Rhagfyr 22 gyda ddewis o dros 40 cynhyrchiad anhygoel.

Gyda syrcas, comedi, bwrlesg, drag, dawns a pherfformiadau arloesol gwaith ar waith ar y gweill, bydd gormod o ddewis. Dyma'n dewis ni o'r llu....

Comedi Chwilfrydig

Krishna Istha
Krishna Istha

O Awstralia, daw 'r perfformiwr trawsrywiol byd enwog Krishna Istha gyda Beast, yn taflu bom-nonsens at bopeth deuaidd.

Mae'r comediwr, Leroy Brito yn dychwelyd i Ffresh gyda'i sioe gomedi, Stereotype.

Bydd cefnogwyr Clwb Swper erbyn hyn yn gyfarwydd â'r comediwr lleol, Leroy Brito, ond os nad ydych chi wedi llwyddo gweld un o'i sioeau eto, dewch i weld Stereotype, lle mae'n archwilio pwy yw e go iawn, a’r nifer fawr o gamdybiaethau amdano fe’i hun.

Yn symud o Butetown i Lundain, dewch i gwrdd â'r Lord Hicks hoffus. Wedi'i magu gyda llwy arian yn ei geg a'i haddysgu ar strydoedd Soho, mae'r comediwr bonheddig yn mynd â chi ar chwip gerddorol fythgofiadwy trwy hanes 'queer'.

Gwisgo i greu argraff mae Lord Hicks, yn barod i fynd â chi ar romp gerddorol trwy hanes queer.
Lord Hicks

Hefyd, mae Carys Eleri yn dychwelyd i Ffresh (nôl i le ddechreuodd popeth) i orffen ei thaith hynod lwyddiannus o Lovecraft (Not the Sex Shop in Cardiff)/ Cer i grafu...Sori... Garu! gyda sioeau wedi gwerthu allan yng Ngŵyl Fringe Adelaide, Fringe Caeredin a thaith o Gymru. Cymysgwch o gariad, gwyddoniaeth â chan.

Cabaret Lliwgar dros y Nadolig

Connie Orff ynghyd â'i ffrog goch a sacsoffôn yn dod a â sioe drag Nadoligaidd i far cabaret Ffresh
Connie Orff

Byddai'r Nadolig ddim yr un fath heb Connie Orff yn taflu dŵr oer dros draddodiadau'r ŵyl. Felly, dewch i ddianc rhag baich materyddol y Nadolig a chwerthin Ho Ho Ho tan fod eich bol yn brifo.

Anti-Christmas
Anti-Christmas

Beth yw Nadolig yn y Ganolfan heb Gabaret? A does neb yn gwenud hi'n well na Chlwb Cabaret Caerdydd. Mae Horror at Christmas yn wledd wrth-nadoligaidd sy'n cyflwyno bwrlesg gwyllt, comedi rhyfedd a mwy.

Mae ein hen ffefrynnau Cabarela yn dychwelyd â Cabarela Nadolig - sioe gerddorol ddoniol tu hwnt - yn serennu'r bugeiliaid brwnt, Y Divas a'r Diceds, Y Brenin Herod ei hun, Hywel Pitts a'r angylion nefolaidd, Sorela.

Theatr yn y Stiwdio Weston

Draw yn y Weston...mae'r arobryn Deafinitely Theatre yn adfer ei gynhyrchiad dathliedig dwy-ieithog Sarah Kane’s 4:48 Psychosis - drama delynegol a brawychus am iechyd meddwl - wedi'i berfformio mewn Iaith Arwyddion Prydeinig ac yn Saesneg am y tro cyntaf.

4:48 Psychosis
4:48 Psychosis

Yn dilyn cyfnod hynod boblogaidd yn Roundhouse Llundain, mae femmes Hive City Legacy yn dod a'u sioe derfysglyd a grymus, gyda chyfuniad ffrwydrol o acrobateg yn yr awyr, bît-bocsio, y gair llafar a dawnsio cyfoes.

Os ydych chi am wylio sioeau sy'n addas i'r teulu cyfan... mae Drudwen yn chwedl tylwyth teg tywyll sy'n adrodd hanes troello am y ddewines Drudwen, a’r efeilliaid diniwed yr olwg mae hi’n ei ddarganfod mewn coedwig.  Yn cynnwys syrcas, theatr gorfforol a cherddoriaeth, dyma sioe hudolus am y teulu cyfan.

Yn cynnwys syrcas awyr, theatr gorfforol doniol a cherddoriaeth byw anghygoel, dyma sioe hudolussy'n wledd i'r synhwyrau.
Drudwen
 Toby Thompson

Wedi ei ysgrifennu a’i berfformio gan Toby Thompson – cyn-enillydd slam farddoniaeth Glastonbury – mae I Wish I Was A Mountain yn defnyddio odl, cerddoriaeth fyw a phinsiaid o athroniaeth fetaffisegol i ail-greu stori dylwyth teg glasurol Hermann Hesse mewn modd beiddgar.

Mae ein sioe Nadolig Red, gan yr arbennig Likely Story yn chwedl ddoniol sydd wedi'i hysbrydoli gan yr Hugan Fach Goch sy'n dilyn grŵp o arwyr annhebygol ar antur hudolus gyda Grandma Red, gyda choed sy'n sibrwd, afanc breuddwyd, llwyn sy'n siarad â llwyth o bethau rhyfeddol eraill.

Red
Red