Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Ar y Ffordd yr Hydref Hwn

Yn teimlo’n drist bod gwyliau’r haf drosodd? Peidiwch â phoeni, mae gennym ddigonedd o sioeau i’ch temtio rhwng nawr a’r Nadolig.

SOUTH PACIFIC

Rydyn ni’n eich gwahodd i ymuno â ni ar draethau de’r Pasiffig ar gyfer y stori gariad bwerus a bythgofiadwy hon. Bydd Julian Ovenden yn serennu fel Emile de Becque a bydd Gina Beck yn chwarae Ensign Nellie Forbush, gyda chast syfrdanol o dros 30 gan gynnwys Rob Houchen, Joanna Ampil a Sera Maehara. Mae South Pacific yn cynnwys un o sgorau mwyaf eiconig Rodgers & Hammerstein, gan gynnwys caneuon fel Some Enchanted Evening, I’m Gonna Wash That Man Right Outta My Hair a Bali Ha’i.

11 – 15 Hydref 2022

THE COLOR PURPLE

Yn chwilio am sioe gerdd sy’n llawn cariad, ysbryd ac enaid? Dyma’r un i chi. Mae’r sioe gerdd nodedig hon, sydd wedi’i hysbrydoli gan gerddoriaeth jazz, ragtime, efengylol a blues, yn dathlu bywyd, cariad a’r cryfder i sefyll dros bwy ydych chi a’r hyn rydych chi’n credu ynddo.

18 – 22 Hydref 2022

LLAIS

Mae ein gŵyl gelfyddydol ryngwladol, sydd wedi’i hysbrydoli gan yr offeryn sy’n cysylltu pob un ohonom ni, sef y llais, yn ôl gydag enw newydd a lein-yp cyffrous. Dros bum diwrnod bydd gennym raglen gyffrous o gerddoriaeth ryngwladol, sgyrsiau a phrofiadau ymdrochol gan gynnwys In Pursuit of Repetitive Beats. Ymunwch â ni i weld John Cale, Abdullah Ibrahim, Midlake, Cate le Bon a llawer mwy

26 – 30 Hydref 2022

SISTER ACT

Mae eich gweddïau wedi’u hateb wrth i’r cynhyrchiad bendigedig hwn ddod i’r Theatr Donald Gordon i adrodd stori hoff leian pawb sydd ar ffo! Mae’r sioe gerdd nefolaidd hon, sy’n cynnwys seren y teledu a’r West End Lesley Joseph a Lizzie Bea a cherddoriaeth wreiddiol gan Alan Menken (Aladdin ac Enchanted gan Disney) sydd wedi ennill gwobr Tony ac wyth gwobr Oscar gyda chaneuon wedi’u hysbrydoli gan Motown, soul a disgo, yn llawen ac yn ddyrchafol.

31 Hydref – 5 Tachwedd 2022

MY FAIR LADY

Ymlaciwch a mwynhewch yr adfywiad cyffrous, godidog a hyfryd hwn o My Fair Lady, sy’n cynnwys cerddorfa lawn, gwisgoedd cyfareddol a set anhygoel.

Bydd Michael D. Xavier (Sunset Boulevard), sydd wedi cael ei enwebu am wobr Olivier ddwywaith, yn serennu fel Henry Higgins a bydd Charlotte Kennedy (Les Misérables) yn chwarae Eliza Doolittle. Mae’r cast hefyd yn cynnwys Adam Woodyatt (Ian Beale yn EastEnders) fel Alfred P. Doolittle, Heather Jackson (The Phantom of the Opera) fel Mrs Higgins, John Middleton (Ashley Thomas o Emmerdale) fel Colonel Pickering, Lesley Garrett (The Singer, The Lesley Garrett Show) fel Mrs Pearce a Tom Liggins fel Freddy Eynsford-Hill.

Mae My Fair Lady yn ffordd hyfryd o ddathlu bod theatrau ar agor unwaith eto.

8 – 26 Tachwedd 2022

THE MAKING OF A MONSTER

The Making of a Monster yw stori hunangofiannol Connor Allen. Mae’r Children's Laureate Wales yn archwilio sut roedd yn teimlo yn tyfu i fyny fel person hil gymysg yng Nghasnewydd yn y 2000au – yn rhy ddu i’w ffrindiau gwyn, ond yn rhy wyn i’w ffrindiau du – a cheisio dod o hyd i’w le yn y byd. Mae The Making of a Monster, sydd wedi’i greu o ddiwylliant grime ac wedi’i ysbrydoli gan artistiaid gan gynnwys Dizzee Rascal, Wiley, Skepta a Kano, yn stwnsh theatr-grime.Gall grwpiau ieuenctid a sefydliadau cymunedol ddysgu mwy am y cynhyrchiad gwreiddiol hwn gan Ganolfan Mileniwm Cymru yn ein digwyddiad Dros Nos blynyddol.

9 – 19 Tachwedd 2022

BLOOD BROTHERS

Ychydig iawn o sioeau cerdd sydd wedi cael cymaint o ganmoliaeth â Blood Brothers. Bydd y stori gyfareddol a gwefreiddiol hon yn cydio ynoch o’r cychwyn cyntaf, gyda sgôr gwych gan gynnwys Bright New Day, Marilyn Monroe a’r gân emosiynol Tell Me It’s Not True. Bydd Niki Evans o X Factor yn chwarae rôl eiconig Mrs Johnstone a bydd Sean Jones yn dychwelyd ar gyfer ei daith olaf erioed. Mae hon yn sioe gerdd na fyddwch chi am ei cholli.

29 Tachwedd – 3 Rhagfyr 2022

GIRL FROM THE NORTH COUNTRY

Paratowch ar gyfer sioe sy’n cludo’r enaid yn y cynhyrchiad gwych a phwerus hwn sy’n cynnwys cerddoriaeth a geiriau gan Bob Dylan gan gynnwys Like a Rolling Stone, Slow Train, Hurricane a llawer mwy.

Mae’n 1934 yng nghanol America ac mae grŵp o eneidiau penderfynol yn cwrdd mewn hen westy. Yn sefyll wrth drobwynt yn eu bywydau, maen nhw’n sylweddoli nad yw unrhyw beth fel y mae’n ymddangos. Fodd bynnag, wrth iddyn nhw chwilio am ddyfodol a chuddio o’r gorffennol, maen nhw’n wynebu gwirioneddau nas llefarwyd am y presennol.

5 – 10 Rhagfyr 2022

LES MISÉRABLES

Yn dychwelyd ar ôl galw mawr ac wedi’i weld gan dros 120 miliwn o bobl dros y byd mewn 52 o wledydd ac mewn 22 o ieithoedd, heb os Les Misérables yw un o sioeau cerdd mwyaf poblogaidd y byd.

Bydd Siobhan O’Driscoll (taith Heathers y DU ac American Idiot yn Seland Newydd) yn chwarae ‘Éponine’ a bydd seren y West End o Gymru Lauren Drew yn chwarae ‘Fantine’ (Legally Blonde, SIX, Heathers, Evita, Kinky Boots, The Voice UK 2021)

Ymdrochwch yn y llwyfaniad newydd hwn o sioe gerdd boblogaidd gyda golygfeydd wedi’u hysbrydoli gan baentiadau Victor Hugo.

13 Rhagfyr 2022 – 14 Ionawr 2023