Darllenwch ein hadroddiadau blynyddol a darganfyddwch sut rydyn ni wedi bod yn tanio'r dychymyg dros y blynyddoedd.
Y Stori Hyd Yma 2023 – 2024

Darllenwch ein adroddiad blynyddol
Yn 2023/24 profodd dros 1.2 miliwn o bobl gelfyddyd o’r radd flaenaf o dan ein to, o drag, comedi, a bwrlésg yn ein lleoliad Cabaret i sioeau cerdd ac opera rhyngwladol yn Theatr Donald Gordon.
Aeth Bocs, ein gofod celfyddydau digidol, â chynulleidfaoedd ar deithiau annisgwyl, a gwnaeth ein cynyrchiadau ein hunain amlygu talent Cymreig ar ein llwyfannau a thu hwnt. Swynodd Branwen: Dadeni, ein sioe gerdd Gymraeg gyda Frân Wen, 8,000 o bobl ledled Cymru. Llenwodd ein gŵyl gelfyddydol ryngwladol Llais ein hadeilad â cherddoriaeth, trafodaethau a dathliadau diwylliannol unigryw.
Fe wnaeth ein cymunedau a’n partneriaid creadigol fywiogi ein rhaglen gyda digwyddiadau fel Diwali, Carnifal Trebiwt a’n Iftar cymunedol cyntaf erioed.
Tu ôl i'r llenni, rydyn ni’n parhau i godi arian ar gyfer ein gofodau Platfform a arweinir gan bobl ifanc, sy'n cynnwys stiwdios recordio newydd, labordai digidol ac ardaloedd ymarfer i dyfu ein hyfforddiant sgiliau diwydiant am ddim.
Fel elusen sy’n gweithredu yng nghyd-destun cynnydd mewn costau a ffynonellau incwm cyfyngedig, dim ond cefnogaeth ein timau, ein cynulleidfaoedd, ein cyllidwyr, ein partneriaid, ein hymwelwyr a’n gwirfoddolwyr sy’n gwneud yr ehangder yma o weithgarwch yn bosib.
Diolch am ein helpu i gynnal creadigrwydd ac ysbrydoli’r genedl am yr ugain mlynedd nesaf a thu hwnt.
2022 – 2023: Y STORI HYD YMA
DARLLENWCH EIN ADRODDIAD BLYNYDDOL (PDF | ISSUU)
Dros y flwyddyn ddiweddaf mae trawsnewidiadau sylweddol wedi digwydd yn ein hadeilad. Mae ein gofodau newydd Cabaret, Ffwrnais a Bocs yn darparu ar gyfer cymunedau amrywiol Cymru ac yn hyrwyddo cynwysoldeb a chreadigrwydd.
Wrth i nifer ein gofodau gynyddu, mae ein heffaith yng Nghymru yn cynyddu hefyd. Mae dros 6,500 o bobl ifanc wedi cael eu hysbrydoli gan ein rhaglenni creadigol, gan gynnwys Llais Creadigol, Radio Platfform a Dros Nos. Mae 11,000 o aelodau’r gymuned wedi ymgysylltu â dros 160 o berfformiadau, arddangosfeydd, profiadau a dathliadau diwylliannol dan arweiniad y gymuned yn ein hadeilad.
Rydyn ni wedi parhau i weithio gydag artistiaid datblygol o bob cwr o Gymru i gynhyrchu ac arddangos eu straeon, a chyrhaeddodd ein cynyrchiadau llwyfan a’n profiadau digidol dros 40,500 o bobl ledled y byd.
Rydyn ni’n parhau i fod ar y rheng flaen o ran arloesedd yn y sector, gyda’n lleoliad celf ac adrodd straeon ymdrochol Bocs, sy’n unigryw yng Nghymru, a’n cyfranogiad yn rhwydwaith gwres Caerdydd Un Blaned, a fydd yn lleihau ein hallyriadau blynyddol 80%.
Dim ond crafu’r wyneb mae’r newidiadau yma, ac maen nhw’n nodi’r bennod nesaf gyffrous yn ein stori wrth i ni weithio i ddatblygu Gofodau Creu parhaol dan arweiniad pobl ifanc, a fydd yn meithrin doniau creadigol y genhedlaeth nesaf.
Ni fyddai dim o hyn yn bosibl heb gefnogaeth ein cynulleidfaoedd, cyllidwyr, partneriaid, ymwelwyr, gwirfoddolwyr a thimau Canolfan Mileniwm Cymru. Diolch.
2021 - 2022: Y STORI HYD YMA
2021 - 2022: Y STORI HYD YMA
Rydyn ni’n falch iawn o faint y gwnaethom ni barhau i’w gyflawni yn ystod 2021/22. Ni fyddai dim wedi bod yn bosib heb Gyngor Celfyddydau Cymru, ymroddiad ein partneriaid, ein gwirfoddolwyr, ein cymunedau ehangach a’n teulu o gefnogwyr:
Gwnaeth dros 318,000 ohonoch ymweld â ni pan roedd ein hadeilad ar agor, gan gynnwys ymwelwyr â’n harddangosfa ailagor dan arweiniad y gymuned, Eich Llais a daeth 140,000 ohonoch i weld sioeau ar draws ein gofodau.
Buom yn gweithio ar ddatblygu 10 o gynyrchiadau Canolfan Mileniwm Cymru'r dyfodol, a hynny gydag egin artistiaid. Fe ddatblygon ni ein comedi cerddorol Gymraeg gyntaf, Anthem. Fe gynigion ni 511 awr o ofod i 30+ o artistiaid, grwpiau cymunedol ac ysgolion er mwyn iddynt ddatblygu eu syniadau.
Gwnaethom ni groesawu cynulleidfaoedd newydd ac amrywiol - roedd 13% o archebwyr tocynnau ar gyfer ein cynhyrchiad The Boy with Two Hearts o grwpiau Du, Asiaidd, cymysg ac ethnig amrywiol (o gymharu â 3% ar gyfer ein sioeau masnachol). Gwnaethom ni barhau i wneud ein perfformiadau yn fwy hygyrch i’n cymunedau, gan gynnwys gosod seddi ‘talwch beth y gallwch’ pwrpasol yn ein prif theatr.
Gwnaethom ni barhau i gyd-gynhyrchu rhaglenni gyda phobl ifanc, gan gynnwys ein rhaglen hyfforddiant ieuenctid rhad ac am ddim, Llais Creadigol, a gynhaliwyd ar-lein. Ymunodd 100 o bobl ifanc yn y rhaglen hon. Gwnaethom ni gydweithio â 60+ o bobl ifanc i ddylunio ein Gofodau Creu ac fe gydweithiom â 50+ o bartneriaid cymunedol a rhyngwladol drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys ein wyth sefydliad preswyl diwylliannol.
Diolch o galon – rydyn ni’n llawn cyffro bod llawer mwy i ddod.
Adroddiad Blynyddol 2020 - 2021
Adroddiad Blynyddol 2020 - 2021
Roedd hon yn flwyddyn unigryw ac anodd tu hwnt i ni ac i weddill y sector. Yn sgil pandemig y Coronafeirws, caewyd ein drysau 17 Mawrth 2020, ac fe ail agorodd yr adeilad ym mis Gorffennaf 2021. Gyda chanslo pob sioe a digwyddiad, fe gollon ni 85% o’n refeniw dros nos, a bu rhaid i ni lywio ein ffordd drwy amgylchiadau digynsail, er mwyn sicrhau bod Canolfan Mileniwm Cymru yn goroesi.
Er na fu’n bosib i ni gyflwyno cynyrchiadau ar ein llwyfannau na chwaith croesawu pobl i’n hadeilad eiconig, fe lwyddon ni i gadw fflam creadigrwydd ynghyn drwy gydweithio â’r gymuned a symud ein rhaglen ymgysylltu greadigol ar-lein. Fe wnaeth bron i 3,000 o bobl ifanc ymwneud â ni drwy weithdai creadigol ar-lein dan arweiniad gweithwyr proffesiynol y diwydiant, gan feithrin sgiliau gwerthfawr.
Roedden ni hefyd yn un o bedair o hoff wyliau Cymru i ddod ynghyd i greu a chyflwyno Gŵyl 2021, gŵyl ar-lein am ddim oedd yn llawn dop â cherddoriaeth, comedi a sgyrsiau. Roedd Cate le Bon a Brett Anderson ymhlith ein hartistiaid. Fe wyliodd 107,101 o bobl Gŵyl 2021, drwy gyfrwng gwefan BBC Cymru – nifer anhygoel.
ADRODDIAD BLYNYDDOL A DATGANIADAU ARIANNOL 2020
ADRODDIAD BLYNYDDOL 2019 - 2020
ADRODDIAD BLYNYDDOL 2019 - 2020
Cyflwynodd dymor Perfformiadau i’r Chwilfrydig, Hydref 2019, dros 30 sioe, a hwn oedd ein tymor fwyaf hygyrch hyd yn hyn. Teithiodd gynyrchiadau Cymraeg a Saesneg o Cer i Grafu… Sori…GARU! a Lovecraft (Not the Sex Shop in Cardiff), ein cyd-gynhyrchiad arobryn gyda Carys Eleri, ledled Cymru ac i ŵyl ymylol Caeredin, ac fe dderbyniodd adolygiadau gwych.
Cawsom ein perfformiad cyntaf un yn Asia ym mis Chwefror 2020 gyda chyd-gynhyrchiad newydd sbon o The Mirror Crack’d, wedi’i berfformio ym Mumbai. Roedd ein cyd-gynhyrchiad The Beauty Parade – drama newydd sbon dan arweiniad menywod, a grëwyd gan artistiaid Byddar ac artistiaid sy’n clywed – yn boblogaidd tu hwnt yn ystod mis Mawrth 2020. Tu hwnt i’r llwyfan, lansiodd Radio Platfform ei ail stiwdio – yn Y Porth, Rhondda Cynon Taf, ym mis Gorffennaf 2019.
Fe gynhalion ni hefyd gyfres o wleddoedd cymunedol yn ein Glanfa. Roedd y rhain yn llwyddiant ysgubol, ac rydyn ni’n mawr obeithio ail-gydio yn y gwleddoedd unwaith y byddwn yn ailagor ein hadeilad.
Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol 2018 - 2019
Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol 2018 - 2019
Ym mis Tachwedd 2019, fe ddathlon ein pen-blwydd yn 15 a buon yn myfyrio ar y fraint sydd gennym ni o ran cael meithrin calonnau, meddyliau a llesiant y genedl. O groesawu 26,000 o bobl drwy ein drysau ar gyfer ein Gŵyl y Llais a 300,000 o ymwelwyr ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol, a dod â sioeau rhyngwladol byd-enwog megis War Horse a Wicked i’n llwyfan.
Rydyn ni’n ymfalchïo nid yn unig mewn dod â chynyrchiadau a gwyliau o safon fyd-eang i brif ddinas ein gwlad, ond hefyd yn ein gwaith o ddatblygu a chefnogi artistiaid lleol a lledu gorwelion ein pobl ifanc. Darganfyddwch sut mae pob ceiniog sy’n cael ei wario yn y Ganolfan yn tanio dychymyg y genedl.