Rhowch gynnig ar ysgrifennu ffuglen erotig dafod-yn-y-boch bwrpasol wael gyda’r awdur a Llawryf Geiriau Plymouth, Laura Horton.
Gydag ysgogiadau ac amser i ysgrifennu, bydd awr gyntaf y sesiwn yn cael ei neilltuo i ddod o hyd i ffyrdd o ysgrifennu’n ddoniol am ryw – boed hynny’n stori fer, yn gerdd, neu’n ddrama. Does dim angen profiad.
Yn yr ail awr, bydd y darnau’n cael eu darllen allan. Gallwch ddewis darllen eich gwaith eich hunan, neu ofyn i Laura neu un o’r actorion gwadd ei ddarllen ar eich rhan (yn ddienw, os yw’n well gennych).
Dychmygwch pe bai Letters Live a My Dad Wrote a Porno yn cael babi.
![](https://res.cloudinary.com/wales-millennium-centre/image/upload/c_fill,f_auto,g_auto,h_300,q_auto:eco,w_500/v1/WMC%20Content/Whats%20On/2023/Cabaret/The%20Bad%20Sex%20Writing%20Workshop/Laura_Horton_IMG_2692_desat_credit_Flavia_Fraser-Cannon.jpg)
Even though these events are spaces for humour, I’ve had a lot of people open up after workshops, making me realise how messy everyone’s romantic lives are. Ultimately, this sort of camaraderie makes sex less intimidating – and makes us all feel less alone.
Laura Horton, Vogue
Amser dechrau: 3.30pm, drysau 3pm
Canllaw oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref a cynnwys oedolion
IECHYD DA!
Bydd y drysau yn agor 30 munud cyn i’r perfformiad ddechrau, gan roi digon o amser i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â ffrindiau a phrynu diod drwy ein ap archebu.
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.