Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Hairspray

29 Gorffennaf – 3 Awst 2024

Theatr Donald Gordon

Allwch chi ddim stopio’r curiad – mae HAIRSPRAY ‘NÔL AR DAITH!

Gyda Gina Murray (Chicago, Hairspray) fel y cymeriad ffyrnig ac ardderchog, Velma von Tussle. Mae brenhines Hairspray Brenda Edwards (Hairspray, We Will Rock You) yn cyfarwyddo am y tro cyntaf, a bydd yn dod ag egni a chyffro newydd, y tro yma o’r tu ôl i’r llen.

Mae hyn yn graddio allan o 5 sêr

Wonderfully fresh and vivid

The Stage

Gyda rhai o ganeuon mwyaf a gorau’r byd theatr gerdd, gan gynnwys Welcome to the 60s, You Can’t Stop The Beat, Good Morning Baltimore a llawer mwy, Hairspray yw’r sioe gerdd ddoniol, lawen ac ysbrydoledig i bawb!

Dilynwch hanes Tracy Turnblad, sydd â chalon fawr, a’i ffrindiau wrth iddyn nhw ddawnsio eu ffordd i mewn i hanes yn eu hymgyrch i ymladd anoddefgarwch a hiliaeth.

O Seaweed, sy’n llawn bywyd, a’i chwaer Little Inez i Link Larkin a Motormouth Maybelle, dewch i weld y cymeriadau sy’n gwrthod cael eu tawelu yn wyneb rhagfarn a gwahaniaethu, gan ennill cydraddoldeb yn lle hynny.

Mae’r sioe gerdd ddifyr a chadarnhaol yma yn llawn caneuon bywiog a dawnsiau syfrdanol allwch chi ddim helpu ond dawnsio gyda nhw!

Canllaw oed: 8+ (dim plant dan 2 oed)

Hyd y perfformiad: tua 2 awr 15 munud yn cynnwys un egwyl

Amser dechrau:
Llun – Sad 7.30pm
Iau + Sad 2.30pm

AELODAU

Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf), nifer cyfyngedig o lefydd. Aelodaeth

GRWPIAU

Grwpiau o 10+ gostyngiad o £4 o leiaf, Llun – Iau (2 bris uchaf). Dyddiad talu grwpiau 29 Ebrill 2024. Trefnu ymweliad grŵp

O DAN 16

Gostyngiad o £4, Llun – Iau

Nodwch fod rhaid i bobl o dan 16 eistedd gydag oedolyn sy'n 18 oed neu'n hŷn

16-30

Gostyngiad o £8, Llun – Iau (4 pris uchaf, perfformiadau gyda'r nos yn unig)

Mae pob cynnig yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd

Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon