Mae Canolfan Mileniwm Cymru a Gŵyl Undod Hijinx yn cyflwyno Unity Expanded – arddangosfa am ddim o dri darn o waith gan artistiaid a chreawdwyr anabl sy'n gweithio ym maes technoleg ymdrochol.
Gan dynnu sylw at weithiau o bob cwr o'r byd, mae'r arddangosfa yn dathlu artistiaid anabl, yn gwthio ffiniau adrodd straeon ac yn herio canfyddiadau cymdeithasol o anabledd.
CREATING THE SPECTACLE!
Artist anabl o Ddyfnaint yw Sue Austin, sy'n ceisio newid canfyddiadau am gadeiriau olwyn. Iddi hi, mae cadair olwyn yn rhoi rhyddid iddi. Mae hi'n 'hedfan' cadair olwyn y Gwasanaeth Iechyd danddwr. Mae hi wedi addasu'r gadair gyda llafnau gwthio (propellers) batri ac aerffoiliau persbecs mawr i reoli troi. Mae hi yn y broses o wneud cais am batent ac mae'n gobeithio un diwrnod bydd y cadeiriau yma ar gael mewn canolfannau deifio ledled y byd.
CLODRESTR
NOTES ON BLINDNESS
Darganfyddwch y profiad VR naratif arobryn Notes On Blindness – taith emosiynol i fyd tu hwnt i olwg. Yn 1983, ar ôl degawdau o ddirywio cyson, aeth John Hull yn ddall yn llwyr. I'w helpu i wneud synnwyr o'r newid mawr yn ei fywyd, dechreuodd ddogfennu ei brofiadau ar gasetiau sain. Y recordiadau dyddiadur gwreiddiol yma sy'n creu sail y naratif anffuglennol rhyngweithiol yma sy'n brofiad gwybyddol ac emosiynol o ddallineb. Mae adrodd straeon, cyfarwyddyd celf a bydysawd graffigol yn creu trochiad unigryw ac unigol, wedi'i gwblhau gan olrhain symudiadau, sain ofodol a rhyngweithio â rheolydd.
CLODRESTR
TURBULENCE: JAMAIS VU
'Where déjà vu refers to something new feeling familiar, jamais vu is the sensation of something mundane feeling suddenly unfamiliar. For me, this depersonalisation – which impacts my relationship to myself, my space, and those around me – is the first sign that a vestibular migraine attack is coming.' (Ben Andrews – Creawdwr)
Gan adeiladu ar ei brofiad ei hun o feirgryn festibwlar (VM) cronig, mae Turbulence: Jamais Vu yn brofiad realiti cymysg sy'n dod â chi i mewn i realiti Ben, gan ymgorffori desg ffisegol gyda chamera dyfnder wedi'i fowntio i'r penset VR. Mae hyn yn caniatáu i chi weld eich dwylo eich hun a rhyngweithio â'r amgylchedd o'ch cwmpas... ond mae'r hunan a'r byd yn mynd yn fwyfwy rhyfedd yn y profiad yma, gan ddrysu canfyddiadau a swyddogaeth echddygol (motor) normadol.
CLODRESTR
Amseroedd agor:
Sul – Llun: 11am – 4pm
Maw – Sad: 11am – 6pm (tan 7pm yn ystod Gŵyl Undod Hijinx)
Hyd y profiadau:
Notes on Blindness: 24 munud
Jamais Vu: 10 munud
Creating the Spectacle: Ar lŵp
Canllaw oed:
Notes on Blindness a Jamais Vu: 13+
Creating the Spectacle: Mae croeso i bob oed. Rhaid i bobl o dan 16 fod yng nghwmni oedolyn.
Prif lun
'Freewheel' | Hawlfraint Llun: Sue Austin. Ffotograffiaeth: Norman Lomax
Beth yw profiad realiti rhithwir?
Realiti rhithwir (VR) yw’r defnydd o dechnoleg gyfrifiadurol i greu byd efelychiadol (simulated). Mae gwesteion yn gwisgo penset gyda chlustffonau integredig dros eu clustiau.
Oes angen archebu lle?
Nac oes - gerdded i mewn ar y diwrnod.
Mae lle i 3 person ym mhob sesiwn.
Mynediad olaf yw 6pm Maw – Sad, 4pm Sul a Llun.
Oes angen i mi ddod ag unrhyw beth?
Gallwch chi wisgo sbectol o dan y penset VR, ond efallai y bydd yn fwy cyfforddus i chi wisgo lensys cyffwrdd neu beidio gwisgo eich sbectol yn ystod y profiad.
Beth yw'r mesurau iechyd a diogelwch?
Dyw’r rhan fwyaf o bobl ddim yn profi unrhyw ymatebion negyddol i Realiti Rhithwir (VR). Fodd bynnag, gall VR fod yn ddryslyd i unigolion sy’n niwroamrywiol, sydd ag amhariadau clywedol neu weledol, neu sy’n profi’r bendro, epilepsi, penysgafnder, ffitiau, salwch teithio neu lewygu.
Os ydych chi’n feichiog neu os oes gennych reoliadur y galon, siaradwch â’ch meddyg teulu cyn cymryd rhan.
Bydd hwyluswyr wedi’u hyfforddi wrth law i roi cymorth ac arweiniad yn ystod y profiad os bydd angen.
Rydyn yn glanhau a diheintio’r holl offer, gan gynnwys pensetiau a chlustffonau, yn drylwyr â weipiau gwrthfacteria o safon ysbyty a pheiriant UV cyn pob defnydd. Gofynnwn i chi ddefnyddio’r diheintydd dwylo rydyn ni'n ei ddarparu wrth gyrraedd.
Rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni rhiant neu warcheidwad. Ni argymhellir VR i bobl o dan 13 oed.
Ni chaniateir babis mewn sling yn y profiad.
Ni fydd unrhyw gwesteion sy'n cyrraedd o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau yn gallu cymryd rhan.
Am Ŵyl Undod
Gŵyl Undod Hijinx yw un o wyliau celfyddydol cynhwysol mwyaf Ewrop, a’r unig un o’i math yng Nghymru.