Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Rydyn ni’n credu y bydd archwilio ffurfiau newydd ar adrodd straeon yn galluogi mwy o bobl i gysylltu â straeon mewn ffyrdd newydd a gwahanol.

Rydyn ni’n curadu ac yn creu rhaglen o waith digidol sy’n gwthio ffiniau realiti a phosibilrwydd ac yn cefnogi artistiaid i archwilio eu hymarfer drwy lwyfannau a thechnolegau amgen.

Bocs yw ein gofod pwrpasol ac arloesol sy’n cyflwyno rhaglen newidiol sy’n dod â phrofiadau ymdrochol arobryn a digwyddiadau realiti ymestynnol (XR) i Gymru. Rydyn ni hefyd wedi cynhyrchu ein profiadau digidol a’n harddangosfeydd ein hunain i gyd-fynd â’n cynyrchiadau fel Ripples of Kindness ar gyfer The Boy with Two Hearts a The Museum of Nothingness ar gyfer The Making of a Monster.

Gwyliwch ein ffilm am Bocs:

Celfyddydau Ymdrochol   

Yn 2024 daethom yn bartner mewn prosiect ledled y DU a ariennir drwy grant o £6 miliwn a fydd yn cefnogi dros 200 o artistiaid Prydeinig i archwilio posibiliadau technoleg ymdrochol. 

Dros dair blynedd bydd y prosiect yn rhoi mynediad i artistiaid i’r adnoddau a’r hyfforddiant sydd eu hangen arnynt i ddefnyddio potensial y technolegau creadigol yma sy’n esblygu ac yn datblygu’n gyflym.  

Fel un o’r pedwar partner cynhyrchu sy’n cynrychioli holl wledydd y DU, rydyn ni yng nghwmni Watershed yn Lloegr, stiwdios traws-ffurfiau celf Nerve Centre yng Ngogledd Iwerddon a chyfleusterau Cryptic a phartneriaid yn yr Alban. Caiff y prosiect ei arwain gan Pervasive Media Studio (PMStudio), partneriaeth rhwng Watershed, UWE Bryste a Phrifysgol Bryste. 

Mae cyllid ar gyfer Celfyddydau Ymdrochol yn dod o bartneriaeth unigryw rhwng Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, Arts Council Engloand, Creative Scotland, Arts Council of Northern Ireland a Chyngor Celfyddydau Cymru.  

Darllenwch: Ein blog cyhoeddiad partneriaeth

Partneriaeth Rhwydwaith Ida 

Yn 2023 gwnaethom sefydlu partneriaeth gyda Rhwydwaith Ida i greu hwb Cymreig newydd sef HWB Ida, a fydd yn lansio yn 2024.  

Gofod i ddathlu a chroesawu menywod, pobl anneuaidd a phobl draws o fewn y sector XR ymdrochol yw Rhwydwaith Ida. Mae’n ofod diogel a chynhwysol i gwrdd â phobl newydd, creu cysylltiadau newydd neu hyd yn oed dechrau cydweithrediad neu fenter newydd.  

Gofod ffisegol a rhithwir yw HWB Ida – rydyn ni’n cynnal digwyddiadau wyneb yn wyneb yn ogystal â rhannu newyddion, blogiau a chyfleoedd â’n cymuned gynyddol.  

I glywed mwy am HWB Ida a chael eich ychwanegu at y rhestr bostio, anfonwch eich enw a’ch cyfeiriad e-bost i ida.hwb@wmc.org.uk.