Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

TU ÔL I DDRYSAU CAEEDIG – MIS MEHEFIN

Mae’r adeilad wedi cau, ond dyw hynny ddim yn golygu ein bod ni wedi stopio bod yn greadigol na chynllunio ar gyfer y dyfodol. Dyma beth rydyn ni wedi bod yn ei wneud ym mis Mehefin 2020.

Ysgrifennodd ein Cadeirydd Peter Swinburn flog craff o’r enw Cadw'r Goleuadau Ymlaen am yr argyfwng presennol a’r gwaith creadigol rydyn ni’n dal i’w wneud yn ystod y cyfnod clo – ac mae peth o’r gwaith hwnnw wedi’i adlewyrchu yma...

Cadeirydd, Peter Swinburn
Cadeirydd, Peter Swinburn

Mae ein prosiect celf gymunedol Lleisiau dros Newid yn dal i fod yn llawn egni. Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda Charnifal Butetown a bydd ganddon ni ambell fideo cyffrous i’w dangos i chi ym mis Awst. Yn y cyfamser, fe fydden ni wrth eich bodd petaech chi’n ymuno yn Lleisiau dros Newid. Anfonwch eich gwaith aton ni drwy e-bost at community@wmc.org.uk

Mae ymgyrch #BlackLivesMatter wedi bod ar feddyliau pawb, ac fe wnaethon ni gyd-sefyll yn gadarn yn y frwydr yn erbyn anghyfiawnder, anghydraddoldeb a hiliaeth. Bydd rhagor am hyn yn fuan.

Fe gawson ni gipolwg ar y gwaith gwych mae Uwch Swyddog Ymgysylltu Cymunedol y Ganolfan, Gemma Hicks, wedi bod yn ei wneud gyda grwpiau cymunedol lleol a’r digwyddiadau cymunedol ardderchog sydd wedi eu cynnal yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae rhagor o wleddoedd cymunedol i ddod hefyd! Darllenwch flog Gemma.

Gemma Hicks
Gemma Hicks

Ar gyfer Diwrnod Amgylchedd y Byd, ysgrifennodd Dave Bonney o’n Tîm Gweithrediadau flog am gynaliadwyedd – o osod goleuadau LED i ddefnyddio ynni o wastraff. Darllenwch ragor yma.

Penderfynodd ein gorsaf dan arweiniad pobl ifanc, Radio Platfform, chwarae eu rhan hefyd – gan rannu negeseuon amgylcheddol gan rai o’r prif bleidiau gwleidyddol, gan gynnwys hon gan Blaid Werdd Cymru.

Mae tîm Radio Platfform yn dal i fynd o nerth i nerth yn darlledu o’u cartrefi. Ac fe fuodd Molly, Cydlynydd y Stiwdio, yn helpu i drefnu protest #BLM lwyddiannus a heddychlon ym Merthyr Tudful.

Ymunodd y tîm hefyd yn #DyddCrysauTBandsCymru cyntaf erioed cyflwynydd BBC Radio 1 a Radio Cymru Huw Stephens, ac maen nhw wedi bod yn brysur yn gweithio ar eu sioeau eu hunain.

Roedd sioe Luke Davis 'Youth Talk' yn cynnwys cyfweliadau gydag Aelod Senedd Plaid Cymru Siân Gwenllian, yr Aelod Seneddol Ceidwadol Fay Jones a’r Athro Gwleidyddiaeth Roger Awan-Scully i drafod materion yng Nghymru.

Radio Platfform
Radio Platfform

Fe fuodd yr elusen o Gaerdydd Grassroots yn dathlu #WythnosGwaithIeuenctid drwy dynnu sylw at beth o’r gwaith gwych mae tîm Radio Platfform wedi bod yn ei wneud gyda nhw.

Cafodd The Boy With Two Hearts sylw mewn blog wedi’i ysgrifennu gan yr awdur Hamed Amiri ac Emma Evans, Uwch Gynhyrchydd o’n tîm Celfyddydol a Chreadigol. Rydyn ni’n llawn cyffro wrth feddwl am ddod â’r llyfr i’r llwyfan rywbryd yn 2021, a gallwch chi glywed cyfweliad wnaeth Hamed gydag Ed o Radio Platfform yma.

The Boy With Two Hearts
The Boy With Two Hearts

Gwrandewch yn fyw ar sioeau Radio Platfform o ddydd Llun i ddydd Gwener, 10am - 4pm neu gwrandewch eto ar Mixcloud.

Ar 12 Mehefin, fe gyhoeddon ni’r newyddion trist y byddwn ni’n aros ar gau tan o leia fis Ionawr 2021, oherwydd pandemig y Coronafeirws. Manylion llawn yma.

Ac ar 17 Mehefin, fe gyhoeddon ni’n cefnogaeth ar gyfer y Tasglu Llawrydd a’r ffaith bod yr amryddawn Gavin Porter yn dod aton ni er mwyn helpu i gefnogi hynny.

Ar gyfer Diwrnod Windrush ar 22 Mehefin, fe dynnon ni sylw at waith anhygoel un o’n Llysgenhadon Cymunedol, sef y fenyw chwedlonol Roma Taylor. Mae'r blog yn fan hyn ac mae'n werth ei ddarllen.

Llun o Roma drwy garedigrwydd Cyngor Hil Cymru
Llun o Roma drwy garedigrwydd Cyngor Hil Cymru

Ymddangosodd ein Cyfarwyddwr Artistig, Graeme Farrow, ar Sioe Gelfyddydau BBC Radio Wales gyda Nicola Heywood-Thomas i drafod sefyllfa cau canolfannau, ariannu’r celfyddydau a dyfodol creadigrwydd yng Nghymru. Gallwch wrando eto ar BBC Sounds.

Mae llawer o’r gweithgareddau rydyn ni’n dal i allu eu cynnal yn digwydd o ganlyniad uniongyrchol i’ch haelioni chi yn gwneud rhoddion, yn adnewyddu aelodaeth ac yn rhoi cyllid grant.

Fe hoffen ni ddiolch hefyd i Gyngor Celfyddydau CymruSefydliad Moondance a Garfield Weston am ganiatáu i ni ddal ati yn cefnogi’r doniau creadigol, y bobl ifanc a’r cymunedau sy’n gweld yr angen am greadigrwydd nawr yn fwy nag erioed.

Roedden ni hefyd eisiau dweud 'Diolch' enfawr wrth bawb sydd wedi canmol ein staff anhygoel, wedi rhannu eu hatgofion o’r adeilad ac wedi’n cefnogi ni. Mae’n fendith gwybod eich bod chi i gyd yn gefn i ni.

Helpwch ni i barhau â'n gwaith cymunedol a chreadigol

Mae sawl ffordd i chi ein cefnogi