Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Christmas presents

Rhowch anrheg y theatr y Nadolig hwn

Gyda'r dydd mawr yn agosáu, mae gennym ni gasgliad o gynhyrchiadau bythgofiadwy a fydd yn anrheg berffaith eleni.

Bedknobs and Broomsticks 

Golyfa pypedau dan y môr o Bedknobs and Broomsticks

1 – 5 Chwefror 2022

Tretiwch y teulu i antur hudolus a chamwch i fyd llawn hud a lledrith wrth i ffilm glasurol Disney ymddangos am y tro cyntaf fel sioe gerdd newydd ar y llwyfan.

Matthew Bourne's Nutcracker!

22 – 26 Mawrth 2022

Rhywbeth blasus i'r rheiny sy'n caru dawns. Dewch i weld y cynhyrchiad sgleiniog hwn yn llawn ffraethineb, pathos a dychymyg hudolus Matthew Bourne.

Dreamgirls

19 – 30 Ebrill 2022

Yn syth o'r West End, dyma sioe gerdd ysblennydd sy’n cyflwyno stori fythgofiadwy a lleisiau anhygoel a fydd yn eich syfrdanu am amser hir.

SIX

Cantoresau ar lwyfan gyda meicroffonau

3 – 14 Mai 2022

Byddwch chi ddim yn difaru hon. O freninesau Tuduraidd i dywysogesau pop, mae chwe gwraig Harri VIII o’r diwedd yn gafael yn y meicroffon, yn cydblethu pum cant blwyddyn o dor-calon hanesyddol.

School of Rock

16 – 21 Mai 2022

Yn edrych am sioe i dwymo'ch calon a’ch gwefreiddio ar yr un pryd? Dyma yw'r sioe i chi. Yn llawn hwyl, dyma yw'r dosbarth na hoffech chi ei golli.

F

Singin' in the Rain

Cast Singin' In The Rain yn dawnsio gydag ymbarelau lliwgar ar lwyfan

23 – 28 Mai 2022

Mwynhewch noson llawn hyfrydwch gyda'r cynhyrchiad o dapio a sblasio, yn serennu Kevin Clifton. Yn llawn coreograffi llawn egni a setiau moethus, dyma fydd eich hoff diwrnod glawiog erioed.

Waitress

30 Mai – 4 Mehefin 2022

Cewch fwynhau pei gerddorol pum seren yn y cynhyrchiad cynnes, ffraeth, doeth a doniol dros ben.

Gormod o sioeau i'w dewis? Dim problem!

Ystyriwch roi un o'n talebau rhodd i'ch anwylyd? Maent yn ddilys am 18 mis, a gellir eu defnyddio i archebu tocynnau ar gyfer unrhyw un o'n sioeau sydd i ddod.

Gallwch hefyd roi aelodaeth Ffrind fel anrheg, sy'n cynnig buddiannau gwych fel blaenoriaeth wrth archebu, disgowntiau da a chyswllt drwy gydol y flwyddyn.

Safyan

TANIWCH EIN DYFODDOL

Tecstiwch AWEN i 70085 er mwyn rhoddi £5