Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Sunflower field in the sunshine

Tu ôl i ddrysau caeedig – Gorffennaf

Zhang Kaiyv

Mae’r haf yn hedfan heibio ond rydyn ni’n dal i gadw’n brysur, y tu ôl i ddrysau caeedig. Dyma beth rydyn ni wedi bod yn ei wneud ym mis Gorffennaf 2020...

Fe ddechreuon ni’r mis drwy oleuo’r adeilad yn goch ar 6 Gorffennaf fel rhan o ymgyrch #LIGHTITINRED i ddangos ein cefnogaeth ac i helpu i dynnu sylw at yr heriau sy’n wynebu canolfannau adloniant a pherfformio byw ledled gwledydd Prydain.

Canolfan Mileniwm Cymru wedi’i goleuo’n goch gyda’r nos

Fe wnaethon ni hefyd groesawu addewid Llywodraeth y Deyrnas Unedig y bydden nhw’n rhoi pecyn cymorth gwerth ar gyfer y celfyddydau gyda £59m yn cael ei fuddsoddi yng Nghymru. Rhannodd Mat Milsom ei farn yn ein blog.

Fel rhan o’n hymrwymiad i greu rhaglen a gweithlu mwy amrywiol ar gyfer y dyfodol, fe wnaethon ni hefyd gyhoeddi ein Datganiad Amrywiaeth, gan gydnabod ein methiannau sefydliadol ein hunain a gosod y sylfeini ar gyfer sector celfyddydol newydd radical a mwy cynhwysol.

Bu ein Cynhyrchydd Dysgu Creadigol, Jason Camilleri, yn myfyrio ar ei yrfa yn y celfyddydau fel Cymro du, gan ofyn y cwestiwn: A yw’r celfyddydau yng Nghymru yn hiliol yn eu hanfod?

Merch ifanc ddu mewn theatr gyda ffôn symudol yn ei llaw)

Ar 9 Gorffennaf fe ddaeth Gwobrau Cardiff Life yn ôl, ond ar ffurf ddigidol wrth gwrs, ac roedd hi’n anrhydedd cyrraedd y rownd derfynol yng nghategorïau’r Gymraeg a’r Celfyddydau. Wnaethon ni ddim ennill, ond llongyfarchiadau i bawb gymerodd ran a’i wneud yn ddigwyddiad ar-lein mor llwyddiannus!

Ar gyfer Diwrnod Ieuenctid y Byd eleni, fe fuodd rhai o gyflwynwyr Radio Platfform yn cynhyrchu cyfres o ffilmiau fideo byrion yn tynnu sylw at y sgiliau maen nhw wedi’u dysgu ers gwneud ein cyrsiau hyfforddiant radio – o wybodaeth dechnegol i sgiliau bywyd pwysig.

Mae ganddon ni ragor o gyrsiau cynhyrchu radio ar-lein ar y gweill ym mis Awst, gan gynnwys sut i recordio rhaglenni radio o’ch cartref, felly dilynwch Radio Platfform ar Twitter i gael diweddariadau.

Mae llwyth o sioeau gwych a chyfweliadau i wrando eto arnyn nhw ar sianel Mixcloud Radio Platfform gan gynnwys cyfweliadau gyda’r canwr, y cyfansoddwr a’r crëwr sioeau cerdd o fri, Mal Pope, a’r cyflwynydd Radio a Theledu gyda BBC Cymru, Bethan Rhys Roberts.

Mae tîm y swyddfa docynnau wedi bod yn gweithio’n galed o gartre ac rydyn ni wedi diweddaru ein holl wybodaeth am sioeau fel y gallwch chi weld yr holl wybodaeth am sioeau sydd wedi’u canslo a’u haildrefnu yma.

Caeodd ein swyddfa docynnau ar 1 Awst 2020, felly dydyn ni ddim yn gallu ymateb i e-byst nawr tan i ni ailagor yn 2021. Mae llawer o wybodaeth newydd yn yr adran Cwestiynau Cyffredin hefyd.

Rydyn ni’n gofyn i artistiaid a grwpiau cymunedol, gyda ysbrydoliaeth mudiad Mae Bywydau Pobl Dduon o Bwys, i greu darn o waith celf ysbrydoledig o gelf gyhoeddus i’w harddangos ar ein ffens allanol.

Mae ffi o £500, a’r ymgeiswyr eu hunain fydd yn gwneud y penderfyniadau terfynol ynghylch pa weithiau sy'n cael eu harddangos. Gwnewch gais nawr trwy ein blog.

A dyna ni ar gyfer mis Gorffennaf. Cofiwch ein dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Fe hoffen ni ddiolch hefyd i Gyngor Celfyddydau CymruSefydliad Moondance a Garfield Weston am ganiatáu i ni ddal ati yn cefnogi’r doniau creadigol, y bobl ifanc a’r cymunedau sy’n gweld yr angen am greadigrwydd nawr yn fwy nag erioed.

Helpwch ni i barhau â'n gwaith cymunedol a chreadigol

Mae sawl ffordd i chi ein cefnogi