Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Opera Cenedlaethol Cymru: The Marriage of Figaro

9 + 12 Ebrill 2025

Theatr Donald Gordon

Cariad, chwerthin a chlymau o garwriaethau

Dylai fod y diwrnod hapusaf ym mywydau Figaro a Susanna ond a fydd eu priodas yn cael ei chynnal o gwbl? Mae Iarll Almaviva yn benderfynol o hudo Susanna, ond a fydd ei wraig yn darganfod y gwir? A fydd Figaro yn gallu trechu ei feistr, er anrhydedd ei ddarpar wraig? Neu a fydd y Cherubino ifanc yn drysu pethau fwy byth? Yn y stori gyfareddol hon am gariad, ffyddlondeb a cham-adnabyddiaeth, mae'r barbwr ffraeth yn canfod ei ffordd drwy droeon annisgwyl cymhlethdodau cymdeithasol y 18fed ganrif gyda dengarwch a hiwmor, a chynlluniau clyfar a fydd yn eich cadw ar flaen eich sedd hyd at y nodyn olaf.  

Mae cynhyrchiad WNO, sydd wedi ei osod yn yr oes o’r blaen, yn cynnwys setiau cain, gwisgoedd godidog a holl gynhwysion opera glasurol. Felly, ymunwch â ni wrth i ni gamu i fyd The Marriage of Figaro lle mae cariad a chwerthin yn cydgyfeirio mewn troellwynt o gynlluniau clyfar a gwychder melodig Mozart.  

Arweinydd Kerem Hasan 
Cyfarwyddwr Tobias Richter 
Cyfarwyddwr Adfywiol Max Hoehn

wno.org.uk/figaro
#WNOfigaro

Cenir yn Eidaleg, gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg

Amser dechrau: 7pm

Hyd y perfformiad: tua 3 awr a 20 munud yn cynnwys un egwyl

CYNNIG AML-DOCYN OPERA CENEDLAETHOL CYMRU

Archebwch docynnau ar gyfer 2 opera ac arbedwch 10%
Archebwch docynnau ar gyfer 3 opera ac arbedwch 15%
Archebwch docynnau ar gyfer 4 opera ac arbedwch 20%

Ar gyfer pecynnau aml-brynu, mae'n rhaid prynu'r un nifer o docynnau ar gyfer pob opera. Yn gymwys i'r 3 pris drutaf. Caiff y cynnig ei brosesu yn eich basged siopa.

CYNIGION GRŴP

Grwpiau 10+, gostyngiad o £4 (prisiau 2 - 5)
Trefnu ymweliad grŵp

YSGOLION

£12.50 - yn berthnasol i seddi penodol (nifer cyfyngedig ar gael). Tocyn athro am ddim gyda phob 10 disgybl. Ffôn 029 2063 6464.

O DAN 16

£10 wrth archebu gydag oedolyn sy'n talu am docyn pris llawn (nifer cyfyngedig ar gael). Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.

Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd

Cyd-gynhyrchiad â Grand Théâtre de Genève

Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon

Opera Cenedlaethol Cymru

Gweld popeth
National Opera Studio Showcase

Sioe Arddangos National Opera Studio

Text: Play Opera LIVE

Chwarae Opera YN FYW

Text: The Marriage of Figaro

Opera Cenedlaethol Cymru: The Marriage of Figaro

Testun: Peter Grimes Britten

Opera Cenedlaethol Cymru: Peter Grimes

Testun: Rigoletto Verdi

Opera Cenedlaethol Cymru: Rigoletto

Testun: Il trittico Puccini

Opera Cenedlaethol Cymru: Il trittico

Testun: Ffefrynnau Opera yn y Ffilmiau

Ffefrynnau Opera yn y Ffilmiau

Testun: The Marriage of Figaro

Opera Cenedlaethol Cymru: The Marriage of Figaro