Gyda'r dydd mawr yn agosáu, mae gennym ni gasgliad o gynhyrchiadau bythgofiadwy a fydd yn anrheg berffaith eleni.
Bedknobs and Broomsticks
1 – 5 Chwefror 2022
Tretiwch y teulu i antur hudolus a chamwch i fyd llawn hud a lledrith wrth i ffilm glasurol Disney ymddangos am y tro cyntaf fel sioe gerdd newydd ar y llwyfan.
Matthew Bourne's Nutcracker!
22 – 26 Mawrth 2022
Rhywbeth blasus i'r rheiny sy'n caru dawns. Dewch i weld y cynhyrchiad sgleiniog hwn yn llawn ffraethineb, pathos a dychymyg hudolus Matthew Bourne.
Dreamgirls
19 – 30 Ebrill 2022
Yn syth o'r West End, dyma sioe gerdd ysblennydd sy’n cyflwyno stori fythgofiadwy a lleisiau anhygoel a fydd yn eich syfrdanu am amser hir.
SIX
3 – 14 Mai 2022
Byddwch chi ddim yn difaru hon. O freninesau Tuduraidd i dywysogesau pop, mae chwe gwraig Harri VIII o’r diwedd yn gafael yn y meicroffon, yn cydblethu pum cant blwyddyn o dor-calon hanesyddol.
School of Rock
16 – 21 Mai 2022
Yn edrych am sioe i dwymo'ch calon a’ch gwefreiddio ar yr un pryd? Dyma yw'r sioe i chi. Yn llawn hwyl, dyma yw'r dosbarth na hoffech chi ei golli.
Singin' in the Rain
23 – 28 Mai 2022
Mwynhewch noson llawn hyfrydwch gyda'r cynhyrchiad o dapio a sblasio, yn serennu Kevin Clifton. Yn llawn coreograffi llawn egni a setiau moethus, dyma fydd eich hoff diwrnod glawiog erioed.
Waitress
30 Mai – 4 Mehefin 2022
Cewch fwynhau pei gerddorol pum seren yn y cynhyrchiad cynnes, ffraeth, doeth a doniol dros ben.
Gormod o sioeau i'w dewis? Dim problem!
Ystyriwch roi un o'n talebau rhodd i'ch anwylyd? Maent yn ddilys am 18 mis, a gellir eu defnyddio i archebu tocynnau ar gyfer unrhyw un o'n sioeau sydd i ddod.
Gallwch hefyd roi aelodaeth Ffrind fel anrheg, sy'n cynnig buddiannau gwych fel blaenoriaeth wrth archebu, disgowntiau da a chyswllt drwy gydol y flwyddyn.
TANIWCH EIN DYFODDOL
Tecstiwch AWEN i 70085 er mwyn rhoddi £5