Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Tumi Williams yn sefyll tu fewn i Ganolfan Mileniwm Cymru

Cyflwyno Tumi Williams

Roedd yn bleser gennym gyflwyno ein carfan gyntaf o Gymdeithion Creadigol, fis diwethaf. Mae'r grŵp deinamig yma o wyth o artistiaid ac ymarferwyr creadigol yn ymuno â'n tîm ar adeg hollbwysig yn ein hanes.

Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn dod i adnabod y cymdeithion yn well, drwy sesiwn holi ac ateb gyda phob un. Yr wythnos hon, dewch i gyfarfod Tumi...

DWÊD WRTHON NI AM DY YMARFER GREADIGOL. PA FATH O WAITH WYT TI'N EI GREU A BETH SY'N DY YSGOGI DI?

Fy mhrif ffurf gelfyddydol yw cerddoriaeth, gan wneud fy ngherddoriaeth fy hun yn nulliauhip-hop, Affro-funk, a jazz. Dwi wedi bod yn rhan o'r sîn yng Nghaerdydd ers bron i 12 mlynedd. Ar wahân i berfformio, rwyf wedi gweithio fel hyrwyddwr digwyddiadau, yn trefnu gigs a theithiau ar gyfer ystod eang o actau – o fandiau pres i DJs, o Gymru ac o dramor – ond yn fwy diweddar rwyf wedi cynrychioli gwahanol weithredoedd ar draws y ddinas fel asiant.

Rwyf hefyd yn gogydd rhan-amser; yn ystod y cyfnod clo dechreuais fy musnes bwyd stryd 'Jollof House Party' sy'n gweini bwyd figan Nigeriaidd.

Des i i Gaerdydd am y tro cyntaf i astudio celf gain yn y brifysgol, gyda diddordeb arbennig mewn graffiti. Rwy'n mwynhau gallu clymu fy llinynnau creadigol amrywiol gyda'i gilydd fel ymarferydd creadigol i Gyngor Celfyddydau Cymru, gan weithio gyda phobl ifanc mewn ysgolion ar brosiectau celf, cerddoriaeth a drama.

Rwy'n gwneud fy ngwaith er mwyn rhannu fy nhaith, a’n hannog ni i gyd i gefnogi ein gilydd. Dim ond bod dynol ydw i fel pawb arall, ac os mai dim ond un person allan yna sy'n gallu uniaethu â’r hyn rydw i’n cynhyrchu byddaf i’n hapus!

PAM OEDDET TI AM YMUNO Â NI FEL CYDYMAITH CREADIGOL?

Rwyf wedi gweithio yn y Ganolfan ac o'i chwmpas mewn sawl ffordd ers tua deng mlynedd, gan gynnwys â’r prosiect côr ‘urban’ cyfoes Hard-Cor, Radio Platfform, Gŵyl y Llais, ac yn fwy diweddar fel un o ymddiriedolwyr Tŷ Cerdd.

Roedd fy nghariad tuag at y celfyddydau a chymryd rhan yn y gwahanol brosiectau sy'n digwydd yma wedi fy nenu i'r rôl. Clywais am y newidiadau positif sy'n digwydd yma, ac roeddwn yn awyddus iawn i fod yn rhan o hynny.

BETH WYT TI'N GOBEITHIO'I GAEL O'R DDWY FLYNEDD NESAF YN GWEITHIO GYDA NI YNG NGHANOLFAN MILENIWM CYMRU?

Rwy'n gobeithio parhau i wneud gwaith sy'n adlewyrchu ein brwydrau fel pobl groenliw yng Nghymru ond sydd hefyd yn dathlu ein gwahaniaethau. Rwyf hefyd yn awyddus i ddod â'm gwybodaeth am fwyd i weithio gyda gwerthwyr yn ardal fwyd stryd Teras.

Dros y daith rwy'n gobeithio ymgysylltu â chymaint o bobl ifanc â phosibl, gan drosglwyddo'r ffagl a'u hysbrydoli i archwilio eu creadigrwydd eu hunain.

MAE'R 18 MIS DIWETHAF WEDI BOD YN ANODD, OND BETH YW'R PETHAU POSITIF SYDD WEDI DOD O'R CYFNOD YMA I TI, A BETH YW DY OBEITHION AR GYFER Y DYFODOL?

Rhoddodd y cyfnod clo gyfle i mi feddwl am yr hyn sy'n bwysig i mi. Ar lefel bersonol, croesawyd ein plentyn cyntaf ym mis Ionawr ac fel crëwr, roeddwn am sicrhau bod fy mhlentyn yn dod i fyd a oedd yn fwy trigiannol. Mae hynny wedi fy ngyrru i ddechrau fy musnes bwyd stryd 'Jollof House Party' er mwyn creu amgylchedd mwy cyfforddus i'm teulu.

Oherwydd y natur ein ffyrdd o weithio ar hyn o bryd, rydw i wedi gallu cysylltu â chymaint o wahanol sefydliadau a chydweithio ymhellach i ffwrdd fel artist. Rwyf hefyd wedi gweithio gyda thair ysgol trwy Gyngor y Celfyddydau fel Ymarferydd Creadigol ac rwy'n gobeithio parhau â hynny.

YM MHLE GALLWN NI WELD DY WAITH?

Cewch weld mwy o'm gwaith ar Instagram, Facebook, Twitter, SpotifyBandcamp.