Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Branwen: Dadeni

Sioe gerdd epig Gymraeg newydd

Rydym yn cydweithio gyda Frân Wen i gynhyrchu sioe gerdd ddramatig Gymraeg newydd sbon.

Bydd Branwen: Dadeni yn cael ei llwyfannu yng Nghaerdydd, Aberystwyth a Bangor ym mis Tachwedd 2023. Ysgrifennwyd gan Hanna Jarman, Elgan Rhys a Seiriol Davies, gyda geiriau a cherddoriaeth gan Seiriol Davies.

Mae’r bartneriaeth artistig yma yn nodi carreg filltir bwysig i’r ddau sefydliad wrth iddyn nhw ddechrau’r gwaith o gyflawni eu cyd-weledigaeth o gynhyrchu sioe gerdd Gymraeg nodedig, gan ddenu talent o bob cwr o Gymru ar gyfer ailddychmygiad cyfoes o stori enwog a thrasig Branwen o straeon mytholegol hynafol y Mabinogi. 

“Rydw i’n llawn cyffro i fod yn gweithio gyda Frân Wen ar y fenter nodedig hon ar gyfer gwaith ysgrifennu newydd yn Gymraeg yn y genre yma, ar y raddfa hon."

Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru

Mae cyd-greu wrth wraidd y cynhyrchiad

Wedi’i arwain gan dîm o dri awdur, mae cyd-greu wrth wraidd y cynhyrchiad. Mae gwaith ysgrifennu blaenorol Hanna Jarman yn cynnwys GALWAD (Collective Cymru), Y Teimlad (CCIC) a drama gomedi S4C Merched Parchus y gwnaeth hi ei chreu, ei chyd-ysgrifennu ac ymddangos ynddi; mae gwaith ysgrifennu Elgan Rhys yn cynnwys Elen Benfelen/Goldilocks a Woof ar gyfer Theatr y Sherman, ac mae’n gweithio fel Golygydd Creadigol a Rheolwr Prosiect ar y gyfres Y Pump (Y Lolfa); yn fwyaf diweddar, mae Seiriol Davies, sydd hefyd wedi cyfansoddi ac ysgrifennu geiriau’r sioe, wedi ysgrifennu Betty: A Sort of Musical (Royal Exchange Manceinion), Milky Peaks (Theatr Clwyd ac Áine Flanagan Productions) a How to Win Against History, a agorodd yng Ngŵyl Ymylol Caeredin – cafodd y sioe yr adolygiadau gorau yn yr Ŵyl honno ac yna gwerthodd ei rhediad yn y Young Vic yn Llundain allan. 

“Mae’r cydweithrediad yma yn bwysig iawn i ni wrth i ni weithio ar ein cynhyrchiad Cymraeg mwyaf hyd yma, sy’n seiliedig ar stori Gymreig fyd-enwog a phoblogaidd, wedi’i haddasu ar gyfer ein byd ni heddiw. Alla i ddim aros i weld yr addasiad gwych yma o Branwen, wedi’i ysgrifennu gan Hanna, Elgan a Seiriol, yn dod yn fyw ar lwyfannau ledled y wlad, gydag ein tîm syfrdanol o dalent greadigol Gymreig.”

Gethin Evans, Cyfarwyddwr + Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen

Y tîm creadigol

Mae’r tîm creadigol yn cynnwys y dylunydd set a gwisgoedd Elin Steele (The Scandal at Mayerling, Dextera a chynhyrchiad sydd ar y gweill o Cinderella ar gyfer Scottish Ballet; A Midsummer Night's Dream, Hero of the People, Woof ar gyfer Theatr y Sherman), y dylunydd goleuo Bretta Gerecke (Lady in the Dark ar gyfer Opera Zuid; dylunydd set a goleuo Coming to England ar gyfer Birmingham Rep; dylunydd set, goleuo, gwisgoedd a thafluniadau The Invisible ar gyfer Catalyst Theatre), y sgoriwr Owain Gruffudd Roberts (arweinydd Band Pres Llareggub, band pres cyfoes â naw aelod; trefnydd rheolaidd ar gyfer Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Welsh Pops Orchestra a S4C) a’r cyfarwyddwr castio Hannah Marie Williams (The Cost of Living ar gyfer National Theatre Wales, castio byw a theatr ar gyfer GALWAD). 

Meithrin awduron a thalent greadigol

Branwen: Dadeni yw’r diweddaraf mewn rhediad o gynyrchiadau Canolfan Mileniwm Cymru sy’n meithrin awduron a thalent greadigol yng Nghymru ac o Gymru. Bydd ei chynhyrchiad diweddaraf, Es & Flo, sgript arobryn a ysgrifennwyd gan Jennifer Lunn, yn cael ei berfformio am y tro cyntaf yn Stiwdio Weston Canolfan Mileniwm Cymru rhwng 28 Ebrill a 13 Mai 2023 cyn cael ei lwyfannu yn y Kiln Theatre yn Llundain ym mis Mehefin 2023.

Mae cynyrchiadau llwyddiannus eraill Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnwys The Boy with Two Hearts (2021) gan Hamed Amiri, a drosglwyddodd yn ddiweddar i’r National Theatre yn Llundain;  The Making of a Monster (2022) gan Connor Allen, Anthem (2022) gan Llinos Mai a The Beauty Parade (2020) gan Kaite O’Reilly.

Mae gwaith diweddar Frân Wen yn cynnwys taith genedlaethol y ddramedi Gymraeg am dyfu i fyny, Croendena, a werthodd allan; Ynys Alys (2022) a oedd yn dilyn stori merch ifanc wrth iddi chwilio am ei hannibyniaeth; a Faust & Greta (2021), cyd-gynhyrchiad gyda Theatr Genedlaethol Cymru a Pontio – profiad theatraidd digidol wedi’i ysbrydoli gan gyfieithiad Cymraeg T. Gwynn Jones o glasur Goethe ‘Faust & Greta’.