Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Bedknobs and Broomsticks

Theatr Donald Gordon

1 – 5 Chwefror 2022

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Bedknobs and Broomsticks {{::on_sale_date.label}} Theatr Donald Gordon MM/DD/YYYY 15 event-1074

Bedknobs and Broomsticks

1 – 5 Chwefror 2022

Theatr Donald Gordon

Camwch i fyd hudol a dychmygus gyda premiere byd y sioe gerdd newydd a chyffrous, Bedknobs and Broomsticks, sy’n seiliedig ar y ffilm Disney glasurol.

Gyda chaneuon gwreiddiol gan y brodyr Sherman (Mary Poppins, The Jungle Book, Chitty Chitty Bang Bang ), yn cynnwys Portobello Road, The Age of Not Believing, The Beautiful Briny, a cherddoriaeth a geiriau newydd gan Neil Bartram a llyfr gan Brian Hill. Daw’r gwneuthurwyr theatr arobryn Candice Edmunds a Jamie Harris â Bedknobs and Broomsticks yn fyw ar y llwyfan.

Pan fydd plant amddifad teulu Rawlins yn cael eu danfon o Lundain i fyw gyda’r Eglantine Price ddirgel yn ystod y rhyfel, heb yn wybod iddyn nhw mae anturiaethau mawr ar y gorwel. Ar ôl darganfod bod Eglantine yn hyfforddi fel gwrach, mae’r plant yn ymuno â hi i chwilio am hud i drechu’r gelyn unwaith ac am byth. Gyda ‘bedknob’, ‘broomstick’ a gwely hudol sy’n hedfan, maent yn teithio o’u cartref yn Portobello Road at y môr, gan gyfarfod sawl ffrind newydd ar eu siwrne.

Mae’r sioe gerdd hudol newydd yma’n hedfan i Gaerdydd am wythnos o berfformiadau yn unig, felly archebwch eich tocynnau heddiw. Mae’n amser i gredu.

Canllaw oed: 6+ (dim plant dan 2 oed)

Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.

Amser cychwyn:
Maw – Sad 7.30pm
Mer, Iau a Sad 2.30pm

CYNIGION AELODAU

Gostyngiad o £10 ar gyfer 1 Chwefror (ar y 2 bris drutaf). Aelodaeth.

CYNIGION I GRWPIAU

Grwpiau 10+ gostyngiad o £4, Maw – Iau (ar y 2 bris drutaf). 
Trefnu ymweliad grŵp.

DAN 16 OED

Gostyngiad o £4, Maw - Iau (ar y 2 bris drutaf).

Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.

Pwysig: Diogelwch a gofynion Covid

Yn unol â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, bydd rhaid i bawb sy’n mynychu’r perfformiad hwn ddangos Pàs Covid y GIG neu dystiolaeth canlyniad prawf Covid negyddol ynghŷd ag ID llunDarllenwch ein cwestiynau cyffredin i weld sut i gael eich un chi.

Rydyn ni wedi rhoi nifer o fesurau diogelwch ar waith er mwyn sicrhau bod ein lleoliad yn Covid-ddiogel ac yn unol â chanllawiau diweddaraf y llywodraeth.

Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a bydd yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon