Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Autumn leaves

Digwyddiadau Anhygoel yr Hydref

Mae’r coed ar ochr Lloyd George Avenue yn newid. Mae’r awyr sy’n chwythu i mewn o’r Bae yn oerach. Mae’r hydref yn ein galw ni i aros yn glyd…

Felly cydiwch yn eich sgarff a chamwch i mewn I Ganolfan Mileniwm Cymru am ddiod cynnes yn Ffwrnais cyn cymryd eich sedd ar gyfer un o’n digwyddiadau anhygoel yr hydref yma.

 

TEITHIAU EPIG

Life of Pi

Ar ôl storm epig yn y Cefnfor Tawel, caiff Pi ei adael ar fad achub gyda phedwar goroeswr arall – hiena, sebra, orangutan a theigr Bengal Brenhinol. Yn seiliedig ar y ffenomenon byd-eang ac enillydd y wobr Man Booker, sydd wedi gwerthu dros 15 miliwn o gopïau ledled y byd, Life of Pi yw’r stori boblogaidd am daith epig o wydnwch a gobaith. Peidiwch â cholli sbectacl y West End a Broadway ar ei daith gyntaf o’r DU.

'It will make you believe in theatre. A triumph.' Sunday Times

17 – 21 Hydref 2023

Branwen:Dadeni

Ar ôl rhyfel cartref gwaedlyd, teulu Llŷr sy’n rheoli gwlad Cedyrn. Mae Branwen, y dywysoges ifanc garismatig sydd wedi ennill calonnau’r bobl, yn awyddus i symud ei gwlad ymlaen, ond dyw ei brawd, y brenin, ddim yn gwrando. Yn ystod ymweliad annisgwyl gan Frenin Iwerddon, mae hi'n gweld ei chyfle: dianc i wlad flaengar a llewyrchus lle bydd ei llais yn cyfrif, a lle bydd ganddi'r grym i newid pethau. Ond, wrth iddi ddechrau serennu, mae pob bargen, brad a chorff yn ei harwain yn ddyfnach i'r tywyllwch, a phan fydd bron ar ben arni, daw'r pris yn amlwg.

Sioe gerdd newydd gan Ganolfan Mileniwm Cymru a Frân Wen sy’n ailddychmygu’r stori eiconig, gyda Gethin Evans yn cyfarwyddo cast rhagorol o berfformwyr a cherddorion.

8 – 11 Tachwedd 2023

 

SIOEAU CADARNHAOL

Lost in Music: One Night at the Disco

Ymunwch â ni wrth i ni ail-greu’r 70au hudol a gadewch i ni fynd â chi ar daith gerddorol yn syth i galon disgo! Dewch i ail-fyw rhai o’r caneuon gorau erioed gan artistiaid fel Donna Summer, Gloria Gaynor, Earth Wind & Fire, Sister Sledge a Chic. Mae’r sioe yn cynnwys band byw syfrdanol, cast hynod o dalentog a lleisiau arbennig a fydd yn siŵr o wneud i chi godi ar eich traed a dawnsio. Felly, gwisgwch eich dillad gorau wrth i ni ddathlu oes aur disgo.

7 Hydref 2023

Everybody's Talking About Jamie

Wedi’i gosod i sgôr gwreiddiol o ganeuon pop gafaelgar gan brif ganwr a chyfansoddwr caneuon The Feeling Dan Gillespie Sells a’r awdur Tom MacRae (Doctor Who). Wedi’i choreograffu gan un o Artistiaid Cyswllt Sadler’s Wells Kate Prince (Into the Hoods, Some Like It Hip Hop, SYLVIA, Message In A Bottle). Bydd y sioe gerdd ddisglair yma yn golygu y bydd pawb yn siarad am Jamie am flynyddoedd i ddod.

23 – 28 Hydref 2023

Sam Morrison: Sugar Daddy

Sam Morrison, a gafodd ei enwi’n Wyneb Newydd yng Ngŵyl Just For Laughs 2023 ac sydd wedi ymddangos ar y teledu am y tro cyntaf yn ddiweddar ar Late Night with Seth Myers, yw un o sêr datblygol mwyaf y byd comedi. Mae Sugar Daddy yn dilyn Sam wrth iddo gwrdd â’i ddiweddar bartner mewn gŵyl eirth hoyw a dod o hyd i obaith a digrifwch mewn galar ar ôl iddo farw.

20 Hydref 2023

 

DIGON I'W FWYNHAU

Llais

Mae Llais yn agor ar 10 Hydref gyda’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig. Mae ein lein-yp ffantasig hefyd yn cynnwys Bat for Lashes, Gwenno a Both Sides Now: Celebrating Joni Mitchell gyda’r gwesteion arbennig Charlotte Church a Laura Mvula. Mae rhaglen lawn o ddigwyddiadau ar draws yr adeilad yn cynnwys gweithdai a dangosiadau rhad ac am ddim.

10 – 15 Hydref 2023

Cabaret - Mae Croeso i Bawb


Darganfyddwch bleserau annisgwyl a difyr wrth i ni arddangos y perfformwyr gorau o’r bydoedd drag, comedi, bwrlésg, cerddoriaeth fyw, theatr gig a mwy. Mae Cabaret yn ofod diogel lle y gall pawb fynegi a mwynhau eu hunain. Rydyn ni’n cyflwyno talentau datblygol ac eclectig fel nunlle arall yng Nghymru ac mae croeso i bawb. Mae sioeau arswydus ar y ffordd yn Cabaret gan gynnwys Halloween Burlesque Fantasy gyda Chlwb Cabaret Caerdydd, Horrible Drag gyda Charity Kase o Drag Race UK, a ‘Slayance’ gyda House of Deviant – yr unig grŵp drag anableddau dysgu yng Nghymru.

Cabaret yn yr hydref

 

CLIRIWCH EICH PEN

Sister Act

Mae bywyd y ‘difa’ disgo Deloris yn newid trywydd ar ôl iddi fod yn dyst i lofruddiaeth. Er mwyn ei hamddiffyn, mae’r heddlu’n ei hanfon i’r unig le chaiff neb hyd iddi – lleiandy! Wrth iddi helpu’r côr sydd mewn trafferth, mae hi’n helpu ei chwiorydd newydd i ddarganfod eu lleisiau, ac yn ail-ddarganfod ei llais ei hun. Gyda cherddoriaeth wreiddiol gan Alan Menken (Disney’s Aladdin, Enchanted) a enillodd wobr Tony® ac 8 gwobr Oscar®, a chaneuon a ysbrydolwyd gan gerddoriaeth Motown, soul a disgo, mae’r sioe gerdd nefolaidd hon yn un llawen a dyrchafol. Mae Sister Act yn sioe sydd rhaid ei gweld sy’n codi’ch ysbryd ac yn twymo’ch enaid dro ar ôl tro.

8 – 11 Tachwedd 2023

Shrek the Musical

Yn seiliedig ar y ffilm DreamWorks a enillodd Oscar, mae’r sioe Broadway lwyddiannus Shrek the Musical, yn gomedi cerddorol llawn hwyl gyda chast o gymeriadau bywiog a sgôr ‘shrek-taciwlar’. Noson allan berffaith i bobl ifanc a’r rhai sy’n ifanc eu hysbryd – mae Shrek the Musical yn siŵr o fod yn hwyl i’r teulu cyfan a bydd yn gwneud i chi ddawnsio a chwerthin yr holl ffordd adref.

20 – 25 Tachwedd 2023

 

HINSAWDD GYNNES

I Should Be So Lucky

Mae I Should Be So Lucky, sy’n ddoniol dros ben ac yn emosiynol, yn ymwneud â theulu, ffrindiau, cariad ac amseroedd gwych. Mae anthemau diderfyn, traciau pop poblogaidd a dilyniannau dawns disglair yn dod at ei gilydd gyda 10 cân a gyrhaeddodd Rhif 1 a dros 30 o ganeuon o’r ‘Hit Factory’ y gwnaeth ei gerddoriaeth ddiffinio oes. Caiff y tîm creadigol ei arwain gan seren y llwyfan a’r sgrin Debbie Isitt (cyfarwyddwr ac awdur y fasnachfraint lwyddiannus Nativity!) a Jason Gilkison (cyfarwyddwr creadigol Strictly Come Dancing) a doniau cerddorol Stock Aitken Waterman.

27 Tachwedd – 2 Rhagfyr 2023

Disney's Aladdin

Dihangwch i fyd newydd a phrofwch y digwyddiad theatraidd arbennig yma y mae 14 miliwn o bobl ledled y byd eisoes wedi’i weld. Mae’r cynhyrchiad gorfoleddus yma, sy’n cynnwys y gerddoriaeth eiconig gan Alan Menken, Howard Ashman a Tim Rice, yn llawn hud bythgofiadwy, comedi a golygfeydd anhygoel! Gydag effeithiau arbennig rhyfeddol, dros 350 o wisgoedd prydferth a cherddorfa fyw a chast ardderchog, mae Aladdin yn cynnwys yr holl ganeuon o'r ffilm a enillodd wobrau Oscar, gan gynnwys Friend Like Me, Arabian Nights ac A Whole New World.

7 Rhagfyr 2023 – 14 Ionawr 2024

 

Yn dwli ar y theatr? Ymaelodwch i gael y seddi gorau yn y theatr a buddion eraill gwych drwy gydol y flwyddyn.