Gyda sioeau sy'n addas i bob oedran y tymor hwn, dewch i greu atgofion i'w cadw yng Nghanolfan Mileniwm Cymru gyda'ch ffrindiau a'ch teulu.
Coedwig hudolus
Os ydych chi'n teithio heibio, galwch fewn i weld ein coedwig hudolus, mewn da bryd ar gyfer Beauty and the Beast. Gellir gweld y goedwig, sy'n cynnwys eira a goleuadau fflachio, ger caffi Double Zero.
Ancestree
Mae hi nôl unwaith yn rhagor! Byddwn yn arddangos y gosodiad coeden crosio pedwar llawr anhygoel 'Ancestree' yn llawn blodau, anifeiliaid a barddoniaeth, a oedd yn ganolbwynt i'n harddangosfa Eich Llais.
Ar 3 Ionawr rydyn ni'n rhedeg gweithdy ysgrifennu creadigol am ddim o amgylch y goeden sy'n canolbwyntio ar straeon pobl, coed a'u taith law yn llaw trwy amser. Felly dewch i fwynhau gyda geiriau gyda digonedd o weithgareddau a pherfformiadau byw.
Gweithdai crefft teuluol: Tylwyth Teg
Thema eleni yw coblynnod, tylwyth teg, ellyll a chwedlau byd-eang. Rydyn ni'n cynnig pecynnau digidol am ddim i'w lawrlwytho a chwblhau gartref gyda'ch plant, neu i'w casglu o'n Man Gwybodaeth yn ein hadeilad.
Ar ôl i chi orffen, dewch nôl a gadewch eich gwaith gorffenedig mewn blwch wrth ymyl y Man Gwybodaeth a byddwn yn ei hongian o'r 'goeden tylwyth' yn ein coedwig hudolus.
Adrodd straeon hudolus
Ar 20 Rhagfyr ymunwch â ni am sesiwn straeon hudolus am ddim yn y Glanfa o 11am i 3pm, a fydd yn eich rhoi awydd y Nadolig i chi!
Disney’s Beauty and the Beast
9 Rhagfyr 2021 - 15 Ionawr 2022
Dewch i fwynhau'r trêt Nadoligaidd perffaith hwn. Cewch eich swyno gan y caneuon a'r cymeriadau hoffus unwaith yn rhagor yn y stori ysblennydd.
Oi Frog and Friends!
15 Rhagfyr 2021 - 2 Ionawr 2022
Ymunwch â Frog, Cat a Dog am amser gwyllt yn llawn odlau yn yr addasiad llwyfan newydd llawn bwrlwm yma o lyfrau llun hynod boblogaidd Kes Gray a Jim Field, Oi Frog!, Oi Dog! ac Oi Cat! Disgwyliwch ganeuon, pypedau, chwerthin a llwyth o odli.
The Lion, the Witch and the Wardrobe
18 - 22 Ionawr 2022
Camwch drwy'r cwpwrdd gyda Lucy, Edmund, Susan a Peter a theithiwch i deyrnas hudolus Narnia yn yr ailadroddiad epig hwn o'r clasur hoffus.
Cewch gwrdd â Ffawn, Afancod siaradus, brenin bonheddig Narnia, a Samantha Womack fel y Wrach Wen oeraidd, fwyaf creulon. Dyma sioe arobryn, gwbl hudolus - peidiwch â'i cholli.
Bedknobs and Broomsticks
1 - 5 Chwefror 2022
Dewch i greu ffrindiau newydd annisgwyl ar daith o Portobello Road i ddyfnderoedd y môr hallt ysblennydd. Yn cynnwys y caneuon gwreiddiol gan y Brodyr Sherman (Mary Poppins).
Camwch i fyd hudol a dychmygus wrth i ffilm glasurol Disney hedfan i'r llwyfan am y tro cyntaf.
Matthew Bourne’s Nutcracker!
22 – 26 Mawrth 2022
Ymunwch â thaith chwerwfelys Clara o Noswyl Nadolig dywyll yng nghartref plant amddifad Dr. Dross, trwy fyd gaeafol sglefrio iâ disglair i deyrnas losin blasus Sweetieland.
A rhywbeth i'r oedolion…
Os oes well gennych chi'r drwg na'r da dros dymor y gwyliau, XXXmas Carol (8 – 30 Rhagfyr 2021) yw'r 'anti-panto' perffaith i chi.
Ymunwch â Polly Amorous a'i ffrindiau o dan yr uchelwydd ar gyfer y fersiwn bisâr hwn o hunllef Nadoligaidd Charles Dickens.