Oherwydd bod mesurau Lefel Rhybudd 2 dal yn eu lle yng Nghymru, mae’n ddrwg gennym na fydd perfformiadau The Lion, The Witch and The Wardrobe a oedd fod cymryd lle rhwng 18 a 22 Ionawr yn digwydd yn ôl y cynllun.
Rydyn ni’n gweithio gyda’r cynhyrchwyr er mwyn ceisio aildrefnu i’r cynhyrchiad hwn ddychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru yn hwyrach eleni.
Byddwn yn cysylltu ag archebwyr tocynnau yn uniongyrchol.
Daw'r cynhyrchiad hynod boblogaidd o The Lion, the Witch and the Wardrobe, nofel glasurol C.S. Lewis, yn syth o Lundain i Gaerdydd. Camwch i mewn i’r cwpwrdd i deyrnas hudolus Narnia.
Ymunwch â Lucy, Edmund, Susan a Peter wrth iddynt ffarwelio â Phrydain yng nghyfnod rhyfel a mynd am antur gyfriniol mewn byd pell.
Yno maent yn cwrdd â Ffawn, Afancod siaradus, Aslan (brenin bonheddig Narnia), a’r Wrach Wen oeraidd, fwyaf creulon wedi’i chwarae gan Samatha Womack.
Dyma sioe arobryn, gwbl hudolus "theatrical magic" (The Time)







Mae’r cynhyrchiad gwych yma’n aduno’r cyfarwyddwr Sally Cookson gyda’r cynllunydd Rae Smith, yr awdur tŷ Adam Peck, y cyfarwyddwr symud Dan Canham, y cyfarwyddwr pypedwaith Craig Leo, y cynllunydd goleuo Bruno Poet, y cynllunydd sain Ian Dickinson a cherddoriaeth gan Benji Power. Dyma’r tîm a ddaeth â’r sioe yn fyw nôl yn 2017, gan guro recordiau swyddfa docynnau yn Leeds Playhouse.
Canllaw oed: 6+
Amser cychwyn:
Maw – Sad 7pm
Iau a Sad 2pm
CYNIGION AELODAU
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol. Aelodaeth.
CYNIGION DAN 16
Gostyngiad o £4, perfformiadau penedol.
CYNIGION I GRWPIAU
Grwpiau 10+ gostyngiad o £4, perfformiadau penodol. Trefnu ymweliad grŵp.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.
PWYSIG: DIOGELWCH A GOFYNION COVID
Yn unol â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, bydd rhaid i bawb sy’n mynychu’r perfformiad hwn ddangos Pàs Covid y GIG neu dystiolaeth canlyniad prawf Covid negyddol ynghŷd ag ID llun. Darllenwch ein cwestiynau cyffredin i weld sut i gael eich un chi.
Rydyn ni wedi rhoi nifer o fesurau diogelwch ar waith er mwyn sicrhau bod ein lleoliad yn Covid-ddiogel ac yn unol â chanllawiau diweddaraf y llywodraeth.
Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a bydd yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.