Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

3, 2, 1....Ni ar agor!

Mae'n wych bod nôl, yn llenwi ein theatr gyda phobl ac awyrgylch unwaith eto. Mae 'na ddigonedd o newyddion cyffrous i rannu gyda chi - o dymor hydref a gaeaf llawn dop i sut rydyn ni'n trawsffurfio ein hardaloedd cyhoeddus.

Tymor hydref a gaeaf 2021

Yn gyntaf, gwyliwch ein rhaglun diweddaraf sy'n cynnwys tymor newydd Opera Cenedlaethol Cymru, ein cynhyrchiad newydd a fydd yn cynhesu'ch calon, The Boy With Two Hearts, Gŵyl y Llais yn dychwelyd o'r diwedd, a'r holl sioeau hynod boblogaidd rydych chi wedi'u disgwyl. Archebwch eich tocynnau fan hyn.

Cadw chi'n ddiogel

Drwy gydol pandemig y coronafeirws rydyn ni wedi bod yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru; gallwch ddarllen mwy am ein mesurau diogelwch coronafeirws.

Gofynnwn i bobl barhau i wisgo masgiau pan yn cerdded tu fewn, ond gellir eu tynnu unwaith rydych chi ar eistedd er mwyn bwyta, yfed, a gwylio perfformiadau.

Trawsffurfio ein gofodau

Ar ôl dyfodiad e-docynnau a thaliadau digyswllt, dyw ein desg docynnau hir ddim yno mwyach. Rydyn ni'n trawsffurfio ardal ein cyntedd er mwyn i chi gael bwyta, yfed, cwrdd, trafod, gweithio, chwarae, dadlau, cymryd hun-luniau, archebu tocynnau, mwynhau, dianc a chreu atgofion.

Bydd yn le y gall ein holl gymuned ei alw’n gartref a dod ynghŷd i’w fwynhau. Yn y dyfodol, hoffem hefyd ddod â lleoliad cabaret newydd a chyrchfan ciniawa newydd i chi.

Ble mae'r swyddfa docynnau?

Wrth i chi ddod mewn drwy'r drysau blaen, trowch i'r dde a cherddwch ar hyd y cyntedd tuag at y ddinas. Yno fe welwch chi ein swyddfa docynnau newydd, ystafell gotiau, a staff yno i helpu gydag unrhyw ymholiadau.

Noder y bydd hyn ond ar agor am awr a hanner cyn bob sioe, felly defnyddiwch ein cyfleuster gwe-sgyrsio ar gyfer unrhyw ymholiadau cyffredinol.

Bydd yr hen siop nwyddau'n cael ei thrawsffurfio'n brofiad realiti rhithwir ar gyfer ein cynhyrchiad diweddaraf, The Boy With Two Hearts, o 2 Hydref.

Bydd ein bariau theatr ar agor ar gyfer perfformiadau, a bydd ein hardal bwyd stryd a bar Teras yn gweini bwyd, coffi, a diodydd ar adegau penodol hyd at 3 Hydref.

Newid er gwell

Rhoddodd y cyfnod clo gyfle i ni adlewyrchu ar sut rydyn ni'n gweithredu fel mudiad a chyflawni newid arwyddocaol.

Rydyn ni wedi gwahodd grwpiau gwahanol i'n cymuned er mwyn helpu tywys a hysbysu ein gweledigaeth. Mae'r rhain yn cynnwys y Cymdeithion Creadigol - wyth artist deinamig a fydd yn dod â lleisiau gwahanol i'r mudiad a datblygu eu hymarferion eu hunain - a'n Criw Ieuenctid - naw person ifanc a fydd yn sicrhau ein bod ni'n ofod cynhwysfawr i bob person ifanc.

Yn dilyn ein cyrsiau Llais Creadigol arlein llwyddiannus, rydyn ni hefyd yn ymchwilio i sut y gallwn ni ddefnyddio ein gofod mewn ffordd fwy cydweithredol a chreadigol, gyda'r amcan o rymuso'r genhedlaeth nesaf i ddarganfod eu llais. Fe welwch chi grwpiau o bobl ifanc yn defnyddio gwahanol ofodau ar draws yr adeilad er mwyn darganfod sut y gallwn wneud hynny.

Helpwch danio ein dyfodol

Rydyn ni'n llawn cyffro o'ch croesawu chi nôl a bod yn gartref a chanolbwynt i'r celfyddydau yng Nghymru unwaith eto.

Ond er mwyn parhau i ffynnu fel canolfan celfyddydau genedlaethol i Gymru, mae angen eich cymorth arnom yn fwy nag erioed.

Tecstiwch AWEN i 70085 er mwyn rhoddi £5 a siapio dyfodol creadigol disglair i Gymru.

Mae negeseuon testun yn costio £5 a phris un neges gyfradd safonol. Drwy roddi byddwch yn optio fewn i glywed mwy am ein gwaith a chodi arian. Tecstiwch AWENNOINFO i 70085 er mwyn optio allan.

Peidiwch anghofio bod modd i chi gadw mewn cyswllt â'n holl newyddion diweddaraf drwy ddilyn ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.