Angen esgus am drip teuluol i’r theatr? O blant bach i bobl ifanc, rydyn ni wedi rhestru 6 sioe deuluol y gallwch chi eu mwynhau gyda’ch gilydd.
Annie
Mae'r cynhyrchiad llwyddiannus o Annie yn dod i Gaerdydd, yn uniongyrchol o West End Llundain. Mae'r adfywiad hwn yn cynnwys y beirniad o Strictly Come Dancing Craig Revel Horwood fel Miss Hannigan! Yn Efrog Newydd yn y 1930au yn ystod y Dirwasgiad Mawr, mae Annie’n byw bywyd anodd yng nghartref plant amddifaid Miss Hannigan. Wrth ryw lwc, mae hi’n cael ei dewis i dreulio’r Nadolig yng nghartref y biliwnêr enwog, Oliver Warbucks. Ond mae syniadau sbeitlyd eraill gan Miss Hannigan ac mae hi’n cynllwynio i ddifetha ymdrechion Annie i chwilio am ei rhieni go iawn.
Canllaw oed: 5+ (ddim plant dan 2 oed)
Cynigion i bobl dan 16: gostyngiad o £4 (ar y 2 bris uchaf, Maw – Iau, pan brynir gyda thocyn oedolyn am bris llawn)
Winnie The Pooh
Mae cymeriad eiconig Disney Winnie the Pooh, Christopher Robin a’u ffrindiau gorau Piglet, Eeyore, Kanga, Roo, Rabbit ac Owl (o... a pheidiwch ag anghofio Tigger hefyd!) wedi dod yn fyw mewn addasiad llwyfan cerddorol hyfryd. Gyda cherddoriaeth boblogaidd y brodyr Sherman a enillodd wobr Grammy a chaneuon pellach gan A.A. Milne, mae stori’r addasiad llwyfan newydd a phrydferth hwn yn cael ei hadrodd gyda phypedwaith syfrdanol maint go iawn drwy lygaid y cymeriadau rydyn ni i gyd yn eu hadnabod ac yn dwli arnynt, mewn stori newydd o’r Hundred Acre Wood.
Canllaw oed: Croeso i bawb
Cynigion i bobl dan 16: gostyngiad o £6 ar seddi penodol (uchafswm o 3 fesul archeb)
Chwarae Opera YN FYW: Gorymdaith i'r Gofod
Teithiwch drwy ddyfnderoedd y gofod ar daith gerddorol arallfydol. Profwch weithgarwch estron, dysgwch ffeithiau difyr, a chwyrlïwch o gwmpas fyd anhygoel opera a cherddoriaeth glasurol gyda sioe ryngweithiol ac addysgiadol Opera Cenedlaethol Cymru ar thema’r gofod sy’n addas i bob oed. Ni fyddai profiad teuluol WNO yn gyflawn heb weithgareddau cyntedd am ddim. Gallwch weddnewid i gymeriad estron yn ein gorsaf baentio wyneb, mwynhau helfa drysor ryngalaethol, a mwy o 1pm.
Canllaw oed: Croeso i bawb
Cynnig tocyn teulu: teulu o 4 £30 (uchafswm o ddau oedolyn) teulu o bump £35 (uchafswm o ddau oedolyn)
Cynigion i bobl dan 16: gostyngiad o £7.50 (wrth archebu gydag oedolyn sy'n talu am docyn pris llawn)
Tocyn babanod: tocynnau eistedd ar liniau i blant dan 2 oed, £2
Shrek the Musical
Yn seiliedig ar y ffilm DreamWorks a enillodd Oscar, mae’r sioe Broadway lwyddiannus Shrek the Musical, yn gomedi cerddorol llawn hwyl gyda chast o gymeriadau bywiog a sgôr ‘shrek-taciwlar’. Noson allan berffaith i’r ifanc, a’r ifanc eu hysbryd, mae sioe arobryn Shrek the Musical yn sicr o blesio pawb o bob oed a bydd yn siŵr o’ch cael chi ar eich traed ac yn dawnsio ac yn chwerthin yr holl ffordd adref.
Canllaw oed: 5+ (ddim plant dan 2 oed)
Cynigion i bobl dan 16: gostyngiad o 25% (ar y 2 bris uchaf, Maw – Iau, uchafswm o 3 sedd am bris gostyngol fesul archeb
Disney's Aladdin
Gydag effeithiau arbennig rhyfeddol, dros 350 o wisgoedd prydferth a cherddorfa fyw a chast ardderchog, mae Aladdin yn cynnwys yr holl ganeuon o'r ffilm a enillodd wobrau Oscar, gan gynnwys Friend Like Me, Arabian Nights ac A Whole New World.
Canllaw oed: 6+ (dim plant dan 3 oed)
Perfformiad Ymlaciedig: Mercher 10 Ionawr, 6.30pm
BLUEY'S BIG PLAY
Pan mae Dad yn teimlo fel ymlacio ar bnawn dydd Sul, mae cynlluniau eraill gan Bluey a Bingo! Ymunwch â nhw wrth iddyn nhw ddefnyddio eu gemau a’u deallusrwydd i wneud i Dad godi oddi ar y sach eistedd. Ymunwch â’r teulu Heeler yn eu sioe theatr fyw gyntaf sydd wedi’i chreu yn arbennig i chi, gyda phypedau rhagorol. Dyma Bluey fel erioed o’r blaen, yn fyw ar y llwyfan yn y premiere yma yn y DU.
Canllaw oed: 3+
Cynigion i bobl dan 16: gostyngiad o £10 (Mer – Gwe)