Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Tu ôl i ddrysau caeedig - Ionawr 2021

Mae’n anodd credu faint sydd wedi newid mewn blwyddyn. Yr amser yma'r llynedd doedd neb yn gwybod yr anrhefn a dinistr llwyr y byddai’n dod yn sgil pandemig y Coronafeirws. Ond, mae hi’n flwyddyn newydd, ac mae pethau’n siŵr o wella, wrth i ni barhau i gynllunio ein dyfodol. Dyma gipolwg o’r hyn a wnaethon y tu ôl i ddrysau caeedig ym mis Ionawr...

I gychwyn 2021 fe ail-lansiom ein prosiect cymunedol Lleisiau dros Newid. Cychwynnwyd y prosiect ym mis Mai 2020, er mwyn annog pobl i fod yn greadigol ac i fod yn rhan o rywbeth positif sy’n edrych i’r dyfodol.

Ein bwriad yw ailagor gydag arddangosfa Lleisiau Dros Newid, sy’n cyflwyno gwaith celf pawb. Bydden ni wrth ein boddau petai fwy o bobl yn cymryd rhan. Darganfyddwch sut y gallwch chi gyfrannu at yr arddangosfa.

Rydyn ni wedi bod yn chwilio am Guradur Arddangosfa i’n helpu ni guradu ac arddangos y prosiect cymunedol cyffrous yma. Mae’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau bellach wedi bod, ond gallwch ddarganfod rhagor am y rôl yma.

Llun o ddynes gydag awyr y nos yn gefndir

Fel rhan o Leisiau Dros Newid, anfonodd Dee Bryan, y ffotograffydd lleol, luniau hyfryd aton ni, ac fe ysgrifennodd flog – Ar Fy Mhen Fy Hun – sy’n archwilio’i phrofiadau hi o’r cyfnod clo a sut y bu hi’n ymdopi â’r teimlad o unigedd.

Rydyn ni’n parhau i arddangos gwaith celf o’r gymuned yn ein ffenestri blaen. Yn ystod mis Ionawr, cyflwynwyd gwaith ffotograffiaeth gan gymunedau Duon, Asiaidd ac amrywiol ethnig Caerdydd. Mae’r prosiect newydd yma dan arweiniad Coleg Gwent a Chyngor Caerdydd, ac mae yna ddelweddau rhagorol i’w gweld - felly os fyddwch yn pasio, cymerwch olwg. Mae ambell i ddarn o waith i’w weld yn y blog yma.

Pâr o esgidiau gwyn mewn pwll o ddŵr

Buom yn dathlu Dydd Santes Dwynwen 25 Ionawr... os wnaethoch chi anghofio, gobeithio na chaffoch chi ormod o stŵr!

Yn ystod mis Ionawr fe wnaethom ni hefyd gyhoeddi ein swyddi Cymdeithion Creadigol newydd. Bydd y swyddi cyffrous yma’n rhoi artistiaid o bob rhan o’r sector wrth galon popeth a wnawn. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio â’r garfan gyntaf o ymarferwyr creadigol. 

Roedd 27 Ionawr yn Ddiwrnod Cofio’r Holocost, a thema eleni oedd #LightTheDarkness. I ddangos ein cefnogaeth, fe oleuon ni’n hadeilad yn borffor.

Canolfan Mileniwm Cymru wedi'i goleuo'n borffor

Ysgrifennodd Edward Lee, Swyddog Maes a Hyfforddiant Radio Platfform flog gwych am hyfforddiant Radio Platfform. Darllenwch y blog yma.

I gofrestru ar gyfer ein cyrsiau hyfforddi, neu os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â radioplatfform@wmc.org.uk a gwrandewch ar yr orsaf drwy’r dudalen Mixcloud page.

Tîm Radio Platfform yn sefyll yn y coridor tu allan i'r orsaf radio

I gloi’r mis, fe lansion ni ragor o’n gweithdai peilot, sef ein cyrsiau Llais Creadigol ar-lein. Wedi’i deilwra ar gyfer unrhyw un 14-25 oed, mae’r rhaglen yn rhoi cyfle i bobl ifanc archwilio’i diddordebau, mynegi eu hunain ac adeiladu hyder creadigol drwy brofiadau dysgu ymarferol.

Os oes diddordeb gennych chi yn y cyrsiau, mynnwch le cyn gynted â phosib - dim ond ambell i le sydd ar ôl. Ond os golloch chi’ch cyfle y tro yma, peidiwch â phoeni, byddwn yn cynnal cyrsiau eraill cyn bo hir.

Mae llawer o’r gweithgareddau yma rydyn yn parhau i allu eu cynnal, o ganlyniad uniongyrchol i’ch rhoddion hael, eich aelodaeth a chyllid grantiau. Fe hoffem ni ddiolch hefyd i Gyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad MoondanceGarfield Weston, Paul Hamlyn FoundationThe Clive and Sylvia Richards Charity and The Simon Gibson Charitable Trust am ganiatáu i ni ddal ati yn cefnogi’r doniau creadigol, y bobl ifanc a’r cymunedau sy’n gweld yr angen am greadigrwydd nawr yn fwy nag erioed.