Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Person sat at a radio studio mixing desk

Bob dydd Iau, 6pm – 8pm

Hyfforddiant Radio

Dewch i greu am ddim

Canolfan Mileniwm Cymru

28 Ebrill – 2 Mehefin 2022

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Hyfforddiant Radio {{::on_sale_date.label}} Canolfan Mileniwm Cymru MM/DD/YYYY 15 event-1265

Bob dydd Iau, 6pm – 8pm

Hyfforddiant Radio

Dewch i greu am ddim

28 Ebrill – 2 Mehefin 2022

Canolfan Mileniwm Cymru

Ar y cwrs hyfforddi hwn sy'n chwe wythnos o hyd, byddwch yn dysgu sut i greu rhaglen radio neu bodlediad. Mae'r cwrs yn un achrededig, gyda'r cyfle i chi gyflawni Agored Cymru Unit.

Byddwch hefyd yn dysgu am y mathau gwahanol o gynnwys radio, sut i hel a chreu straeon newyddion, a chreu recordiadau o ansawdd uchel. Rhowch gynnig ar gyflwyno, cyfweld a thrafod pynciau sydd o bwys i chi.

P’un ai’ch bod chi wrth eich bodd â radio a phodlediadau, neu â dim profiad o’r cyfrwng, mae’r cwrs yma wedi’i deilwra i’ch cefnogi chi, beth bynnag eich lefel o brofiad.

Ar ôl cwblhau’r cwrs, mae croeso i’r cyfranogwyr ymuno â thîm Radio Platfform – i gyflwyno, creu sioeau ar gyfer yr orsaf ac ymwneud â digwyddiadau ecsgliwsif i aelodau Radio Platfform.

I BWY MAE’R RHAGLEN?

Mae’r cyrsiau’n agored i unrhyw un 14 – 25 oed o bob cefndir ac o bob rhan o Gymru.

PRYD?

Bob dydd Iau , 6pm – 8pm dros chwe wythnos, yn cychwyn dydd Ionawr 20 2022. 

Unwaith i chi gofrestru, byddwn yn anfon rhagor o wybodaeth am y cwrs.

Cynhelir chwe sesiwn ar y dyddiadau canlynol: 28 Ebrill, 5 Mai, 12 Mai, 19 Mai, 26 Mai ac 2 Mehefin, a bydd angen i chi fynychu bob un. Ychwanegwch un tocyn i'ch basged i archebu'ch lle ar y cwrs cyfan.

Cyfyngiad oedran: 14 – 25 oed

YNGLYN Â’N CYRSIAU LLAIS CREADIGOL

Mae Llais Creadigol yn rhaglen unigryw chwe wythnos o hyd sy’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc archwilio’i diddordebau, mynegi eu hunain, datblygu hyder creadigol a dysgu sut i rannu eu storïau drwy brofiadau dysgu ymarferol.

Cyllidwyd y gweithgaredd hwn gan grant Cyngor Celfyddydau Cymru.

Cyflwynir yn

Canolfan Mileniwm Cymru