Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Ni'n Tanio'r Dychymyg: Hacio Bywyd

Cyflwynwyd Hacio Bywyd eleni gan Luke McGrath o'n rhaglen Yn Gryfach Ynghyd a Tia Camilleri o'n Criw Ieuenctid a Grŵp Dylunio.

Cafodd Luke flas am berfformio yn ystod ein pop-yps Ymyriadau Pwerus yng Ngŵyl y Llais 2021, ac eleni rhoddodd gynnig ar gyflwyno am y tro cyntaf.

Roedd yn ddiwrnod gwych yn y Factory yn y Porth gyda Plant y Cymoedd a'n holl bartneriaid. Mae gan ein digwyddiadau Hacio Bywyd egni gwych bob tro ac roedd hynny'n wir eleni, gyda gweithdai hwyliog am ddim gan gynnwys ysgrifennu caneuon, effeithiau arbennig, gemau bwrdd, codio, sgiliau syrcas a mwy - a disgo tawel i orffen y cyfan!

Cymerwch olwg ar y digwyddiad eleni...

A chadwch lygaid am Hacio Bywyd arbennig yng ngŵyl Llais eleni ym mis Hydref 2022. Manylion cyn hir...

Trefnwyd y weithgaredd hon drwy ein partneriaeth Yn Gryfach Ynghyd gyda Valleys Kids, ac ariannwyd hi gan The Moondance Foundation, Garfield Weston Foundation, The Simon Gibson Charitable Trust a The Mary Homfray Charitable Trust.