Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Opera Cenedlaethol Cymru: The Marriage of Figaro

6 + 8 Chwefror 2025

Theatr Donald Gordon

Ar werth i aelodau Partner Awen + Cyfeillion WNO o 23 Chwefror
Ar werth i Partner + Ffrind and Ffrind+ members o 28 Chwefror
Ar werth i’r cyhoedd o 1 Mawrth

Mwy o berfformiadau The Marriage of Figaro yn Nhymor Haf 2025 WNO 

Cariad, chwerthin a chlymau o garwriaethau

Dylai fod y diwrnod hapusaf ym mywydau Figaro a Susanna ond a fydd eu priodas yn cael ei chynnal o gwbl? Mae Iarll Almaviva yn benderfynol o hudo Susanna, ond a fydd ei wraig yn darganfod y gwir? A fydd Figaro yn gallu trechu ei feistr, er anrhydedd ei ddarpar wraig? Neu a fydd y Cherubino ifanc yn drysu pethau fwy byth? Yn y stori gyfareddol hon am gariad, ffyddlondeb a cham-adnabyddiaeth, mae'r barbwr ffraeth yn canfod ei ffordd drwy droeon annisgwyl cymhlethdodau cymdeithasol y 18fed ganrif gyda dengarwch a hiwmor, a chynlluniau clyfar a fydd yn eich cadw ar flaen eich sedd hyd at y nodyn olaf.  

Mae cynhyrchiad WNO, sydd wedi ei osod yn yr oes o’r blaen, yn cynnwys setiau cain, gwisgoedd godidog a holl gynhwysion opera glasurol. Felly, ymunwch â ni wrth i ni gamu i fyd The Marriage of Figaro lle mae cariad a chwerthin yn cydgyfeirio mewn troellwynt o gynlluniau clyfar a gwychder melodig Mozart.  

Arweinydd Kerem Hasan 
Cyfarwyddwr Tobias Richter 
Cyfarwyddwr Adfywiol Max Hoehn

wno.org.uk/figaro
#WNOfigaro

Cenir yn Eidaleg, gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg

Amser dechrau:
Iau 7pm
Sad 3pm

Hyd y perfformiad: tua 3 awr a 20 munud yn cynnwys un egwyl

CYNNIG AML-DOCYN OPERA CENEDLAETHOL CYMRU

Archebwch docynnau ar gyfer 2 opera ac arbedwch 10%
Archebwch docynnau ar gyfer 3 opera ac arbedwch 15%
Archebwch docynnau ar gyfer 4 opera ac arbedwch 20%

Ar gyfer pecynnau aml-brynu, mae'n rhaid prynu'r un nifer o docynnau ar gyfer pob opera. Yn gymwys i'r 3 pris drutaf. Caiff y cynnig ei brosesu yn eich basged siopa.

CYNIGION GRŴP

Grwpiau 10+, gostyngiad o £4 (prisiau 2 - 5)
Trefnu ymweliad grŵp

YSGOLION

£12.50 - yn berthnasol i seddi penodol (nifer cyfyngedig ar gael). Tocyn athro am ddim gyda phob 10 disgybl. Ffôn 029 2063 6464.

O DAN 16

£10 wrth archebu gydag oedolyn sy'n talu am docyn pris llawn (nifer cyfyngedig ar gael). Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.

Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd

Cyd-gynhyrchiad â Grand Théâtre de Genève

Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.

Sain Ddisgrifiad

Teithiau Cyffwrdd

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon

Opera Cenedlaethol Cymru

Gweld popeth
National Opera Studio Showcase

Sioe Arddangos National Opera Studio

Testun: Rigoletto Verdi

WEDI'I GANSLO

Opera Cenedlaethol Cymru: Rigoletto

Text: Play Opera LIVE

Chwarae Opera YN FYW

Text: The Marriage of Figaro

Opera Cenedlaethol Cymru: The Marriage of Figaro

Testun: Peter Grimes Britten

Opera Cenedlaethol Cymru: Peter Grimes

Testun: Rigoletto Verdi

Opera Cenedlaethol Cymru: Rigoletto

Testun: Il trittico Puccini

Opera Cenedlaethol Cymru: Il trittico

Testun: Ffefrynnau Opera yn y Ffilmiau

Ffefrynnau Opera yn y Ffilmiau

Testun: The Marriage of Figaro

Opera Cenedlaethol Cymru: The Marriage of Figaro