Caneuon poblogaidd Dolly Parton mewn un sioe gerdd anhygoel! Cyn y West End.
Am y tro cyntaf erioed, gellir profi holl ganeuon mwyaf llwyddiannus Dolly Parton gyda’i gilydd mewn comedi gerddorol hwyliog a llawen newydd.
Mae’r sioe gerdd fywiog a theimladwy yma, sy’n cynnwys y caneuon eiconig Jolene, 9 to 5, Islands in the Stream, I Will Always Love You, Here You Come Again a mwy, yn adrodd stori edmygwr mawr y mae ei fersiwn ffantasi o’r eicon rhyngwladol Dolly Parton yn ei helpu drwy gyfnodau anodd.
Gyda’i ffraethineb, hiwmor a chyfaredd, mae Dolly yn addysgu llawer o bethau iddo am fywyd, cariad a sut i godi'ch hun gerfydd eich careiau esgidiau eich hun hyd yn oed os nad oes rheinstonau arnynt! Mae hon yn sioe gerdd sy’n siŵr o wneud i chi wenu.
Cafodd Here You Come Again, sydd wedi cael sawl rhediad llwyddiannus ledled yr Unol Daleithiau, ei hysgrifennu’n wreiddiol gan Bruce Vilanch, yr awdur comedi a chyfansoddwr caneuon sydd wedi ennill dwy wobr Emmy, gyda Gabriel Barre (sydd hefyd yn cyfarwyddo) a Tricia Paoluccio (sydd hefyd yn chwarae Dolly), ac mae bellach wedi cael ei haddasu ar gyfer y DU gan y dramodydd Prydeinig arobryn Jonathan Harvey (Gimme, Gimme, Gimme a Coronation Street).
Amser dechrau:
Maw – Sad 7.30pm
Iau + Sad 2.30pm
Hyd y perfformiad: 2 awr 20 munud yn cynnwys un egwyl
Canllaw oed: 11+
Rhybuddion: Goleuadau sy’n fflachio
AELODAU
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf). Argaeledd cyfyngedig. Ymaelodi.
GRWPIAU
Grwpiau o 10+, gostyngiad o £4 neu fwy ar y 2 bris uchaf, Maw – Iau. Trefnu ymweliad grŵp.
POBL DAN 16
Gostyngiad o £4 ar y 2 bris uchaf, Maw – Iau. Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn.
16-30
Gostynguad o £8 (pris 2-3; Maw, Mer + Gwe 7.30pm yn unig).
Mae'r cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.
Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.
Capsiynau Agored
Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL)
Sain Ddisgrifiad
Teithiau Cyffwrdd