Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Haf yng Nghanolfan Mileniwm Cymru

Llwybr rhywogaethau mewn perygl, dwy arddangosfa gelf, sioeau cerdd anhygoel a diodydd blasus – mae gennym rywbeth i ddiddanu pawb yr haf yma.

Un Blaned, Un Cyfle

Eleni rydyn ni’n dathlu rhyfeddod ein planed ac yn tynnu sylw at yr angen brys i amddiffyn rhywogaethau anifeiliaid, fflora a ffawna sydd bellach dan fygythiad.

Yn Glanfa byddwch chi’n dod o hyd i’n orangutans Otsi a Bubbles, sydd wedi cael eu dylunio a’u creu gan Wild Creation. Galwch heibio a thynnwch ffotograffau gyda nhw – os byddwch chi’n eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol cofiwch ein tagio ni!

O 31 Gorffennaf bydd hefyd gennym ddwy arddangosfa yn Ffwrnais. Mae Ellie Foster yn tynnu sylw at sut y gallwn ni deimlo’n fwy pwerus drwy gymryd camau personol bach i fynd i’r afael â’r argyfwng amgylcheddol, gyda ffocws ar dyfu ein bwyd ein hunain. Mae arddangosfa Breathe Creative yn dogfennu’r gwaith maen nhw wedi bod yn ei ddatblygu yn ei gweithdai creadigol drwy gysylltu â natur. Byddwch chi hefyd yn gallu casglu taflen llwybr yn Siop i ddod o hyd i rywogaethau mewn perygl o gwmpas ein hadeilad. Allwch chi ddod o hyd i bob un?

Wyddoch chi ein bod ni wedi gosod 720 o baneli solar yn ddiweddar a fydd yn pweru ein Theatr Donald Gordon am y 25 mlynedd nesaf? Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol yn ystod mis Awst lle byddwn ni’n rhannu mwy o ffeithiau am ein hymdrechion i fod yn fwy cynaliadwy.

*Mae Otsi a Bubbles wedi cael eu paentio a’u creu gan gymunedau a theuluoedd o’r rhaglen Ymgysylltu â Theuluoedd gan dîm Teuluoedd yn Dysgu Gyda'i Gilydd, Ehangu Cyfranogiad Mewn Addysg Coleg Caerdydd a’r Fro, ac Explore Collective, cydweithrediad rhwng Plant y Cymoedd ac ACE Action yng Nghaerau a Threlái. Mae’r dail a’r blodau prydferth wedi cael eu dylunio gan Niki ac Alice Fogaty a’u creu gan gyfranogwyr mewn lleoliadau ymgysylltu â theuluoedd ac ysgolion ledled Caerdydd.

ANTURIAETHAU YMDROCHOL

Dewch i Arcêd yn Bocs yr haf yma ac archwiliwch fyd o brofiadau ymdrochol gan ddefnyddio’r technolegau datblygol diweddaraf.

Mae gennym dri byd unigryw i chi eu harchwilio – amgueddfa VR LHDTC+, profiad VR sy’n eich telegludo i gefnforoedd, coedwigoedd a dinasoedd y dyfodol, a darn sain ymdrochol sy’n holi beth yw’r pris fyddech chi’n fodlon ei dalu am fywyd tragwyddol. Rhowch gynnig ar un, dau neu bob un. Mae’n rhad ac am ddim! Oed 13+

Yn newydd i brofiadau ymdrochol? Peidiwch â phoeni, bydd tîm Bocs yno i’ch helpu.

SIOEAU RHYFEDDOL A FFEFRYNNAU TEULUOL

Beth am greu atgofion arbennig yr haf hwn gyda'r sioeau poblogaidd yma.

Gallwch chi fentro i mewn i’r Hundred Acre Wood ac ymuno â Disney’s Winnie the Pooh (3–5 Awst) a ffrindiau mewn sioe lwyfan newydd sbon, gyda cherddoriaeth ffantastig a phypedwaith syfrdanol. Cofiwch ddod â mêl!

Yn syth o West End Llundain, mae’r sioe gerdd am sioeau cerdd 42nd Street (14–19 Awst) yn goleuo’r llwyfan, gyda chast arbennig sy’n cynnwys Samantha Womack, Faye Tozer o Steps a seren y teledu Les Dennis.

Ar 21 Awst ymunwch â Brogs y Bogs, archarwyr y llyffantod, a helpwch nhw i ffrwydro drwy'r ffosydd a difetha'r Cwac Tŷ Bach yn y sioe newydd hon gan Familia del Noche. Dewch i neidio, dawnsio a chwerthin llond eich bol gyda'r amffibiaid anhygoel, fydd yn siwr o ddiddanu'r teulu cyfan. Bydd perfformiad Cymraeg am 2.30pm a pherfformiad dwyieithog am 4.30pm; maen nhw'n rhad ac am ddim a does dim angen archebu! 

Efallai bod y gwyliau haf yma, ond mae’n amser ysgol yn y sioe gerdd dywyll a doniol Heathers The Musical (22–26 Awst). Byddwch chi ddim eisiau colli un o’r sioeau newydd mwyaf poblogaidd ers blynyddoedd, sy’n seiliedig ar y ffilm ac a enillodd Sioe Gerdd Newydd Orau yng ngwobrau WhatsOnStage 2019.

DEWCH I YMLACIO

P’un a ydych chi’n chwilio am prosecco cyn sioe neu rywle i fwynhau’r haul pan fyddwch chi ym Mae Caerdydd, ein caffi a’n bariau yw’r lleoedd perffaith i ymlacio yr haf yma.

Mae Teras, ein bar awyr agored nesaf at Cabaret wrth ochr y Senedd, yn gweini cymysgedd o ddiodydd meddal ac alcoholig, gan gynnwys coctels moethus. Tu mewn, mae gan ein bar-caffi a lolfa newydd Ffwrnais wal gwydr i adael golau’r haul i mewn wrth i chi ymlacio yn ein soffas a chadeiriau breichiau. Gyda bwydlen helaeth o ddiodydd poeth ac oer, a detholiad blasus o fyrbrydau i’w blasu, mae digonedd o ddewis.