Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Autumn leaves by Peter Crosby

TU ÔL I DDRYSAU CAEEDIG - HYDREF

Wrth i fis arall ddirwyn i ben, rydyn yn dathlu newyddion gwych am gyllid brys - rhyddhad enfawr i ni a’n ffrindiau ar draws y celfyddydau yng Nghymru.

Roedd mis Hydref yn Fis Hanes Pobl Dduon, ac fe wnaethom addo o’r cychwyn cyntaf bod hwn yn llawer fwy na mis i ni. Rydyn ni yma i ddathlu ac adlewyrchu diwylliant Du ac amrywiaeth 365 diwrnod y flwyddyn, a byddwn yn parhau i wneud hynny.

Mae Gemma Hicks, ein Cynhyrchydd Ymgysylltu Cymunedol yn parhau i gydweithio â phartneriaid cymunedol ysbrydoledig, gan gynnwys Cyngor Ieuenctid Caerdydd. Gweler weithiau celf gan aelodau’r Cyngor o amgylch ein hadeilad.

Mae eu neges 'Welcome To Tiger Bay' a welir ar flaen yr adeilad yn neges syml ond pwerus sy’n cofio ac yn dathlu amrywiaeth a diwylliant Tiger Bay.

Artworks in a pop art style showing iconic black people from both past and present
Dyluniwyd y gwaith celf gan Gyngor Ieuenctid Caerdydd

Mae llawer mwy o waith celf i ddod, gan gynnwys arddangosfa ffotograffiaeth #BLM gan y ffotograffydd lleol Zaid Djerdi a murlun prydferth gan Kyle Legall (i ddod yn fuan). Darllenwch yr hanes yn ein blog.

Yn ôl ym mis Gorffennaf fe addawon y byddem yn cyhoeddi ein Cynllun Gweithredu Amrywiaeth, ac fe wnaethom ni hynny’r mis yma. Siaradom gydag ystod eang o unigolion a sefydliadau gan wrando’n ofalus arnynt er mwyn canfod y ffyrdd gorau o wneud ein gweithgareddau a’n staff yn fwy cynhwysol. Rydyn ni’n ymrwymo’n llawn i weithredu’r cynllun.

Yn ddiweddar fe dderbyniodd ein tîm Radio Platfform grant oddi wrth Sefydliad John Thaw. Bydd y grant yn fuddiol iawn ac yn ein caniatáu ni i barhau i adeiladu ein cyrsiau hyfforddi radio achrededig i bobl ifanc.

Mae Radio Platfform wedi bod yn chwa o awyr iach yn ystod pandemig y Coronafeirws, ac maent wedi creu sioeau anhygoel. Gallwch ail-wrando ar y sioeau yma.  Rydyn hefyd wedi derbyn offer newydd gan gwmni Sony yr ydym am eu defnyddio cyn bo hir. Diolch o galon am y rhain.

three women dressed as waitresses
Waitress

Aeth docynnau Waitress, y sioe hynod boblogaidd o’r West End a Broadway ar werth ar 5 Hydref, ac roedd hi’n hyfryd gweld cynifer ohonoch yn prynu tocynnau ar gyfer y sioe arbennig yma. Fe roddodd hwb hollbwysig i dîm ein swyddfa docynnau, ac mae’n hyfryd gwybod bod gymaint o bobl yn edrych ymlaen at fwynhau theatr fyw unwaith eto pan fyddwn yn gallu ailagor.

Roedd hi’n ddiwrnod Shwmae Su’mae ar 15 Hydref – diwrnod i ddathlu, defnyddio a hyrwyddo’r Gymraeg. Cymerwyd y cyfle i atgoffa pawb i ddilyn ein cyfrif Twitter Cymraeg - @yGanolfan. Cofiwch hefyd wylio ein fideo a grëwyd i gyd-fynd â’n Hadroddiad Blynyddol Cymraeg ar gyfer 2019/2020.

Roedden ni'n drist iawn clywed y mis yma bod David Goldstone CBE, aelod o’r bwrdd a sefydlodd CMC, wedi marw. Byddwn yn colli ei gyngor doeth a’i gymeriad digyffelyb. Mae ei gyfraniad i ddiwylliant Cymru yn rhodd anhygoel.

Roeddem hefyd yn drist clywed y newyddion y bu farw Dilys Price OBE, sylfaenydd Touch Trust, y mis yma. Roedd hi’n ddynes ysbrydoledig ac fe fydd colled mawr ar ei hôl.

Gorffennodd ein cyrsiau peilot Llais Creadigol yn ôl ym mis Medi, ond y mis yma rydyn ni wedi bod yn casglu gwybodaeth gan ein cyfranogwyr a’n hyfforddwyr. Rydyn ni hefyd wedi casglu cynnwys a grëwyd yn y gweithdai ar-lein, a fydd yn gymorth wrth i ni ddatblygu gweithdai pellach.

a pair of hands opens up a small zine made up of black and white prints on paper
Gwaith celf a grëwyd yn un o’n gweithdai creu zine

Ar 21 Hydref roedd yn bleser gennym rannu newyddion cyffrous ynglŷn â chyllid brys drwy blog gan ein Rheolwr Gyfarwyddwr, Mat Milson. Yn ei flog, diolchodd Gyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am eu cefnogaeth ariannol. Bydd yr arian yn ein helpu ni i gynnal swyddi a sgiliau, cefnogi’r sector gelfyddydau ehangach ledled Cymru a sicrhau bod ein hadeilad yn ddiogel pan fyddwn yn gallu ailagor.

Dyna’r cyfan am y tro, ond cofiwch y gallwch ganfod y wybodaeth ddiweddaraf am ein sioeau a’n digwyddiadau yma, felly cymerwch gipolwg. Cewch hefyd ddolenni defnyddiol i’n cwestiynau cyffredin ynglŷn â Choronafeirws.

Mae llawer o’r gweithgareddau yma rydyn yn parhau i allu eu cynnal, o ganlyniad uniongyrchol i’ch rhoddion hael, eich aelodaeth a chyllid grantiau. Fe hoffem ni ddiolch hefyd i Gyngor Celfyddydau CymruSefydliad Moondance a Garfield WestonPaul Hamlyn FoundationThe Clive and Sylvia Richards Charity a The Simon Gibson Charitable Trust  am ganiatáu i ni ddal ati yn cefnogi’r doniau creadigol, y bobl ifanc a’r cymunedau sy’n gweld yr angen am greadigrwydd nawr yn fwy nag erioed.

Dilynwch ni ar Twitter (@yganolfan), Facebook, ac Instagram ar gyfer y newyddion diweddaraf.