Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Er mwyn sicrhau bod unrhyw un yn gallu cael mynediad at y celfyddydau, waeth be fo’u hamgylchiadau na’u chwaeth, rydyn ni’n cydweithio â chymunedau, pobl ifanc a chynulleidfaoedd i greu rhaglenni a ffyrdd o weithio sy’n groesawgar i bawb.  

Gwyliwch fideo am ein rhaglen gymunedol

Tocynnau Croeso

Dyma ein cynllun tocynnau ‘talwch beth y gallwch’, sy’n sicrhau bod y rheini na fyddai fel arfer yn cael cyfle i ymwneud â’r celfyddydau yn cael yr un cyfleoedd â’r rheini sy’n mynychu ac yn ymgysylltu yn aml. Rydyn ni’n cynnig Tocynnau Croeso i grwpiau a rhwydweithiau cymunedol ar gyfer pob sioe yn ein Theatr Donald Gordon, fel bod modd i bawb fwynhau theatr o’r radd flaenaf; y llynedd fe gafodd dros 3,200 o bobl fynediad at seddi am bris gostyngol. Fe addawon ni dros 1,000 o docynnau am ddim neu am bris gostyngol i Llaisein gŵyl ryngwladol flynyddol fel bod modd i ragor o’r rheini sy’n hoff o gerddoriaeth fyw fwynhau ein rhaglen amrywiol  

‘...mae sioeau cerdd traddodiadol mewn canolfan fawr yn cael eu gweld fel pethau i’r fonedd ac yn gallu peri ofn i’n cymuned ni – felly mae’r cynllun yma wedi gwneud i mi deimlon gartrefol. 

Deiliad Tocyn Croeso

Perfformiadau a mannau hygyrch

Mae pob man yn gwbl hygyrch ac â’r nod o fod yn weithredol gynhwysol. O fannau parcio bathodynnau glas i berfformiadau ymlaciedig a thoiledau sy’n niwtral o ran rhywedd yn ein gofod perfformio Cabaret, neu’r lleisiau a’r iaith rydych chi’n ei glywed ar ein system Tannoy rydyn ni’n gweithio’n barhaus i wella ar ein harlwy, fel bod pawb yn teimlon gyfforddus yn ymwneud â ni. 

Rydyn ni hefyd yn datblygu ein mannau cyhoeddus fel bod modd i ragor o bobl eu rhannu a’u defnyddio. Mae’r rhain yn cynnwys Ffwrnais, ein bar-caffi mawr sy'n cael ei ddefnyddio gan lawer o grwpiau cymunedol ac unigolion er mwyn cyfarfod a chydweithio mewn awyrgylch gynnes, ddiogel a chysylltiedig, a gan artistiaid lleol er mwyn dangos eu gwaith; Cabaret, ein cartref newydd ar gyfer talent amrywiol ac eclectig a gofod cynhwysol ar gyfer cynulleidfaoedd a pherfformwyr; a Platfform, gofodau dan arweiniad pobl ifanc ar gyfer pobl ifanc syn cael eu datblygu a’u cyd-greu ar hyn o bryd. 

Rydyn ni’n sicrhau bod cynnig o berfformiadau ymlaciedig a chynorthwyol lle bo modd – gallwch ddefnyddio’r hidlydd ar ein tudalen digwyddiadur i chwilio am y rhain a darganfyddwch fwy am ein cyfleusterau hygyrch. 

Cyfleoedd a phrofiadau creadigol

Mae cynulleidfaoedd a chymuned wrth galon popeth a wnawn; rydyn ni’n darganfod ffyrdd newydd o ymgysylltu â’n cymunedau lleol a chenedlaethol, ac rydyn ni hefyd yn gosod eu lleisiau amrywiol hwy fel sylfaen i’n rhaglen. O gynnal dathliadau diwylliannol i sicrhau bod llwyfan i artistiaid lleol rannu eu llais, darganfyddwch fwy am y profiadau creadigol rydyn ni’n eu cynnig mewn cydweithrediad ag artistiaid a chymunedau 

Mae cynnig hyfforddiant, digwyddiadau a gweithdai am ddim i bobl ifanc na fyddai fel arfer yn cael cyfleoedd tebyg yn ffordd arall yr ydym yn sicrhau bod y celfyddydau creadigol yn fwy hygyrch. Dysgwch am ein cyfleoedd a gofodau creadigol.