Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn dymuno diolch o galon i Gyngor Celfyddydau Cymru (CCC), yn dilyn cadarnhad o’u cefnogaeth ariannol, ar 21 Hydref.
Mae’r gefnogaeth brys yma yn sicrhau ein bod yn diogelu 92 swydd a sgiliau gwerthfawr. Wrth i ni ail-adeiladu ein gweithgaredd byddwn hefyd yn cefnogi’r gymuned ehangach o artistiaid. Byddwn yn darparu cyfleodd hanfodol i weithwyr llawrydd, ac i brentisiaid barhau gyda’u hyfforddiant. Bydd yr arian hefyd yn cyllido gwelliannau a thechnoleg newydd er mwyn sicrhau bod yr adeilad yn ddiogel pan fyddwn yn barod i ailagor.
Collodd Ganolfan Mileniwm Cymru £20m o werthiant tocynnau (85% o’n hincwm) pan fu’r adeilad gau ym mis Mawrth 2020. Cafodd ein nerth masnachol ei effeithio’n ofnadwy yn sgil y pandemig byd-eang.
Rydyn wedi canslo cannoedd o berfformiadau ac wedi gwneud toriadau ariannol mawr, gan gynnwys toriadau sylweddol i’n nifer o staff. Rydyn ni’n dal i fod yn ansicr ynghylch pryd fydd modd i ni ailagor ein Theatr Donald Gordon ar gyfer perfformiadau cyhoeddus.
Ein hamcangyfrif gorau ar hyn o bryd yw mis Ebrill 2021 ar y cynharaf. Mae hyn yn ddarostyngedig i ganllawiau Llywodraeth Cymru (sydd yn datgan ar hyn o bryd bod rhaid i theatrau aros ar gau).
Rydyn ni wrthi’n cysylltu â deiliaid tocynnau ar gyfer y sioeau hynny sydd wedi’u canslo neu’u gohirio, er mwyn trefnu ad-daliadau neu gyfnewid tocynnau. Gweler manylion am newidiadau i sioeau ar ein gwefan fan hyn.
Er na fyddwn yn agor ein drysau i berfformiadau ar raddfa fawr tan 2021, byddwn yn gweithio’n galed i ailagor a chryfhau Canolfan Mileniwm Cymru fel ased ac adnodd i artistiaid, cymunedau a phobl ifanc.
Rydyn ni’n ymrwymo’n llawn i’r egwyddorion yng nghytundeb diwylliannol CCC i gefnogi sector mwy amrywiol, cynhwysol a chynaliadwy. Byddwn yn adlewyrchu amrywiaeth a chyfoeth ein cymuned wrth i ni greu gwaith sy’n gwireddu ein nod o ysbrydoli’r genedl a chreu argraff ar y byd.
Cadw creadigrwydd yn fyw
Yn ôl ym mis Ebrill cydnabu Graeme Farrow, ein Cyfarwyddwr Artistig y byddai’r dyfodol yn wahanol iawn i ni fel sefydliad. Dwedodd ef na ddylem ni fynd yn ôl i’r hen ‘normal’ ond yn hytrach, ailadeiladu ar sylfeini mwy cadarn.
Dros y saith mis diwethaf rydyn ni wedi cadw fflam creadigrwydd ynghynn drwy gefnogi a hwyluso prosiectau ar lawr gwlad. Fe lansiom Llais Creadigol – cwrs hyfforddi ar gyfer pobl ifanc ac fe gynhalion bicnic cymunedol Carnifal Trebiwt.
Buom hefyd yn brysur yn parhau i ddatblygu ein cynyrchiadau ein hunan gyfer 2021 a thu hwnt, dangoson sawl arddangosfa gymunedol, a darparon ni gefnogaeth i Radio Platfform, ein gorsaf radio a rhaglen hyfforddi dan arweiniad pobl ifanc, i barhau i ddarlledu.
Rydyn ni’n bodoli er mwyn dangos perfformiadau byw ar ein llwyfan. Byddwn yn paratoi ein canolfannau ar gyfer ailagor cyn gynted a bo canllawiau’n caniatáu
Ein rhaglen newydd
Byddwn yn dechrau â’r broses drwy gynnal cyfres o ddigwyddiadau Covid-ddiogel caeedig er mwyn peilota’r ffordd orau a fwyaf diogel o weithredu. Bydd ein rhaglen newydd yn parhau i ddangos y sioeau gorau o’r West End ochr yn ochr â chelf gyhoeddus wedi’i greu drwy gyllido cyfranogol, profiadau dysgu creadigol wedi’u dylunio a’u datblygu gan bobl ifanc a thyfu cefnogaeth ar gyfer artistiaid ac ymarferwyr creadigol.
Mae newyddion heddiw ynglŷn â’r cyllid brys yn hwb hollbwysig ac yn gyfle i ni weithredu newid cadarnhaol. Fodd bynnag, nes i ni allu creu incwm drwy ein rhaglen theatr fasnachol, byddwn yn parhau i ddibynnu ar roddion hael i gefnogi ein gwaith creadigol a’r cyfleodd niferus mae ein gwaith yn ei greu i artistiaid, cymunedau a phobl ifanc.
Rwy’n siarad ar ran pawb yng Nghanolfan Mileniwm Cymru wrth ddiolch i Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraethau Cymru a’r DU am eu cymorth ariannol hanfodol. Heb y cyllid yma, byddai’r effaith ar fywoliaeth unigolion a sgiliau a chreadigrwydd yng Nghymru hyd yn oed yn fwy difrifol.
Mae ein campws yn gartref i wyth cwmni preswyl. Bydd y grant yma’n cynnal staff a gwaith y cwmnïau preswyl hefyd, ac rydyn ni’n edrych mlaen yn fawr i’w croesawu nôl i’r adeilad mor fuan â phosib.
Fel canolfan celfyddydau Cymru rydyn ni’n ymwybodol iawn o’r rhan bwysig rydyn ni’n ei chwarae. Yn hynny o beth, bydd ein goroesiad yn cefnogi iechyd, cynaliadwyedd a llwyddiant ein sector.
Diolch
Rydyn ni hefyd yn hynod ddiolchgar i’n cymuned am eu cefnogaeth bellgyrhaeddol yn ystod y cyfnod anodd yma. Mae negeseuon caredig ein cynulleidfaoedd, cyllidwyr a ffrindiau hen a newydd yn y sector greadigol yn golygu llawer.
Hoffem ni ddiolch yn benodol i Aelodau Seneddol Caerdydd – Stephen Doughty, Jo Stevens, Kevin Brennan ac Anna McMorrin, a’r Ysgrifennydd Gwladol, Simon Hart, a ymgyrchodd er mwyn sicrhau bod San Steffan yn cydnabod yr anawsterau mae ein sector yn eu hwynebu.
Nid yw’n gor-ddweud i ddatgan heb y gefnogaeth rydyn ni wedi ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru, fod sefydliad diwylliannol mwyaf Cymru, ynghyd a’r swyddi rydyn ni’n eu cynnal i gynifer, mewn perygl. Diolch hefyd i Eluned Morgan AC a Dafydd Elis-Thomas AC am eu cefnogaeth hanfodol.
Ac, i gloi, rydyn yn ddiolchgar tu hwnt i’n haelodau, ein cefnogwyr a’r cyfranwyr unigol sy’n parhau i’n cefnogi.
Rwy’n gwybod bod ein staff a’n hymddiriedolwyr yn teimlo rhyddhad ac yn ddiolchgar tu hwnt am gael cadarnhad o’r cyllid. Hoffwn ddiolch iddynt oll am eu hymroddiad dros y saith mis diwethaf.
Mae gwaith caled o’n blaenau, ond mae’r cyhoeddiad yma ynglŷn â’r cyllid yn rhoi gobaith go iawn i ni y gallwn ailagor yn 2021 a pharhau i danio’r dychymyg.