Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Dewisiadau Rahim o Sioeau yn Cabaret

Dwi ar bigau’r drain yn aros am yr amrywiaeth ddisglair o actau a pherfformiadau sydd ar y gweill yn Cabaret yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Ac mae’r tymor yma, sy’n dechrau ym mis Ebrill 2024, yn addo bod yn brofiad gwych gyda rhai o fy hoff actau ac artistiaid erioed a rhai newydd dwi’n edrych ymlaen at eu darganfod. O lein-yp anhygoel, dwi wedi dewis chwe sioe sy’n rhy dda i’w colli yn fy marn i.

Altered States

Wna i ddechrau gydag ALTERED STATES, sy’n cynnwys doniau anhygoel Anniben, Justin Drag, Serenity, a Jordropper. Des i’n ymwybodol o Anniben yn gyntaf wrth gyflwyno Draglings yn The Queer Emporium. O’u perfformiad cyntaf, roedd hi’n amlwg eu bod nhw’n rhywbeth arbennig. Gyda chyfuniad unigryw o berfformiad geiriol a dawns, mae pob perfformiad maen nhw’n ei roi yn brofiad bythgofiadwy.

Roedd cael y fraint o rannu llwyfan â Justin Drag a Jordropper yn uchafbwynt bydda i bob amser yn ei drysori. Mae Cymru yn hynod ffodus i gael perfformwyr mor ddynamig a phwerus ar ei llwyfannau. Dyma’ch atgoffa hefyd fod angen darparu mwy o lwyfannau i Frenhinoedd Drag, sy’n dod â bywiogrwydd heb ei debyg i’r byd perfformio. Mae perfformiad Justin yn Queerway yn aros yn fy nghof fel un o actau mwyaf cyfareddol a chofiadwy y llynedd.

Altered States: 5 Ebrill 2024

Gallifrey Cabaret 

Yr ail sioe ar fy rhestr rhaid eu gweld yw GALLIFREY CABARET. Rhaid i mi gyfaddef, dwi ddim yn Whovian – bydden i ddim yn adnabod TARDIS tase fe’n glanio yn fy ngardd gefn. Ond, ar ôl gweld sioe y llynedd yn Cabaret, dwi wedi cael fy nhrosi, o leiaf i’r pwynt lle bydda i’n dweud wrth fy mhlant mai Gallifrey Cabaret yw Y Doctor Who. Roedd fy ffrind Craig gyda fi i esbonio rhai o’r cyfeiriadau, ond doedd peidio deall pob jôc ddim wedi effeithio ar fy mwynhad o gwbl. A dweud y gwir, dwi o’r farn bod jôcs rhywsut yn fwy doniol pan fyddan nhw allan o gyd-destun.

Gallifrey Cabaret: 12 + 13 Ebrill 2024

WHO KNOWS?! The Big Queer Whoniverse Quiz14 Ebrill 2024

Death Becomes Us

Fel person hoyw, HIV positif a cheisiwr lloches – nawr yn ffoadur, diolch byth, doeddwn i byth yn meddwl y bydden i’n byw heibio i fy 30au. Ond eto, dyma fi, yn syrthio mewn cariad â bywyd yn fwy nag erioed o’r blaen. Y brwdfrydedd newydd yma dros fywyd yw beth sy’n tynnu fy sylw at DEATH BECOMES US gan Hannah Whittingham. Mae’r sioe yn ein herio ni gyda syniad pryfoclyd: ‘Gallai ein bywydau fod yn fwy cyfoethog drwy siarad am farwolaeth.’ A chi’n gwbod beth? Dwi’n cytuno’n llwyr. Rhaid cyfaddef, doeddwn i ddim yn gyfarwydd â Hannah Whittingham, felly gwnaeth Google cyflym fy arwain at ddarganfod ei llais, sydd yn rheswm da i ddod ar ei ben ei hun.

Death Becomes Us: 25 Ebrill 2024

Aisha Kigs

Yn siarad am leisiau, gadewch i ni sôn am AISHA KIGS – mae hi’n gallu CANU! Cefais fy nghyflwyno i Aisha drwy fy ffrindiau, ymhell cyn i mi gael y pleser o glywed ei llais a chwrdd â hi wyneb yn wyneb. Fy mhrofiad cyntaf o’i pherfformiadau byw oedd yn Dathliad Cymru-Affrica, a phob tro roedd hi ar y llwyfan, gwnaeth pŵer ei llais fy syfrdanu. Dychmygwch lais addfwyn Alicia Keys wedi’i uno â chryfder Jennifer Hudson – dyna’r ffordd orau galla i ddisgrifio talent leisiol anhygoel Aisha.

In Bed with Esther Parade

Mae IN BED WITH ESTHER PARADE yn datgelu bod gan Esther Parade mwy o ddoniau na fyddech chi’n ei ddisgwyl. Mae wastad syrpreis sy’n troi noson reolaidd yn barti arbennig pan fydd hi’n camu ar y llwyfan. Dwi’n gwneud yn siŵr bod fy Shazam ar agor achos mae Esther bob amser yn ailgyflwyno hen glasuron rydych chi’n siŵr o’u hychwanegu at eich rhestr chwarae.

In Bed with Esther Parade: 6 Mehefin 2024

Come As You Are! - Cardiff Cabaret Club

Cyn gweithio gyda FOOFOO Labelle, roeddwn i’n meddwl mai’r cyfan oedd bwrlésg oedd ‘tynnu dy ddillad i ffwrdd, plygu a gwenu.’ Pwy oedd yn gwybod bod mwy? Mae byd cyfan i’w ddarganfod. Mae Clwb Cabaret Caerdydd wedi dod yn un o’r sioeau dwi’n gorfod eu gweld, ac maen nhw wedi ychwanegu Cadbury Parfait, brenhines lingerie at y lein-yp – waw! Dwi wedi bod yn dilyn hi ar Instagram ers oesoedd, felly pan soniodd FOOFOO y byddai hi’n rhan o’r sioe, prynais i docyn ar unwaith.

 

Os ydych chi wedi prynu eich tocyn i weld un o’r sioeau yma, fe wela i chi yno, dywedwch helo.

Rahim EL Habachi

 

Mae prisiau digwyddiadau yn amrywio o £7 i £20, ac mae tocynnau gostyngedig ar gael i bobl sy’n byw gydag anabledd, myfyrwyr, pobl o dan 30 oed a phobl ddigyflog. Darganfyddwch yr holl ddanteithion sydd gennym ar y gweill y tymor hwn.