Caerdydd, mae’n amser cau eich ymbaréls a thynnu allan eich dillad haf gwnaethoch chi eu prynu yn obeithiol yn sêls mis Ionawr, achos mae’r tymor heulog bron yma, a does dim byd gwell na’r ddinas yn yr haf.
Ac mae gennym ni ddetholiad disglair o adloniant i chi eu mwynhau.
☀︎ SIOEAU EICONIG NA DDYLECH CHI EU COLLI
Grab your tickets to the best shows for you and the family.
Madagascar
MADAGASCAR
27–30 Mehefin
Ymunwch â’ch hoff ffrindiau wrth iddyn nhw ddianc o’u cartref yn Sw Central Park Efrog Newydd a ffeindio’u hunain ar daith annisgwyl i fyd gwirion Madagascar King Julien.
The Wizard of Oz
THE WIZARD OF OZ
23–28 Gorffennaf
Gyda beirniad Strictly Come Dancing Craig Revel Horwood fel The Wicked Witch of the West a seren JLS Aston Merrygold fel The Tin Man, bydd y cynhyrchiad ysblennydd yma yn hudol i'r teulu cyfan.
Dod o hyd i docynnau
HAIRSPRAY
29 Gorffennaf–3 Awst
Allwch chi ddim stopio’r curiad – mae HAIRSPRAY ‘NÔL AR DAITH!
Gyda Gina Murray (Chicago, Hairspray) fel y cymeriad ffyrnig ac ardderchog, Velma von Tussle. Mae brenhines Hairspray Brenda Edwards (Hairspray, We Will Rock You) yn cyfarwyddo am y tro cyntaf, a bydd yn dod ag egni a chyffro newydd, y tro yma o’r tu ôl i’r llen.
HEATHERS THE MUSICAL
13–17 Awst
Cyfarchion! Ar ôl dau dymor llwyddiannus yn y West End, rhediad hir yn The Other Palace ac ennill gwobr WhatsOnStage am y sioe gerdd newydd orau, mae Heathers The Musical, y sioe gerdd roc gomedi ddu sy’n seiliedig ar y ffilm eponymaidd o 1988, yn dychwelyd i Gaerdydd.
Heathers the Musical
BLOOD BROTHERS
20–24 Awst
Mae sioe gerdd arbennig Willy Russell yn adrodd hanes hudol a chyffrous pâr o efeilliaid a wahanwyd wedi’u geni, a chael magwraeth gwbl wahanol cyn cwrdd eto o dan amgylchiadau trasig. Mae’r cyn-deilyngwr X Factor Niki Evans yn dychwelyd i rôl eiconig Mrs Johnstone, ac mae’r sgôr rhagorol yn cynnwys Bright New Day, Marilyn Monroe, Easy Terms a’r gwefreiddiol Tell Me It’s Not True.
Here You Come Again
HERE YOU COME AGAIN
27–31 Awst
Caneuon poblogaidd Dolly Parton mewn un sioe gerdd anhygoel! Cyn y West End.
Am y tro cyntaf erioed, gellir profi holl ganeuon mwyaf llwyddiannus Dolly Parton gyda’i gilydd mewn comedi gerddorol hwyliog a llawen newydd. Mae’r sioe gerdd fywiog a theimladwy yma, sy’n cynnwys y caneuon eiconig Jolene, 9 to 5, Islands in the Stream, I Will Always Love You, Here You Come Again a mwy, yn adrodd stori edmygwr mawr y mae ei fersiwn ffantasi o’r eicon rhyngwladol Dolly Parton yn ei helpu drwy gyfnodau anodd.
☀︎ ATGOFION CERDDOROL
Llenwch eich nosweithiau gyda hiraeth ac atgofion wrth i’ch hoff gerddoriaeth gael ei hailddychmygu ar y llwyfan.
LEA SALONGA – Stage, Screen & Everything In Between
25 June
Musical theatre royalty and official Disney legend, Lea Salonga is bringing her extraordinary talent back to the UK with a new tour. Fans will experience stage and screen classics from Lea’s best-known roles in Miss Saigon, Les Misérables, Aladdin and Mulan.
RE-TAKE THAT – Take That’s Greatest Hits Live on Stage
8 August
Re-Take That is the ultimate Take That party night, bringing the world’s biggest boy band’s greatest hits to life – live on stage. Created by Take That fans, for Take That fans, all of their million sellers plus Robbie Williams’ massive solo hits feature, including Greatest Day, Let Me Go, Shine, Never Forget, Let Me Entertain You, Rock DJ, Love My Life, Angels and more.
FLEETWOOD MAC'S RUMOURS – with the Transatlantic Ensemble
9 Awst
After multiple sell out shows at the Edinburgh Fringe Festival and right across England, the Transatlantic Ensemble visit Wales for the first time this summer. They will be performing Fleetwood Mac's iconic Rumours album in its entirety, plus loads of other well-known Fleetwood Mac classics.
LOST IN MUSIC - One Night at the Disco
11 Awst
Get ready to get Lost in Music. The show that everyone is talking about, now even bigger! Join us as we recreate the magical 70s and let us take you on a musical journey straight to the heart of disco. Relive some of the greatest songs of all time from artists such as Donna Summer, Gloria Gaynor, Earth, Wind & Fire, Sister Sledge and Chic.
☀︎ PROFIADAU YMDROCHOL
Paratowch i fwrw i’r dwfn gyda chyfres o brofiadau rhyngweithiol a fydd yn mynd â chi o dan arwyneb y môr.
INVISIBLE OCEAN – Profiadau realiti rhithwir am ddim
27 Gorffennaf–8 Medi
Profiad rhyngweithiol realiti rhithwir cymdeithasol yw DROP IN THE OCEAN (Bocs) sy’n mynd â chi i lawr i ddyfnder morol y Parth Hanner Nos.
Profiad ymdrochol a rennir yw CRITICAL DISTANCE (Bocs) sy’n defnyddio realiti cymysg (MR) arloesol i ddod â chynulleidfaoedd i mewn i fyd orcaod Preswylwyr Deheuol gogledd-orllewin y Pasiffig yng Ngogledd America.
Yn INTERACTIVE OCEANS (ar hyd a lled Canolfan Mileniwm Cymru), ewch ar helfa ddigidol a defnyddiwch eich dyfeisiau symudol i ddatgelu rhai o greaduriaid morol mwyaf nodedig y byd – yn rhy fychan i lygaid pobl eu gweld!
☀︎PERFFORMIADAU UN NOSON
Ymgollwch eich hun mewn rhamant hafaidd am noson yn unig.
KIRI PRITCHARD-MCLEAN: PEACOCK
10 Awst
Stand-yp doniol gan seren Have I Got News For You a QI. ‘Expect sequins, social commentary, and massive laughs from the renaissance woman of UK comedy’ – Rolling Stone.
Kiri Pritchard-Mclean
PENWYTHNOSAU YN CABARET
"Bringing A Taste Of Soho To Cardiff Bay" - South Wales Life. Mae eich tocyn i’r Ŵyl Ymylol yn aros amdanoch chi, a does dim hyd yn oed angen i chi adael Caerdydd. Mae llu o berfformwyr yn rhoi cynnig ar eu sioeau cyn mynd â nhw i’r ŵyl enwog yng Nghaeredin. Dilynwch yr hwyl - Instagram: @cabaret_caerdydd
Teras