Fe aeth hi’n nos ar Ganolfan Mileniwm Cymru ar 17 Mawrth 2020, a fydd yr adeilad ddim yn ailagor tan 2021. Mae sioeau cerdd, dramâu, Gŵyl y Llais eleni, digwyddiadau teuluol, teithiau ac arddangosiadau i gyd wedi’u canslo.
Gyda’r un sbeit â’r Dyn Nath Ddwyn y Dolig, mae’r Coronafeirws wedi cipio hwyl ac antur Canolfan Mileniwm Cymru.
Yr hyn sy’n arbennig o anodd yw bod llawer o swyddi ein staff hyfryd mewn peryg, achos bydd y Ganolfan ar gau am gyfnod mor hir.
Roedd rhaid i ni wneud y penderfyniad yma er mwyn sicrhau bod y sefydliad yn goroesi’r argyfwng ac yn gallu ailagor yn 2021. Mae hyn yn drychineb bersonol i unigolion, ac mae’n sefyllfa dorcalonnus i bob un ohonon ni.
Yn ystod y cyfnod anodd yma, mae angen tanio ein dychymyg yn fwy nag erioed. Felly mae’r ffaith bod Canolfan Mileniwm Cymru yn methu gwneud yr hyn mae’n ei wneud orau er mwyn dod â llawenydd i fywydau pobl yn hynod o drist.
I fi, yr hyn sy’n arbennig am y sefydliad yn fwy na dim byd arall yw’r ffaith ei bod yn rym mor llesol sy’n cyfoethogi bywydau pobl.
Pan fyddwn ni’n mynd i weld sioe gerdd, opera, drama neu sioe gabaret, rydyn ni’n mwynhau nid yn unig hud y perfformiad ei hunan ond hefyd yr edrych ymlaen a’r cyffro cyn y digwyddiad – yn sicr mae hyn yn rhywbeth rydw i’n gweld ei eisiau yn fawr.
Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod cymaint o bobl â phosib yn gallu profi’r hud yma a chael mynediad at y gwaith ar draws ein llwyfannau. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy docynnau cymunedol, perfformiadau hygyrch, a mentrau fel nosweithiau gwaith ar waith ‘talwch fel y mynnwch’, ac mae’n ddigalon gwybod na allwn ni barhau gyda’r gwaith yma am y tro.
Mae adeilad hyfryd y Ganolfan yng nghanol Bae Caerdydd yn eiconig – mae’n atyniad ymwelwyr pwysig sy’n gweld mwy o gamerâu na bron unman arall yng Nghymru – ac mae’n denu dros 1.6 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn.
Rydyn ni’n croesawu cannoedd o blant ysgol ar deithiau a miloedd o deuluoedd i ddigwyddiadau yn ystod gwyliau’r ysgol. Rydym hefyd yn creu dros £70 miliwn i’r economi leol bob blwyddyn, ac mae cau’r Ganolfan yn debygol o gael effaith sylweddol ar fusnesau yn y Bae a ledled Caerdydd.
Ein gwaith elusennol
Mae’n bwysig cofio hefyd bod Canolfan Mileniwm Cymru yn sefydliad celfyddydol arbennig iawn ac yn elusen sy’n canolbwyntio ar weithio a gwrando ar bobl ifanc a rhoi sgiliau bywyd a gwaith iddyn nhw – ac mae tua 15,000 o bobl ifanc wedi cymryd rhan yn ein gwaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Drwy raglenni fel Radio Platfform ac Yn Gryfach Ynghyd, rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed i annog y genhedlaeth nesaf i godi eu llais a datblygu sgiliau na fydden nhw wedi gallu eu datblygu yn unman arall o bosib.
EIN GWELEDIGAETH ARTISTIG
Rydyn ni hefyd yn creu ac yn buddsoddi yn ein cynyrchiadau ein hunain. Mae ein cynhyrchiad theatr gerdd Only the Brave wedi ei ffrydio yn ystod y cyfnod clo, ac wedi’i fwynhau gan filoedd o wylwyr.
Yn union cyn y cyfnod clo, fe gynhyrchon ni The Beauty Parade gyda Kaite O’Reilly, cynhyrchiad a lenwodd Stiwdio Weston a chael adolygiadau gwych.
Ym mis Chwefror, cafodd ein cynhyrchiad o The Mirror Crack’d Agatha Christie ei addasu gan Ayeesha Menon ar gyfer lleoliad Bollywood a chafodd rediad llwyddiannus iawn ym Mumbai.
Yn ddiweddarach yn yr un mis, roedd Theatr Soho Llundain yn orlawn i weld Lovecraft Carys Eleri, ac enillodd y cynhyrchiad wobr yng Ngŵyl Ymylon Adelaide.
Rydyn ni’n amlygu ac yn cefnogi awduron ac actorion Cymru, yn ogystal â’r Gymraeg, a’r nod yw dal ati i ddatblygu doniau Cymru a dangos eu cyfoeth ar lwyfan y byd.
Un o uchafbwyntiau’r llynedd oedd cynnal Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym mis Mai – gyda miloedd o bobl o bob rhan o’r wlad yn ymweld, a channoedd o blant yn cystadlu ar Lwyfan Donald Gordon. Mor wahanol oedd mis Mai eleni a’n drysau ar gau a’r adeilad yn wag.
Ac wrth gwrs, mae ein cymunedau lleol yn ganolog i bopeth rydyn ni’n ei wneud. Ym mis Mawrth, cyn y cyfnod clo, fe gawson ni ddau ddigwyddiad cymunedol bendigedig – gan ddathlu diwylliannau amrywiol Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi yn ‘Dy Gymru’, a chael gwledd gymunedol i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.
Yn ystod yr argyfwng, allwn ni ddim dangos sioeau ar ein llwyfannau na chynnal digwyddiadau, ond y nod yw gwneud hynny cyn gynted ag y gallwn ni.
Rydyn ni hefyd yn awyddus i helpu’r bobl ifanc sydd gymaint o angen y sgiliau bywyd rydyn ni’n eu darparu; ac rydyn ni am weld awduron, actorion, dylunwyr setiau a phawb sy’n helpu i greu ein cynyrchiadau yn cael dangos eu doniau i’r byd.
Er mwyn sicrhau ein bod ni’n gallu parhau i gysylltu â chynulleidfaoedd ac er mwyn sicrhau ein bod ni’n dal ati i weithio gyda chymaint o artistiaid a phobl greadigol ag y gallwn ni, rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i ddatblygu ein cynyrchiadau cartref.
Er enghraifft, rydyn ni’n gweithio gyda Hamed Amiri ar fersiwn llwyfan o lyfr sydd newydd gael ei gyhoeddi ganddo, sef The Boy with Two Hearts. Dyma stori deimladwy am y teulu Amiri a’u taith o Herat i Gaerdydd, a llythyr caru i’r gwasanaeth iechyd.
Rydyn ni hefyd yn ymchwilio i brosiectau newydd, gan gynnwys sioe deuluol ar gyfer Nadolig 2022, yn dilyn llwyddiant ein cyd-gynhyrchiad Nadolig – RED – gyda’r cwmni o Gaerdydd Likely Story yn 2019, ac yn chwilio am ffyrdd o greu digwyddiad celfyddydau gweledol yn yr hydref.
Rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i ddiddanu ein cynulleidfaoedd tra bod pethau’n ‘dywyll’ arnon ni, ac rydyn ni’n barod i gynnig digonedd o bethau newydd pan fyddwn ni’n agor.
Er gwaetha’r cyfnod clo, rydyn ni wedi parhau i weithredu ein gorsaf radio dan arweiniad pobl ifanc, sef Radio Platfform.
Mae yna heriau – fel ceisio codi arian i brynu meicroffonau o ansawdd da tra bod y tîm yn darlledu o gartre.
Mae bwrdd golygyddol ieuenctid ar-lein yn cael ei sefydlu hefyd er mwyn cyd-ddylunio cynnwys ar gyfer y sgrin a pherfformiadau byw, ac, os gallwn ni godi digon o arian, ysgrifennu a hunan-gyhoeddi.
Fe wnawn ni bopeth allwn ni er mwyn sicrhau bod y bobl ifanc rydyn ni’n gweithio gyda nhw yn magu hyder i lwyddo yn y byd.
Dim ond drwy haelioni ein cynulleidfa, ein haelodau a’n rhoddwyr y mae hyn yn bosib. All geiriau ddim cyfleu pa mor ddiolchgar ydyn ni am bob punt sy’n cael ei chyfrannu, ond er hynny, diolch o galon.
Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn llawer mwy na’r hyn rydyn ni’n ei weld ar lwyfan. Mae’n lle i artistiaid a pherfformwyr ddychmygu a datblygu syniadau. Mae’n lle i bobl ifanc, ddifreintiedig yn aml, ddysgu sgiliau a chodi eu dyheadau. Ac mae’n lle i gymunedau ddod ynghyd i ddathlu eu diwylliannau.
Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn perthyn i ni i gyd, ac mae ein gwaith o fudd i bawb. Beth bynnag fydd rhaid i ni ei wneud, fe wnawn ni’n siŵr ein bod ni’n dal i fod yn rym llesol.
Os gallwch chi gyfrannu mewn unrhyw ffordd, byddwch chi’n helpu i gryfhau’r grym yna a sicrhau ein bod wir yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Bydd pob ceiniog rydyn ni’n ei derbyn yn cael ei hailfuddsoddi yn ein gwaith elusennol ac artistig.
Yn fwy na dim byd, rydw i am weld ein drysau’n ailagor, fel y gallwn ni groesawu pawb yn ôl i fwynhau a chymryd rhan yn hwyl a hud Canolfan Mileniwm Cymru.
Peter Swinburn, Cadeirydd Canolfan Mileniwm Cymru