Y sioe deulu perffaith ar gyfer yr ifanc ac ifanc eu hysbryd.
Yn cynnwys cerddoriaeth ogoneddus o'r llwyfan a’r sgrin, y sioe deuluol ryngweithiol ac addysgol hon yw’r cyflwyniad perffaith i fyd bendigedig opera a cherddoriaeth glasurol.
Gyda Cherddorfa clodwiw WNO yn dod â’r perfformiad yn fyw, bydd ein cyflwynydd arbennig Tom Redmond, yn eich cyflwyno i'r Gerddorfa a’i hofferynnau niferus, ein perfformwyr talentog, ac wrth gwrs, y gerddoriaeth y byddwch yn ei chlywed yn ystod y prynhawn – rhai o’n ffefrynnau i’w perfformio. Bydd awyrgylch hamddenol y sioe yn eich caniatáu i ymgolli’n llwyr yn y gerddoriaeth a’r ddrama – byddwch yn clapio, dawnsio a chanu yn yr eiliau.
Ymgollwch yn hud cefn llwyfan y byd opera yn ystod ein gweithgareddau am ddim yn y cyntedd, a fydd ar gael o 1pm. Dewch i edrych ar rai o’n gwisgoedd, creu propiau a mwynhewch ein gorsafoedd goleuo a sain. Os nad yw hynny’n ddigon, bydd hyd yn oed helfa drysor.
wno.org.uk/playoperalive
#WNOplayopera
Amser dechrau: 3pm
Hyd y perfformiad: tua 1 awr a 10 munud heb egwyl
CYNNIG TOCYN TEULU
Prynwch docyn teulu a gallech arbed hyd at 1/3
Teulu o bedwar: £45 (uchafswm o ddau oedolyn)
Teulu o bump: £50 (uchafswm o ddau oedolyn)
Rhaid archebu’r cynnig hwn ar ei ben ei hun – bydd angen prosesu unrhyw docynnau ychwanegol fel archeb newydd.
O DAN 16
Tocyn am £10 wrth archebu gydag oedolyn sy'n talu am docyn pris llawn. Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.
TOCYN BABANOD
Tocynnau £2 eistedd ar liniau i blant dan 2 oed.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd