Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Ymyriadau Pwerus: ‘Pop-ups’ yn yr ŵyl

Ymyriadau Pwerus: ‘Pop-ups’ yn yr ŵyl

Bydd cyfres o ymyriadau creadigol sy'n archwilio'r cysyniad o 'bŵer' yn cymryd drosodd Canolfan Mileniwm Cymru drwy gydol penwythnos yr ŵyl.

Mae'r pop-ups hyn sy'n ysgogi'r meddwl yn cwmpasu cymysgwch cyfoethog o ymarfer artistig gan gynnwys perfformiad byw, gosodiadau, celf weledol, taflunio, ffilm, gair llafar, drama sain a rhyddiaith ysgrifenedig – i gyd wedi'u dyfeisio, eu creu a'u perfformio gan bobl ifanc a gweithwyr celfyddydau ieuenctid Sparc Valleys Kids, un o'n partneriaid yn y Cymoedd.

Perfformiadau am ddim

Roaring 20s

Dydd Gwner 5 Tachwedd, 2.15pm yn y Glanfa

Caiff y ddawns hon, sydd wedi'i hysbrydoli gan Peaky Blinders, gan Nikita Gill a Coralanne Evans, dwy ferch ifanc a thalentog sydd ar fin cyrraedd brig eu gyrfaoedd. Yn chwarae gyda'r disgwyliadau ar ymddygiadau menywod o'r Cymoedd, ceir tyndra 'kiss or kill' yn yr awyr wrth i'r ddawns pum munud gymysgu arddulliau stryd a chyfoes.

Disruption

Dydd Gwener 5 Tachwedd, drwy'r dydd yn ein gofod arddangos.

Mae Theatr Ieuenctid Rhydyfelin yn cyflwyno ffilm 360 ddigidol ymdrochol a fydd yn eich cymryd ar archwiliad o'r gwahanol deimladau mae pobl ifanc yn profi o ganlyniad i darfiadau. Y llonyddwch o fod yng nghanol natur, pryderon am ofnau, cyfryngau cymdeithasol a phwysau, a dideimladrwydd datgysylltiad a theimlo bod popeth allan o gyrhaeddiad.

The Storm

Dydd Sadwrn 6 Tachwedd, 3pm a 6pm yn y Glanfa (BSL gan Sami Dunn).

Mae Theatr Ieuenctid Penygraig yn cyflwyno perfformiad theatr 30 munud am gariad, ffyddlondeb a pherthyn.

Pan gaiff Davey Jones ei adael ar ôl fel plenty a'i ddarganfod gan fôr-ladron afreolus, maent bron yn taflu ef i'r môr - hynny yw cyn iddyn nhw ddysgu i garu ef a dod yn deulu iddo.

Gan nad yw'n adnabod ei rieni genedigol fe dyfodd i fyny'n credu taw môr-leidr ydyw e hefyd, ac mae'n drist tu hwnt i ddysgu'r gwir.

Yn grac ac yn teimlo iddo gael ei fradychu, mae'n rhedeg i ffwrdd ac yn ceisio ailadeiladu ei fywyd ar gwch arall. Un flwyddyn yn ddiweddarach ac yn barod am storom fawr, mae gorffenol Davey yn ei ddal unwaith eto.

Leanne

Dydd Sadwrn 6 Tachwedd, 5pm yn y Glanfa (BSL gan Sami Dunn).

Mae'r artist Hannah Lad yn perfformio ac un fenyw ddigrif dros ben fel ‘Leanne’- merch ifanc yn aros am gyfweliad swydd.

Gan gyfathrebu â'r gynulleidfa, ac weithiau'n gofyn am eu cymorth, mae'n rhannu ennydau o'i bywyd gyda ni ac yn cymryd y cyfle i ddangos yr hyn roedd hi eisiau dweud wrth ei chyn-reolwr, hen gariad a'i Mam ormesol.

Voices of the Rhondda

Dydd Sul 7 Tachwedd, 2 - 8pm yn y Stiwdio Weston (BSL gan Sami Dunn).

Mae'r gosodiad gelf ryngweithiol hwn, gydag elfennau o theatr a chwarae rôl, yn dangos pŵer anhygoel y gymuned yn y Rhondda dros y degawdau. O bartïon stryd i brotestiadau, o streic y glöwyr i deithiau i draethau Porthcawl, bydd cwmni o bobl ifanc o Benyrenglyn yn eich gwahodd i ymuno â nhw a dod i'w brofi eich hun.

Pencil Breakers

Cadwch olwg am y posteri wedi'u peintio â llaw yn y Glanfa.

Mae pob poster yn cynnwys cod QR a fydd yn eich cyfeirio at dudalen gwe lle gallwch chi ddarllen neu wrando ar fersiynau sain o bedwar darn gwreiddiol o ysgrifen gan leisiau cwiar, anabl ac actifydd. Darllen ein blog

Unlikely Heroes: The Curse of the Doughnut

Bob dydd yn ein gofod arddangos. Canllaw oedran: 14+

Mae Flight Wings yn cyflwyno gosodiad drama sain 30 munud sy'n archwilio hunaniaeth, cenedl a rhywioldeb mewn modd chwareus. Bydd gwisgoedd ein cymeriadau digywilydd yn adrodd stori penblwydd Narky lle aeth popeth ychydig yn rhyfedd a goruwchnaturiol, gan orfodi i'n harwyr annisgwyl estyn am eu drilliau a'u toesenni er mwyn brwydro yn erbyn drwg yn y byd.

No More

Ymateb cerddorol / gair llafar i bŵer a'r angen am newid. Gwyliwch flas fideo o'r gân a ysgrifennwyd gan ddefnyddio geiriau pwerus pobl ifanc y Cymoedd a'r Bae. Bydd y gân gyfan yn cael ei pherfformio'n fyw yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn 2022.

Yr artist Bethan Marlow sy'n arwain y prosiect. Yn wreiddiol o Ogledd Cymru, mae Bethan wedi bod yn ymuno â sesiynau wythnosol drwy gydol y flwyddyn gyda grwpiau ieuenctid lleol, ac yn cydweithio â gweithwyr celfyddydau ieuenctid a phobl ifanc i ddatblygu darnau proffesiynol ar gyfer yr ŵyl.

Yn allweddol i lwyddiant y cydweithio fu parch mawr Bethan at y ffordd y mae Sparc a Valleys Kids yn gweithio a'i hawydd i roi'r gwaith hwn ar ganol llwyfan.

Darllenwch ragor am adlewyrchiadau Bethan am y daith dwy flynedd.

"Bydd egni amrwd, dewr a gonest yr ymyriadau hyn yn bachu sylw'r gynulleidfa, bydd eu perfformiadau gwreiddiol, diddorol a'u perfformiadau sy'n ysgogi'r meddwl yn eu diddanu. Bydd eu lleisiau pwysig, brys a dilys yn aros yn y cof ymhell ar ôl i'r Ŵyl ddod i ben." 

Artist Arweiniol, Bethan Marlow

Mae’r Ymyriadau Pwerus am ddim dros benwythnos Gŵyl y Llais, felly gwnewch amser i brofi'r gyfres wefreiddiol hon o waith newydd a chefnogi'r genhedlaeth nesaf.

Mae nifer uchel o'r bobl ifanc sy'n cymryd rhan yn anabl, wedi profi gofal ac o'r gymuned LHDTC+; mae prosiectau fel hyn yn galluogi pob math o bobl i fod yn greadigol a dod o hyd i'w llais.

Comisiynwyd y prosiect gan Yn Gryfach Ynghyd ar gyfer Gŵyl y Llais. Yn Gryfach Ynghyd yw partneriaeth Canolfan Mileniwm Cymru gyda Valleys Kids i adeiladu dyfodol creadigol i bobl ifanc yn y Cymoedd.