Antur gerddorol fywgraffiadol sy'n addo direidi a mashups, ffrogiau a divas, a digonedd o galon.
“I’m not just your Nan. I’m your friend too.”
Wrth dyfu lan mewn cymuned glos yn ne Cymru, dibynodd Luke Hereford ar ei famgu fel codwr hwyl personol i'w dywys drwy ei blentyndod cwiar.
Ar ei gamau petrus cyntaf ar hyd yr yellow brick road mae Luke yn herio Broadway, profi ei ddigwyddiad balchder gyntaf a darganfod ei liw lipstic berffaith – gyda cherddoriaeth Madonna, Kylie, Kate Bush a'i holl divas pop yn gefndir.
“a lavish high-camp cabaret”
Ymunwch â Luke wrth iddo faglu ar hyd ei daith gwiar o hunan-ddarganfod drwy ysbryd glamoraidd ei famgu, gan dwyn eu hatgofion disgleiriaf – cyn iddynt ddechrau diflannu am byth.
“a bittersweet yet triumphant coming-of-age for all”
“a joyous big hug of a show”
Amser dechrau:
Thu – Sat 8.30pm, doors 8pm
Sat + Sun 3.30pm, doors 2.30pm
Amser rhedeg: 70 munud, heb egwyl.
Oed: 16+
Rhybuddion: Yn cynnwys iaith gref, goleuadau sy'n fflachio a noethni rhannol.
Perfformiadau Ymlaciedig
Bydd y perfformiadau matinee ddydd Sadwrn a dydd Sul yn berfformiadau ymlaciedig i bobl sy'n byw gyda dementia. Bydd y drysau yn agor am 2pm i'r rhai a hoffai gael taith gyffwrdd ac ymuno ag ychydig o ganu cyn y perfformiad.
IECHYD DA!
Bydd y drysau yn agor 30 munud cyn i’r perfformiad ddechrau, gan roi digon o amser i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â ffrindiau a phrynu diod drwy ein ap archebu.
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3.
CYNNIG GRWPIAU
Grwpiau o 10+, £3 i ffwrdd. Trefnu ymweliad grŵp.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
Perfformiadau Ymlaciedig
Teithiau Cyffwrdd